Trydedd don yn 'anochel' medd meddyg gofal critigol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwely gofal dwysFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae un o feddygon gofal critigol mwyaf blaenllaw Cymru yn rhybuddio bod trydedd don o achosion coronafeirws yn "anochel".

Yn ôl Dr Richard Pugh, cadeirydd y Gymdeithas Gofal Dwys yng Nghymru, bydd amseriad a brig y don yn ddibynnol ar sut a phryd mae cyfyngiadau'n cael eu codi.

Dywedodd bod pwysau'n parhau ar wasanaethau gofal critigol ac mai'r peth olaf mae o a chydweithwyr ei angen yw cynnydd mawr eto yn y galw am ofal.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi amlinellu llwybr clir i lacio cyfyngiadau'n bwyllog os yw'r sefyllfa'n parhau i wella, a byddai hynny ond yn digwydd os mae lle i gredu bod hi'n ddiogel i lacio'r rheolau.

"Mae'n rhaid adolygu pethau ac mae angen i amseriad llacio mesurau cyfnod clo fod yn gywir, ei wneud fesul cam ac ar sail y data," meddai Dr Pugh.

"O safbwynt proffesiynol, po fwyaf mae'r mesurau yn eu lle, y teimlad yw bod hynny'n mynd i leihau unrhyw frig pellach yn y galw am ofal."

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi datgelu i'r prif swyddog meddygol Frank Atherton ddweud wrtho fod yntau'n credu fod trydedd don yn "rhan o'r hyn fydd yn digwydd eleni".

Daw rhybudd Dr Pugh wrth i Lywodraeth Cymru wynebu galwadau gan rai am fwy o eglurder cyn yr adolygiad nesaf o'r cyfnod clo.

Mae disgwyl i weinidogion adolygu a all mwy o ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgolion, siopau nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol ailagor, a'r rheol i bobl aros adref.

Bydd yna hefyd ystyriaeth i'r posibilrwydd o ailagor llety hunan-gynhaliol cyn Pasg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Protest yn erbyn y cyfyngiadau Covid ym Mae Caerdydd y llynedd

'Dryswch'

Mae Dr Simon Williams, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, yn astudio agweddau'r cyhoedd at y cyfnodau clo. Mae'n dweud bod "cryn ddryswch" ynghylch y rheolau, yn arbennig pan fo gwledydd unigol y DU yn dilyn eu trywydd eu hunain.

Mae hefyd yn rhybuddio rhag i bobl flino ar y sefyllfa, a pheidio cymryd sylw o newidiadau, pan fo'r rheolau'n newid yn aml.

Byddai'n well, medd Dr Williams, i Lywodraeth Cymru gyflwyno "newidiadau mwy cynhwysfawr" yn llai aml, ac egluro pam eu bod yn wahanol i reolau gwledydd eraill y DU.

Mae cyfraddau achosion Cymru wedi gostwng i 60.3 achos i bob 100,000 yn y saith diwrnod diwethaf - y lefel isaf ers 22 Medi.

'Rhaid bod yn bwyllog'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen o ran cynnig brechiadau, ac mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwella bob dydd, diolch i ymdrechion ac aberthau pawb.

"Ond rydym wedi gweld, dro ar ôl tro, pa mor sydyn mae'r sefyllfa'n gallu gwaethygu mewn mater o wythnosau. Mae amrywiolion newydd coronafeirws... yn rhoi dimensiwn newydd i'r pandemig, sy'n golygu bod angen bod yn bwyllog.

"Ein nod yw llacio'r cyfyngiadau'n raddol, gwrando ar gyngor meddygol a gwyddonol ac asesu impact newidiadau wrth fynd ymlaen. Rhown gymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni.

"Pan rydym yn credu bod hi'n ddiogel i lacio cyfyngiadau, fe wnawn ni hynny. Nid ydym eisiau codi gobeithion a disgwyliadau pobl ac yna eu siomi."

Ychwanegodd y llefarydd bod yr heddlu, awdurdodau lleol a swyddogion safonau masnach "wedi gwneud job ffantastig wrth orfodi'r rheolau", a bod y llywodraeth eu diolch iddyn nhw am eu hymdrechion gydol y pandemig.

Wales Live, BBC One Wales, nos Fercher 3 Mawrth, 22:35 ac yna ar BBC iPlayer

Pynciau cysylltiedig