Siom i gwpl oedd eisiau priodas gyfan gwbl Gernyweg

  • Cyhoeddwyd
Aaron Willoughby a Steph NormanFfynhonnell y llun, Aaron Willoughby
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Willoughby a Steph Norman wedi dysgu Cernyweg gan deimlo bod hynny'n bwysig i'w diwylliant

Mae cwpl yn dweud eu bod wedi dioddef "anffafriaeth" ar ôl darganfod nad oes modd cael seremoni briodas gyfan gwbl Gernyweg.

Cafodd Steph Norman ac Aaron Willoughby wybod gan Gyngor Cernyw bod angen i'r seremoni fod yn Saesneg a Chernyweg.

Dywed y cyngor bod "geiriau datgeiniol a chytundebol" ond yn gallu cael eu dweud yn Saesneg neu Gymraeg mewn priodas gyfreithiol rwymol.

Dywedodd Ms Norman: "Rwy'n teimlo os ydy pawb yn deall yr iaith, dylie bod yn fater iddyn nhw pa iaith maen nhw'n siarad.

Y Gymraeg yw'r unig eithriad

Cysylltodd y cwpl gyda'r cyngor wrth geisio dod o hyn i gofrestrydd sy'n siarad Cernyweg, a darganfod nad oedd eu cynlluniau ar gyfer eu priodas yn gyfreithiol.

Wrth ymchwilio Deddf Priodas 1949, daeth yn amlwg i Ms Norman bod yr unig eithriad yn berthnasol i siaradwyr Cymraeg.

"Os rydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl yna mae'n berffaith gyfreithiol, ond nid yn Gernyweg," meddai.

"Mae'n teimlo fel anffafriaeth braidd oherwydd nid yw'n gyfartal drwyddi draw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Cernyw bod ymadroddion Cernyweg yn cael eu defnyddio'n aml yn eu seremonïau priodas

Dywed Ms Norman bod hi a'i dyweddi wedi dysgu "eithaf tipyn" o'r iaith gan deimlo ei fod "yn wirioneddol bwysig i'n diwylliant ac i'n treftadaeth".

Ychwanegodd: "Roedden ni ond eisiau priodas Gernyweg go iawn a bydde cynnwys yr iaith yn rhan o hynny. Fe allwn ni i raddau, ond nid yn gyfan gwbl."

Cadarnhaodd Cyngor Cernyw bod rhaid i eiriau datgeiniol a chytundebol seremoni briodas fod yn Saesneg neu Gymraeg i fod yn gyfreithiol rwymol.

Dywedodd: "Rydym yn ceisio teilwra pob seremoni yn ôl dymuniadau'r cwpl ac mae ymadroddion Cernyweg yn cael eu cynnwys yn aml yn ein seremonïau.

"Ar hyn o bryd does gyda ni ddim cofrestrydd sy'n rhugl yn Gernyweg ond fe allwn ni gynnwys cyfieithydd Cernyweg os yw'r cwpwl yn trefnu un."

Yn ôl amcangyfrif y cyngor yn 2015 roedd rhwng 300 a 400 o bobl yn siarad yr iaith yn rhugl ac yn ei defnyddio'n rheolaidd, ac oddeutu 5,000 yn gallu cynnal rhyw fath o sgwrs ynddi.

Dim statws swyddogol

Dywedodd y tiwtor Cernyweg Jenefer Lowe ei bod yn "obeithiol" y bydd cyplau'n gallu gwneud eu haddunedau yn y Gernyweg yn y dyfodol.

"Beth rydyn ni wirioneddol angen yw i'r Gernyweg gael statws swyddogol fel Cymraeg a Gaeleg," meddai.

"I hynny ddigwydd mae angen nifer digonol o bobl yn defnyddio'r iaith iddi gael ei derbyn.

"Ond am nad yw'n iaith swyddogol does gyda ni mo'r gallu i ddwyn camau cyfreithiol ar hyn o bryd."

Dywed Ms Lowe bod diddordeb cynyddol mewn dysgu Cernyweg - yn y sir ei hun ac ar draws y byd.

Mae hynny yn sgil datblygiadau technegol "anferthol" y 20 mlynedd diwethaf, yn arbennig ymhlith pobl ifanc, ac mae nifer wedi dechrau dysgu'r iaith ar-lein ers dechrau'r pandemig.

"Gen i ddysgwyr yn Awstralia, America ac ar draws y byd," meddai. "Mae angen i ni droi hynny nawr yn nifer uwch o siaradwyr a rhagor o adnoddau.

"Rhaid i gyfnod ddod pan mae'n cael ei defnyddio ymhob ffordd mewn bywyd."

Pynciau cysylltiedig