Loren Dykes yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol

  • Cyhoeddwyd
LDFfynhonnell y llun, Kunjan Malde
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yw'r unig chwaraewr sydd wedi ennill mwy o gapiau na Loren Dykes i'r tîm cenedlaethol

Mae Loren Dykes wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o bêl-droed proffesiynol.

Enillodd 105 o gapiau dros Gymru mewn gyrfa o 13 mlynedd, gan ennill ei 100fed cap yn erbyn y Weriniaeth Siec yn 2019.

Yn ystod ei gyrfa, bu'n cynrychioli Pontardawe, Llanelli, Prifysgol Met Caerdydd a Dinas Caerdydd cyn symud i Fryste yn nhymor 2008-09.

Gyda chlwb Bryste, chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan FA Merched Lloegr ddwywaith, ac yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mae'n ymddeol nawr er mwyn canolbwyntio ar hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, CBDC

Yn 2019, derbyniodd MBE am ei chyfraniad i bêl-droed merched yng Nghymru.

Dywedodd: "Bydd cynrychioli Cymru yn aros yn y cof am oes... roedd hi'n anrhydedd enfawr.

"Rwyf nawr yn gobeithio helpu'r twf ym mhêl-droed merched yng Nghymru trwy hyfforddi ac ysbrydoli'r dyfodol."