Pobl dros eu 70 i gysylltu am frechiad mewn rhai mannau
- Cyhoeddwyd

Mae pobl sydd dros 70 oed neu sydd mewn grŵp hynod fregus yn cael eu hannog i alw'r gwasanaeth iechyd mewn rhai rhannau o Gymru er mwyn archebu brechiad.
Dywed byrddau iechyd y dylai pobl gysylltu â nhw pe na bai nhw heb gael apwyntiad.
Daw'r alwad wrth i nifer y bobl sydd wedi marw gyda'r haint Covid-19 groesi'r 5,000.
Yn y gogledd, dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fod apwyntiadau ar gael yr wythnos hon.
Erbyn hyn mae dros 600,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn.
Hefyd erbyn hyn mae canran y bobl sydd wedi cael eu brechu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.
Cyn hyn roedd pobl dros eu 70 neu mewn grŵp bregus wedi cael eu hannog i beidio cysylltu â'u byrddau iechyd ar gyfer apwyntiad.
Yn hytrach roedd llythyron yn cael eu hanfon iddynt.
Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau fod tua 750,000 o bobl - gan gynnwys gweithwyr iechyd a phobl dros 70 - yn cael eu dos cyntaf erbyn ganol Chwefror.

DIWEDDARAF: Ymchwiliad 'fforensig' i achosion o haint De Affrica
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
DYSGU: Dysgu adref gyda Bitesize

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn annog pobl yn grwpiau blaenoriaeth un i bedwar i gysylltu â nhw, gyda gofyn i bobl 75 neu'n hyn i gysylltu â'u meddyg teulu.
Dywed Hywel Dda eu bod yn hyderus y bod pawb o fewn grwpiau un i bedwar wedi cael cynnig apwyntiad erbyn dydd Llun.
"Ond mae pobl yn newid eu rhifau ffôn neu yn symud i gyfeiriad newydd, a dyw'r manylion diweddara o bosib ddim yn nwylo'r gwasanaethau iechyd," meddai prif weithredwr y bwrdd, Steve Moore.
"Dyna pam rydym am wneud yn gwbl sicr nad oes unrhyw un wedi colli cyfle ar gyfer apwyntiad i gael eu brechu."
Mae pobl yn y grwpiau dan sylw yn cael eu hannog i gysylltu â chanolfan apwyntiadau Hywel Dda.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021