'Pob brechiad yn fuddugoliaeth fach yn erbyn Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brechu menywFfynhonnell y llun, OLI SCARFF/Getty Images

Mae dros 416,000 o bobl Cymru wedi cael eu brechiad cyntaf rhag coronafeirws, sy'n gyfystyr â 13% o'r boblogaeth.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae pob cartref gofal Cymru naill ai wedi cael eu hymweld gan dimau brechu neu'n disgwyl ymweliad yn fuan.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Eluned Morgan mai "achosion Covid-19 yn y 20 diwrnod diwethaf" sydd wedi atal brechiadau hyd yma yn y cartrefi sy'n aros am ymweliad.

"Bydd y timau brechu'n ymweld â'r cartrefi hyn cyn gynted ag y mae'r cyngor iechyd cyhoeddus yn ei ganiatáu," meddai yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth.

"Mae pob brechiad yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws."

Ychwanegodd y byddai penderfyniad ar agor ysgolion i rai disgyblion erbyn diwedd yr wythnos.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 416,306 o bobl wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn, a 841 wedi cael ail ddos.

Cyfradd achosion
Disgrifiad o’r llun,

Ar gyfartaledd, cyfradd achosion Cymru yw 141.2 fesul 100,000 o bobl, o'i gymharu â dros 650 fesul 100,000 cyn y Nadolig

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi manylion pecyn ariannol ar gyfer cefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn sgil y pandemig.

Roedd yna ymroddiad unwaith yn rhagor yn y gynhadledd mai'r flaenoriaeth "yw cael myfyrwyr yn ôl yn yr ysgol gynted â phosib".

Ychwanegodd Ms Morgan y byddai cyhoeddiad pellach ar ddychwelyd i ysgolion ddydd Gwener.

Cadw cysylltiad gyda'r Gymraeg

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun

Tynnodd Ms Morgan, sydd hefyd yn gyfrifol am bortffolio'r Gymraeg, sylw rhieni at yr adnoddau sydd ar gael at blatfform Hwb fyddai'n eu helpu cefnogi plant gyda'u gwersi Cymraeg adref.

"Mae'n bwysig i rieni wybod, yn enwedig rhieni di-Gymraeg, bod y sgiliau iaith mae plant yn eu hennill yn aros gyda nhw am byth," dywedodd.

"Tra'u bod yn dysgu o adref, os gwelwch yn dda a wnewch chi eu hannog i wylio ac i wrando ar y Gymraeg ar y teledu neu'r radio - hyd yn oed yn y cefndir - fel y gallan nhw gadw'r cysylltiad gyda'r iaith."

Pwysau'n parhau ar ysbytai

Mae ffigyrau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cofnodi 21 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws a 630 o achosion newydd.

Mae'r dod â chyfanswm y marwolaethau i 4,775 a chyfanswm yr achosion i 192,912.

Mae'r achosion newydd yn cynnwys 63 yn Wrecsam, 59 yn Sir Y Fflint, 56 yng Nghaerdydd, 52 yng Nghaerffili a 50 yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd 12,269 o brofion eu cynnal yn y cyfnod 24 awr diweddaraf.

Gwely ysbyty (llun stoc)Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gyfradd achosion dros saith diwrnod yng Nghymru wedi gostwng i 141 i bob 100,000 o'r boblogaeth.

Wrecsam sy'n parhau â'r gyfradd uchaf, sef 385.4, gyda chyfradd Sir y Fflint (262) yn ail a Chasnewydd yn drydydd gyda 155.

Serch hynny, mae'r GIG yn parhau dan bwysau, yn ôl y cyfarwyddwr sy'n arwain ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r pandemig.

"Mae'r ysbytai'n dal yn llawn, mae unedau gofal critigol yn llawn ac, yn anffodus, mae nifer y bobl sy'n marw yn dal yn uwch na'r hyn ry'n ni'n dymuno," meddai Dr Giri Shankar.

Mae llawer o ysbytai eisoes wedi canslo rhai triniaethau nad sy'n rhai brys wrth i nifer y cleifion coronafeirws sydd angen triniaeth godi i fwy na dwbl uchafbwynt mis Ebrill.

Yn dilyn y niferoedd uchaf erioed ar ddechrau'r flwyddyn, roedd nifer y cleifion Covid yn ysbytai Cymru wedi gostwng i 2,623 erbyn 28 Ionawr, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Tra bo'r niferoedd wedi bod yn uwch yn ystod y mis, roedden nhw wedi dechrau cynyddu eto yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, ac fe gofnododd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei nifer uchaf o gleifion - 383 - ddydd Mercher, 27 Ionawr.