Pôl yn gofyn barn am yr ymdriniaeth o Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru

Mae pôl piniwn yn awgrymu bod y cyhoedd yng Nghymru yn fwy tebygol o gredu bod Llywodraeth Cymru wedi delio â haint coronafeirws yn well na gweinidogion y DU.

Cafodd arolwg blynyddol BBC Cymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ei gynnal gan ICM Unlimited.

Mae'n awgrymu bod saith o bob 10 (70%) o bobl Cymru yn credu bod y llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi delio â'r pandemig naill ai'n dda iawn neu'n gymharol dda.

Mae dau o bob pump (41%) yn credu bod yr un peth yn wir am Lywodraeth San Steffan.

Dywed Gregor Jackson o ICM bod yr un patrwm i'w weld mewn gwaith ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan y BBC yn Yr Alban ym mis Tachwedd gyda mwy yn dweud bod perfformiad y llywodraeth yng Nghaeredin yn well na pherfformiad Llywodraeth San Steffan.

Ychwanegodd: "Cefnogaeth gref i ddull Llywodraeth Cymru o weithredu yn hytrach na San Steffan sydd i gyfrif bod y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr wedi gostwng yn yr arolwg."

Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r gwasanaeth iechyd, cynghorau a busnesau "fel un Tîm Cymru, er mwyn achub bywydau a bywoliaethau".

Dywed Llywodraeth San Steffan eu bod wedi bod yn delio â'r pandemig fel un Deyrnas Unedig gan gydweithio'n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig.

Disgrifiad,

Yr Athro Richard Wyn Jones sy'n dadansoddi'r arolwg barn

Mae'r pôl yn awgrymu hefyd bod y mwyafrif o bobl Cymru yn teimlo nad yw'r pandemig wedi cael effaith ar eu hincwm.

Dywedodd 55% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg nad oedd y pandemig wedi cael effaith gwell na gwaeth arnyn nhw.

Ond dywedodd 32% eu bod yn teimlo bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu cyllid personol - dim ond 12% ddywedodd bod y pandemig wedi cael effaith gadarnhaol ar eu harian personol.

Dywed ICM bod y canfyddiadau yn cyd-fynd yn fras a data y DU yn ystod Tachwedd y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed 39% o'r rhai a ymatebodd y dylai'r Gwasanaeth Iechyd fod yn flaenoriaeth wedi'r pandemig

Mae'r pôl piniwn yn nodi hefyd fod pobl yn credu y dylai'r gwasanaeth iechyd fod yn flaenoriaeth wedi'r pandemig.

Dywedodd 39% mai dyna'r maes y bydden nhw'n ei ddewis gyntaf o ran buddsoddi ynddo.

Ar ôl y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn credu y dylid buddsoddi yn yr economi a swyddi (32%) ac yna mewn addysg ac ysgolion (16%).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n wedi canolbwyntio gydol y pandemig ar gadw Cymru'n ddiogel.

"Ry'n wedi cyflwyno mesurau penodol gan gydweithio'n agos gyda'r GIG yng Nghymru, llywodraeth leol, busnesau ac eraill - ry'n wedi gweithio fel un Tîm Cymru, i arbed bywydau a bywoliaethau.

"Ry'n yn gwybod bod y llynedd wedi bod yn her enfawr i gymaint. Ry'n yn diolch i bobl Cymru am bob aberth ac ymdrech yn ystod y cyfnodau clo sydd wedi bod yn gwbl allweddol i ostwng cyfradd yr achosion ac yn gymorth yn yr ymdrech i achub bywydau."

'Cefnogi dros 500,000 o swyddi yng Nghymru'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan: "O'r dechrau ry'n wedi bod yn delio â'r pandemig fel un Deyrnas Unedig gan gydweithio'n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig a dilyn y cyngor gwyddonol gorau.

"Fe wnaeth Llywodraeth y DU ymateb yn gyflym a sicrhau un o'r pecynnau mwyaf hael a chynhwysfawr yn y byd - gan gefnogi dros 500,000 o swyddi yng Nghymru a darparu £6bn i Lywodraeth Cymru i ddelio â'r pandemig.

"Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sefydlu dros 50 o ganolfannau profi yng Nghymru, wedi darparu cyfarpar PPE ychwanegol, wedi sicrhau profion torfol yn ôl yr angen a chefnogaeth Lluoedd Arfog y DU.

"Yn ogystal mae wedi sicrhau a dosbarthu cannoedd o filoedd o frechlynnau i Gymru ac mae llwyddiant y cynllun brechu yn golygu bod dychwelyd i fywyd normal gam yn nes.

"Wrth i ni gefnu ar y pandemig fe wnawn roi blaenoriaeth i swyddi, twf a buddsoddiad a pharhau i sicrhau bod cenhedloedd a rhanbarthau y DU yn gyfartal."

  • Fe wnaeth ICM Unlimited gyfweld â sampl gynrychiadol o 1,001 o bobl dros 16 oed ar y ffôn rhwng 28 Ionawr a 21 Chwefror. Cafodd cyfweliadau eu cynnal ar draws Cymru. Mae ICM yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn dilyn ei reolau.