Awgrym y bydd 'aros gartref' yn newid i 'aros yn lleol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd BannauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Cymru i gyfnod clo ar 20 Rhagfyr yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19

Mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu y bydd canllawiau "aros gartref" Llywodraeth Cymru yn newid i "aros yn lleol" pan fydd y rheolau'n cael eu hadolygu ddiwedd yr wythnos.

Ar hyn o bryd dim ond teithio allweddol sy'n cael ei ganiatáu gan y canllawiau coronafeirws, ond awgrymodd Mark Drakeford y bydd hynny'n newid yn fuan.

Bydd y canllawiau yn cael eu hadolygu ddiwedd yr wythnos, a bydd cyhoeddiad ddydd Gwener ar yr union newidiadau.

Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales bod lefelau Covid-19 yn golygu bod modd "adfer ychydig o ryddid".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o geir eu troi am yn ôl o draeth Dinas Dinlle yng Ngwynedd ddydd Sadwrn

Aeth Cymru i gyfnod clo ar 20 Rhagfyr yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19.

Ers hynny mae nifer yr achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl wedi gostwng o dros 600 i 48 erbyn y penwythnos hwn.

Mae'r gyfradd yn is na 100 ym mhob sir yng Nghymru bellach, ac mae bron i filiwn o bobl wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn yn erbyn y feirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn yn erbyn y feirws

"Rwy'n credu bod achos dros gael rhywbeth yn y canol rhwng aros gartref a gallu teithio i unrhyw le ar draws Cymru," meddai.

"Fe ddywedais i bythefnos yn ôl wedi'r adolygiad diwethaf ein bod yn gobeithio mai dyma fydd yr wythnosau diwethaf o'r rheol aros gartref, felly dyna beth rydyn ni'n ceisio sicrhau erbyn dydd Gwener.

"Fe fyddwn ni yn edrych yn ofalus yr wythnos hon ar gyfnod o aros yn lleol - mae pobl wedi arfer gyda hynny oherwydd dyna oedd y rheol am gyfnod y llynedd - ac fe allai hynny fod y cam cyntaf."