'Tasg fawr' yn wynebu'r byd addysg wedi'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gweithio adrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd helpu plant i ddal fyny gydag unrhyw fwlch yn eu haddysg o ganlyniad i'r pandemig yn "dasg fawr" i'r gyfundrefn addysg, yn ôl y corff arolygu Estyn.

Yn ôl adroddiad blynyddol y corff mae canfyddiadau cynnar ers dechrau Medi yn awgrymu fod "nifer o ddisgyblion wedi gweld gostyngiad o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd".

Ond mae'r adroddiad yn dweud fod yna fuddion annisgwyl hefyd, gan gynnwys mwy o ffocws ar les disgyblion o fewn yr ysgol.

Dywedodd Meilyr Rowlands, prif arolygydd addysg a hyfforddiant Estyn, ei bod yn bosib fod yr angen i fod yn fwy creadigol hefyd wedi bod o fudd.

'Addasu yn gyflym'

Daw hyn wrth i'r gyfundrefn addysg baratoi i gyflwyno cwricwlwm newydd i ysgolion yng Nghymru erbyn 2022

Dywed yr adroddiad fod ysgolion wedi addasu'n gyflym i'r angen am addysgu o bellter, pan fu'n rhaid cau ym mis Mawrth 2020.

Dywedodd Mr Rowlands: "Mae'r pandemig wedi creu'r angen i arloesi.

"Mae'r cyfnod dysgu gartref wedi golygu bod pob ysgol wedi gorfod meddwl o'r newydd am y ffordd y mae disgyblion yn dysgu a sut orau y gall addysgu wyneb yn wyneb hybu gwydnwch a sgiliau dysgu annibynnol."

Ychwanegodd y "gallai effaith hirdymor yr argyfwng hwn gryfhau'r paratoadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud fod ffocws ar les plant wedi cynyddu ers y pandemig

Ond, medd yr adroddiad, nid oedd y darlun ledled Cymru yn un o gysondeb.

Mewn rhai ardaloedd roedd lefel mewnbwn disgyblion mor isel â 20% mewn rhai ysgolion.

Roedd hynny yn cymharu â chyfartaledd o 95% yn yr enghreifftiau gorau.

Dywedodd y prif arolygydd: "Bydd helpu'r dysgwyr, yn enwedig y rhai agored i niwed a'r rhai dan anfantais, i ddal i fyny yn dasg fawr i'r system addysg a hyfforddiant at y dyfodol."

Ychwanegodd yr adroddiad fod prifathrawon wedi amlygu bwlch digidol rhwng rheini oedd â'r gallu i gefnogi eu plant adref, a'r rhieni yna heb sgiliau digidol.

Pynciau cysylltiedig