Dychwelyd 28 o gŵn 'wedi eu dwyn' at eu perchnogion

  • Cyhoeddwyd
Amgylchiadau byw yn cŵnFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai o'r cŵn eu darganfod mewn bocsys mewn sied

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod 28 o gŵn a oedd yn cael eu hamau o fod wedi'u dwyn wedi cael eu dychwelyd yn ddiogel i'w perchnogion cyfreithlon.

Fe gadarnhaodd swyddogion, sy'n ymchwilio i achosion posib o ddwyn cŵn, bod tri o bobl bellach wedi cael eu harestio.

Cafodd hyd at 80 o gŵn eu darganfod mewn eiddo yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul, Ionawr 24 ac fe ddaeth Heddlu'r De o hyd i nifer o gŵn eraill yn ardal Llansawel ddydd Sadwrn diwethaf.

Yn ôl yr heddlu mae'r cŵn sy'n weddill yn derbyn gofal wrth i ymholiadau barhau.

Gofalu am rai cŵn

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Barry Kelly: "Mae ein hymholiadau yn parhau er mwyn canfod pwy yw perchnogion cyfreithlon y cŵn ond hyd yn hyn rydym wedi dychwelyd 28 o gŵn i'w perchnogion, sy'n newyddion cadarnhaol iawn.

"Unwaith y bydd rhestr lawn o'r anifeiliaid a gafodd eu darganfod yn barod, byddwn yn adolygu unrhyw gofnodion trosedd ac ymholiadau perthnasol gan y cyhoedd a'r bwriad yw dychwelyd y cŵn.

"Mae'r cŵn sy'n weddill i gyd yn ddiogel ar hyn o bryd ac yn cael gofal gan swyddogion proffesiynol wrth i ni gynnal ein hymchwiliad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o gŵn, nid yr un yma, eu darganfod wedi cyrch gan yr heddlu penwythnos diwethaf

Mae pob un o'r cŵn wedi eu sganio am ficrosglodion gyda chymorth swyddogion lles anifeiliaid, yr awdurdod lleol a Heddlu De Cymru.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys eisoes wedi arestio dau mewn cysylltiad â'r ymchwiliad. Cafodd un ei arestio ar ddydd Sul, Ionawr 24 ar amheuaeth o drin nwyddau wedi'u dwyn a'r llall ei arestio ar ddydd Iau, Ionawr 28 ar amheuaeth o ladrata.

Mae'r ddau wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru hefyd arestio dyn ar amheuaeth o drin nwyddau wedi'u dwyn ddydd Mercher, Ionawr 27. Mae wedi cael ei ryddhau tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Barry: "Tra bod un person wedi cael ei arestio yn y lleoliad, rydym wedi bod yn dilyn sawl trywydd gyda'r bwriad o ddod o hyd i bobl eraill sydd dan amheuaeth.

"O ystyried maint y cynllwyn rydyn ni'n credu bod mwy nag un unigolyn yn gyfrifol."