'Ni ffaelu mynd mas, ond mae'r broblem yn parhau'

  • Cyhoeddwyd
Homeless Hope
Disgrifiad o’r llun,

Mae Homeless Hope yn rhoi gofal i draed pobl ddigartref

Mae elusen sy'n darparu gofal traed ar gyfer pobl ddigartref mewn tair dinas yng Nghymru yn apelio am gymorth i ehangu.

Grŵp o wirfoddolwyr yw Homeless Hope, a gafodd ei sefydlu gan nyrs o Gwmllynfell yng Nghwm Tawe.

Pan yn naw oed fe wnaeth Donna Thomas ddianc i Lundain o'i chartref ar ôl digwyddiad trawmatig, a buodd yn ddigartref yno am tua naw mlynedd cyn symud i Gymru.

"Bues i yn trio gneud fy hun yn anweladwy, yn cysgu dan gardbord gwlyb, mewn drysau yn drewi o wrin, a chael pobl yn poeri arnai," meddai.

Fe lwyddodd Donna i droi ei bywyd rownd a hyfforddi i fod yn nyrs.

Nawr mae hi'n trio helpu eraill sy'n ddigartref i 'neud yr un fath pan maen nhw yn dod ati hi a gweddill y grŵp am driniaeth yn y clinigau ar strydoedd Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.

'Teimlo cywilydd'

Yn ôl yr elusen mae canran uchel o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn dewis peidio â cheisio am help gan y system iechyd a gofal am amryw o resymau.

O ganlyniad, mae gan nifer ohonyn nhw broblemau difrifol gydag iechyd eu traed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen yn cynnig clinigau ar strydoedd Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, Eira Evans, sy'n nyrs o Gwmtwrch: "Yn aml maen nhw'n teimlo cywilydd ambyti eu traed.

"Ond pan chi'n dechre trin nhw, maen nhw yn agor mas.

"Ma' wastad stori tu ôl pob person sy' ar y stryd. Nid dewis yw e i lot o bobl.

"Ma' pethe wedi digwydd iddyn nhw yn aml iawn, a dyna pam bo' nhw mas ar y stryd.

"A bod yn onest mae rhai o'r pethe maen nhw yn ddweud wrtho chi, dyw e ddim yn rhwydd i glywed. Mae'n wrando anodd a phoenus - mae hynna yn eitha' caled."

'Mae pawb yn cael cwtsh!'

Gwirfoddolwr arall yw Hazel James - dyw hi ddim yn nyrs, ond mae ei sgiliau wrth ddelio â phobl yn werthfawr ac mae ei llysenw "Huggy Bear" yn dweud cyfrolau amdani.

"Fi mo'yn rhoi cysur i bawb ac os ydyn nhw mo'yn neu beidio maen nhw'n cael cwtsh!" meddai.

"Yn aml iawn dyna i gyd maen nhw ishe, achos s'mo nhw yn cael lot o bobl yn mynd atyn nhw a gofyn 'ti'n olreit heddi?', neu 'oes ishe rhywbeth arno ti?'

"Mae pobl yn pasio nhw yn aml - fel eu bod nhw ddim yn gweld nhw. Ac mae hwnna yn torri nghalon i."

Anelu am y cam nesaf

Oherwydd y pandemig mae clinigau traed y grŵp wedi dod i ben, ond mae eu gwaith yn parhau ac maen nhw wedi addasu.

Maen nhw nawr yn apelio am help ariannol i brynu cerbyd i gario celfi i helpu symud pobl ddigartref o'r stryd i mewn i fflat neu dŷ.

"Beth o' ni neud o'r blaen oedd edrych ar eu 'hôl nhw ar y stryd," medd Eira.

"Ond os ydyn ni'n gallu 'neud y cam nesa', dyna be ma' pawb ishe yw cael pobl bant o'r stryd a bod ganddyn nhw gartre."

Ychwanegodd Hazel: "Ni ffaelu mynd mas nawr, ond mae'r broblem yn parhau ac mae'r gaeaf yma.

"Ma' ishe cael traed pobl wedi'i 'neud yn y tywydd oer 'ma, a dangos tamed bach o urddas i bobl wrth gael y driniaeth ar y stryd - dyw e ddim yn rhwydd."

Disgrifiad o’r llun,

"Os galla'i helpu rhywun, unrhyw un, jest un person, bydd hwnna werth e," meddai Hazel James (dde)

Eisoes mae dinasoedd eraill yn edrych â chryn ddiddordeb ar brosiect y menywod o Gwm Tawe.

Maen nhw'n gobeithio y gall cynllun y clinigau stryd ddatblygu yn brosiect ar hyd a lled Prydain.

Ond yn y cyfamser mae'r gwaith o godi arian er mwyn gallu mynd 'nôl mas i helpu eu cyfeillion ar y stryd yn ninasoedd y de yn parhau.

"Ma' fe yn bwysig i fi pan fi'n gweld pethe positif yn dod mas o hyn," meddai Eira.

"Weithie ma' pobl yn amheus ohonoch chi a pallu siarad, ond gydag amser chi yn ennill eu hyder nhw.

"Weithie wedyn maen nhw yn dod atoch chi a dweud 'fi 'di cael fflat'. I fi mae'r cwbl wedyn yn werth chweil."

'Torri nghalon'

I Hazel mae stori bersonol yn ei hysbrydoli hi i barhau â'r gwaith.

"Fi'n cofio un bachgen yn arbennig. Roedd y ddau ohonom ni yn ffrindie mawr.

"Jyst dros flwyddyn yn ôl buodd e farw, ac o'n i yn torri nghalon, ac yn meddwl 'os galla'i atal rhywun arall rhag mynd i ble aeth e, bydd e werth e'.

"Os galla'i helpu rhywun, unrhyw un, jest un person, bydd hwnna werth e."