A fydd Cymru'n cwrdd â thargedau brechu Covid-19?
- Cyhoeddwyd
Targed cyntaf Llywodraeth Cymru o safbwynt brechu rhag Covid-19 yw y bydd 70% o bobl dros 80 oed wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn erbyn diwedd y penwythnos.
Ond fe allai fod yn rhai dyddiau cyn i'r ffigyrau swyddogol gael eu cyhoeddi fel ein bod yn gwybod i sicrwydd fod hynny wedi digwydd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn hyderus o gyrraedd y nod erbyn diwedd ddydd Sul gan ei fod yn medru gweld y data "dydd-i-ddydd".
Ond mae sawl un wedi beirniadu'r dechrau araf i'r rhaglen frechu, felly a yw Cymru ar ei hôl hi?
Beth yw'r data diweddaraf?
Ddydd Gwener fe wnaeth Cymru adrodd 21,882 o frechiadau cyntaf, sydd yn gynnydd o 50% yn y cyfanswm dyddiol o'r diwrnod cynt.
Pe byddai'r cynnydd yna'n parhau ar yr un lefel, yna fe fyddai'r targed o frechu'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror wedi'i gyrraedd.
Gyda 6.7% o'r boblogaeth yn derbyn y dos cyntaf, byddai hyn ar y blaen i'r Alban o ystyried graddfa'r boblogaeth.
Mae Lloegr wedi brechu 8.3% o'u poblogaeth, ond mae cymariaethau yn gymhleth dros ben, a hynny am fod oedi yn y ffigyrau sy'n cael eu cyhoeddi a beth sy'n digwydd go iawn.
Mae'r ffigyrau brechu sy'n cael eu cyhoeddi'n ddyddiol eisoes ychydig ddyddiau oed. Mae'n cymryd hyd at bum niwrnod wedi i berson dderbyn dos cyn i'r data yna gael ei gyhoeddi.
Mae meddygon teulu wedi cael cais i fwydo'r data i mewn cyn gynted â phosib, ond yna mae'n cael ei wirio a'i gadarnhau gan y gwasanaeth imiwneiddio cenedlaethol a Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn bod y ffigyrau'n cael eu cyhoeddi.
Felly mae oedi rhwng yr hyn y mae penaethiaid GIG Cymru yn ei weld yn digwydd yn ddyddiol a phryd yr ydym ni'n gweld y ffigyrau.
Dywedodd un swyddog iechyd eu bod yn tan-adrodd ffigyrau yn hytrach na bod "unrhyw berygl o or-adrodd".
Mae hynny'n galluogi Mr Drakeford, o'r wybodaeth sydd ganddo i law yn ddyddiol, i fod yn hyderus.
Dywedodd: "Mae gweinidogion yn gweld gwybodaeth bob dydd - gwybodaeth sy'n dod gan y gwasanaeth iechyd - mwy neu lai fel mae'n digwydd.
"Mae'r ystadegau sy'n cael eu cyhoeddi ar ei hôl hi mewn ffordd. Rhaid casglu'r ffigyrau gan y gwasanaeth iechyd, yna rhaid eu gwirio nhw a sicrhau eu bod yn safonol ac yna maen nhw'n cael eu cyhoeddi fel ffigyrau swyddogol."
Sut mae hyn yn cymharu gyda Lloegr?
Yn Lloegr mae'r ffigyrau 'dydd-i-ddydd' yn cael eu cyhoeddi y diwrnod canlynol, ac mae'r ffigyrau yna'n cael eu newid yn ddiweddarach pan bod angen.
Felly mae'r ffigyrau swyddogol gan GIG Lloegr - sy'n dangos cyfradd uwch o frechu - o flaen eu hamser o gymharu gyda Chymru. Maen nhw'n dweud ar eu gwefan bod y data "dros dro" yn dangos dosau a roddwyd erbyn hanner nos y diwrnod cyn cyhoeddi, ac "mae'r ffigwr wythnosol wedyn yn rhoi darlun mwy cywir gan gynnwys data dosau ac oedran".
Roedd Cymru wedi rhoi brechiad i 6% o'r boblogaeth erbyn 21 Ionawr. Roedd Lloegr wedi cyrraedd 6% bedwar diwrnod yn gynt, ond heb yr oedi mewn cyhoeddi'r ystadegau.
Dulliau gwahanol, ond canlyniadau tebyg
Roedd hi'n ymddangos bod Cymru wedi dechrau'n araf fis diwethaf o gymharu â gwledydd eraill y DU.
Un eglurhad gan benaethiaid iechyd Cymru yw fod hynny yn ganlyniad i ddulliau gwahanol gan y cenhedloedd gwahanol, ac mae disgwyl i hynny gydbwyso rhwng nawr a Chwefror.
Fe wnaeth Gogledd Iwerddon ganolbwyntio ar unedau symudol i gartrefi gofal; prif ffocws Lloegr oedd canolfannau gofal sylfaenol tra bod Cymru wedi dechrau gyda chanolfannau brechu torfol cyn cyflwyno rhwydwaith o feddygon teulu, gan gynyddu hynny wrth i mwy o'r brechlyn AstraZeneca ddod ar gael.
Fe ddywed swyddogion iechyd Cymru bod meddygon teulu yn crynhoi eu clinigau brechu o ddydd Mercher ymlaen ac i'r penwythnos. Dyw ffigyrau brechu ddim yn cael eu cyhoeddi ar benwythnosau yng Nghymru beth bynnag, ond fe ddylen ni weld ffrwyth y llafur yna yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Mae disgwyl i'r 650,000 o bobl yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn canol Chwefror.
Bydd tua 40% o'r brechlynnau yma'n cael eu rhoi mewn canolfannau brechu torfol - rhwydwaith o tua 35 canolfan - gyda'r brechlyn Pfizer/BioNTech. Mae'r grwpiau yna'n cynnwys gweithwyr iechyd a gofal, ac yn yr wythnosau i ddod pobl dros 70 oed.
Bydd tua 48% o'r brechlynnau i'r grwpiau blaenoriaeth uchaf yn cael eu rhoi mewn meddygfeydd lleol - 250 ohonyn nhw - ac fe fydd meddygon yn rhoi'r brechlyn AstraZeneca i bobl dros 80 oed i gychwyn.
Bydd unedau symudol yn darparu 5% o'r brechlyn i'r bobl sydd wedi'u hynysu neu mewn cartrefi gofal, a 7% yn rhagor drwy fodel hybrid gyda chanolfannau brechu allai fod ar agor am gyfnod byr yn unig.
Mae cynllunio'r rhaglen frechu a faint o frechiadau fydd yn cael eu rhoi drwy'r dulliau gwahanol yn dibynnu ar gyflenwadau, ond mae swyddogion iechyd yn cynllunio nawr i agor canolfannau brechu yn hwyr, gan gynnwys o bosib am 24 awr yn y dyfodol.
Maen nhw hefyd yn ystyried hyfforddi optegwyr a deintyddion i gynorthwyo, ynghyd â chael pobl Urdd Sant Ioan a diffoddwyr tân i gynorthwyo.
Mae GIG Cymru yn defnyddio system ei hun ar gyfer trefnu'r rhaglen frechu. Mae'n cael ei diweddaru bedair gwaith y dydd, ac yn medru rheoli cyflenwadau a gweld pwy sydd i fod i gael brechiad pryd ac yn lle.
A fydd cynnydd dros y penwythnos?
Dyma yw gobaith swyddogion iechyd. Maen nhw'n dweud bod 180,000 dos o frechlyn Pfizer-BioNTech a 140,000 dos o frechlyn AstraZeneca - cyfanswm o 320,000 - wedi mynd allan i fyrddau iechyd, ac y byddan nhw'n cael eu defnyddio ac yn dechrau dangos yn y ffigyrau.
Mae'r bwlch rhwng cyflenwadau'n cael eu gyrru a'r brechiadau yn digwydd eisoes yn mynd yn llai, sy'n awgrymu bod cyflymu wedi bod yn barod.
Mae'r rhai sydd yng ngofal y rhaglen frechu yn dweud eu bod yn gallu gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl dros 80 oed a staff cartrefi gofal sydd wedi cael eu brechu, ac mae'r gweinidog iechyd wedi dweud ei fod yn disgwyl i'r rhaglen frechu "gynyddu'n sylweddol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021