Darganfod dros 80 o gŵn sydd 'wedi eu dwyn'

  • Cyhoeddwyd
Labrador
Disgrifiad o’r llun,

Y gred ydy bod troseddwyr yn targedu mam gŵn a'u llwythi oherwydd y cynnydd yn y galw am gŵn bach yn ystod y pandemig

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i nifer fawr o gŵn sy'n cael eu hamau o fod wedi eu dwyn yn ystod y misoedd diwethaf mewn dau leoliad.

Aeth Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu De Cymru i ddwy ardal wahanol dros y penwythnos, lle cafodd cŵn a chŵn bach sy'n werth degau o filoedd o bunnoedd eu darganfod.

Ddydd Sul (Ionawr 24), aeth Heddlu Dyfed-Powys i gyfeiriad yn Sir Gaerfyrddin, lle daeth swyddogion o hyd i nifer fawr o gŵn a chŵn bach mewn adeiladau allanol.

Roedd yr heddlu'n amcangyfrif bod rhwng 70 ac 80 o gŵn yno, ac mae swyddogion yn parhau ar y safle yn goruchwylio'r gwaith o sganio'r anifeiliaid am ficrosglodion.

Ddydd Sadwrn (Ionawr 23) fe welodd Heddlu'r De sawl ci yn cael eu rhyddhau ar dir comin o leoliad cyfagos yn Llansawel, Castell-nedd Port Talbot, ac fe ddaethon nhw o hyd i chwe chi.

Yn ôl yr heddlu mae perchnogion y cŵn hyn sydd wedi'u dwyn wedi cael eu hadnabod, ac wedi cael eu dychwelyd adref.

Mae ymchwiliad troseddol pellach yn parhau.

'Creaduriaid byw sy'n teimlo poen a cholled'

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Cath Larkman, o Heddlu De Cymru: "Rhaid cofio nad eitemau o werth ariannol yw'r cŵn hyn yn unig, ond bod y rhain yn greaduriaid byw sy'n teimlo poen a dioddefaint a cholled wrth gael eu dwyn ac mewn sawl achos maent yn aelodau annwyl o deuluoedd.

"Syrthiodd un o'r cŵn yn Llansawel i'r dŵr mewn panig wrth gael ei ryddhau a bu'n rhaid iddo gael ei achub rhag boddi gan heddwas", meddai Ms Larkman.

Mae un person wedi'i arestio ar amheuaeth o drin nwyddau wedi'u dwyn yn dilyn y warant yn eiddo Sir Gaerfyrddin, ac ar hyn o bryd mae yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Barry Kelly, o Heddlu Dyfed-Powys: "Cawsom rybudd am yr eiddo hwn gan berchennog cŵn a oedd wedi colli pum ast ac 17 ci bach ddydd Gwener, Ionawr 22.

"Mae gennym swyddogion lles anifeiliaid, staff awdurdodau lleol a swyddogion Heddlu De Cymru yn yr eiddo heddiw, sy'n gwneud eu ffordd drwy'r safle cyfan yn sganio'r cŵn," meddai.

"Y broblem sydd gyda ni yw nad yw'r cŵn bach wedi cael microsglodyn, felly oni bai eu bod yn bwydo o'r fam gi tra ein bod ni yno, bydd yn anodd iawn olrhain eu perchnogion.

Rhybudd i fridwyr cŵn

Ffynhonnell y llun, Sarah Wood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd chwech o gŵn eu dwyn o fferm Sarah Wood yn Nhonmawr, Castell-nedd Port Talbot ar 30 Rhagfyr 2020

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys roedden nhw wedi cael gwybod am saith trosedd mewn perthynas â lladrad cŵn yn ystod y chwe mis diwethaf.

Dywedodd yr heddlu y bydd swyddogion yn adolygu'r ymchwiliadau hyn ac yn ail-gysylltu â'r dioddefwyr.

"Er ein bod wedi arestio, mae ein hymholiadau yn dal i fod yn gynnar, a hoffem glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein cynorthwyo", meddai Mr Kelly.

"Rydym hefyd yn annog perchnogion cŵn - ac yn enwedig bridwyr - i fod yn wyliadwrus a chymryd pob cam posibl i sicrhau bod eu hanifeiliaid yn ddiogel.

"Amcangyfrifwyd bod nifer o gŵn a gafodd eu dwyn mewn un digwyddiad yn unig a adroddwyd i ni werth oddeutu £40,000, sy'n dangos bod y rhain yn ladradau gwerth uchel iawn", meddai.