Trais yn y cartref: Pwy all fod yn dyst yn ystod pandemig?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dyn yn dod â pharseli i'r drwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mewn cyfnod clo mae gweithwyr danfon parseli ymhlith y bobl prin sy'n curo ar ddrysau aelodau'r cyhoedd

Mae ymchwil ar droed i ddarganfod a ydy gweithwyr danfon parseli'n dyst i drais yn y cartref yn ystod y pandemig, a sut gallen nhw helpu.

O ganlyniad i'r cyfnodau clo, mae pryderon wedi codi fod trais domestig yn bandemig ynddo'i hun bellach.

Yn ôl Uned Atal Trais Cymru mae angen i drais domestig "fod yn fusnes i bawb".

Fe allai cydweithwyr sy'n rhan o'r un cyfarfodydd ar-lein helpu dioddefwyr, yn ôl yr uned ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus eraill, ac fe allai gyrwyr hefyd fod yn dyst i gamdriniaeth.

'Angen newid agweddau'

Mae pobl yn aml yn gyndyn o ymyrryd "ym musnes preifat pobl", medd Jo Hopkins, cyfarwyddwr rhaglen atal trais Iechyd Cyhoeddus Cymru, "neu'n poeni y byddai gwneud rhywbeth yn gwaethygu'r sefyllfa, neu'n rhoi eu hunain mewn perygl".

"Felly mae angen newid agweddau. Rydym yn awyddus i ddeall yn well yr hyn mae angen i ni wneud, fel bod pobl yn deall bod trais domestig yn fusnes i bawb."

Yr wythnos hon mae arolwg dienw wedi'i lansio ar gyfer rheiny sydd wedi gweld, neu'n amau iddyn nhw weld, trais yn y cartref.

Bydd yn gofyn beth sydd wedi atal pobl rhag helpu, a beth sy'n angenrheidiol i fwy o bobl weithredu.

"Dydyn ni ddim o reidrwydd yn sôn am ymyriadau enfawr," medd Ms Hopkins.

Dywedodd y gall unrhyw un ffonio'r llinell gymorth Byw Heb Ofn os ydyn nhw'n poeni ynghylch rhywun maen nhw'n ei 'nabod.

"Ond os ydy rhywun yn cymryd y cam hwnnw ac yn gofyn am help, mae wir angen i'r ymateb fod yn briodol," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod y pandemig yn ei gwneud hi'n haws nag arfer i guddio trais domestig

Bydd rhan o'r gwaith yn ystyried tybiaethau ynghylch beth yn union yw trais domestig, a phwy mae'n ei effeithio.

"Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â deall y gall hyn ddigwydd i unrhyw un," medd Ms Hopkins.

Gofod diogel

Mae Debanjali Bhattercharjee yn llysgennad prosiect Gofyn i Mi elusen Cymorth I Ferched Cymru.

Dywedodd: "Mae'r ystadegau'n dweud bod hyd at 35 o ddigwyddiadau cyn i berson ddatgelu [eu bod yn dioddef] trais domestig.

"Felly os ydy rhywun yn meddwl, 'dwi'n meddwl galla'i ymddiried yn y person yma' mae'n hanfodol bod yr ymateb cyntaf yn briodol.

"Os ydyn ni'n darparu gofod diogel - gofod gyda pharch a heb fod yn feirniadol - a'u cyfeirio'n briodol, gallai hynny fod y gwahaniaeth i berson rhwng mynd trwy brofiad trawmatig neu ddod trwyddi.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig, ond gallwn ni gyd gadw golwg ar beth sy'n digwydd tu allan i 'nrws, ffenestr neu ardd gefn a gwneud rhywbeth yn ei gylch."

Pynciau cysylltiedig