Merched medrus Gŵyl 2021
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos cafodd Gŵyl 2021 ei chynnal sef gŵyl rithiol a welodd bedair o wyliau diwylliannol Cymru - Gŵyl Gomedi Aberystwyth, Gŵyl y Llais, FOCUS Wales a Lleisiau Eraill Aberteifi - yn dod at ei gilydd dan un faner.
Cafodd y perfformiadau cerddorol a chomedi eu ffrydio'n fyw gan BBC Cymru brynhawn dydd Sadwrn a dydd Sul.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mae Cymru Fyw wedi curadu setiau gan rai o'r merched wnaeth argraff fawr ar y sgrîn fach.
Ani Glass
Enillodd Ani Glass wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gyda Mirores yn 2020. Recordiwyd ei set bywiog hi ar gyfer Gŵyl 2021 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi.
Cate Le Bon
Mae'r perfformiad hwn o'r albwm REWARD yn cofnodi taith Cate Le Bon yn dychwelyd i Gymru, gyda'r ffilm wedi ei gyfarwyddo gan Gruff Rhys. Cafodd y set byw ei recordio gyda band Cate yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm fel rhan o arlwy Gŵyl y Llais.
Carys Eleri
Gyda Gŵyl Gomedi Aberystwyth daeth Carys Eleri â'i hiwmor unigryw i Ŵyl 2021 gyda thair cân ddigri am fywyd mewn cyfnod clo - rhywbeth y gallwn ni gyd uniaethu ag o!
Aleighcia Scott
Daeth Jukebox Collective â chasgliad o artistiaid o Gaerdydd at ei gilydd ar ran Gŵyl y Llais i gymryd rhan yng Ngŵyl 2021. Un o'r artistiaid hynny yw Aleighcia Scott sy'n artist reggae a aned yng Nghymru o dras Jamaica. Dechreuodd berfformio ar lwyfannau a hithau ond yn saith oed, a bellach mae Aleighcia yn artist llawn amser ar fin rhyddhau ei halbwm gyntaf.
Adwaith
Ers rhyddhau eu albwm Melyn yn 2018 mae'r triawd o Gaerfyrddin wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, recordio eu ail albwm yn 2020, ac ym mis Chwefror 2021 cyhoeddwyd eu bod nhw'n llysgenhadon ar gyfer y Music Venue Trust. Roedd y band yn perfformio yn Neuadd William Aston, Wrecsam fel rhan o FOCUS Wales.
Juice Menace
Mae Juice yn rapwraig o ardal Grangetown, Caerdydd. Cafodd ei henwi fel un i gadw llygaid arni gan Gal Dem, ac er mai dim ond dechrau ei thaith mae Juice, mae'r 'gyfansoddwraig graff a pherfformwraig ddi-fai' wedi gweithio'n galed ar greu gyrfa greadigol hyd yma. Fel rhan o Lleisiau Eraill Aberteifi, bu'n perfformio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
9Bach
Perfformiodd 9Bach yn Eglwys St Giles yn Wrecsam fel rhan o arlwy FOCUS Wales. Cafodd y grŵp gwerin arbrofol o Fethesda ei ffurfio yn 2005, ac ers hynny maen nhw wedi gwneud argraff yn rhyngwladol.
Jaffrin
Mae Jaffrin yn awdures ac artist aml-ddisgyblaeth Cymreig o dras Bangladeshi sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth yn ogystal â geiriau llafar sy'n archwilio themâu hunaniaeth, iechyd meddwl, crefydd a diwylliant. Roedd hi'n perfformio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel rhan o berfformiadau Jukebox Collective.
Cara Hammond
Mae Cara wedi bod yn ysgrifennu caneuon ers pan oedd yn 11 oed ac yn perfformio ers pan oedd yn 14 oed yn ei thref enedigol, Wrecsam. Ac yn y dref honno, yn Tŷ Pawb, fu Cara yn perfformio yn Gŵyl 2021, a hynny fel rhan o FOCUS Wales.
Catrin Finch
Chwaraeodd y delynores o Aberaeron sawl set yng Ngŵyl 2021 gan gynnwys un gyda'r chwaraewraig ffidl o Iwerddon, Aoife Ní Bhriain. Cafodd ei set unigol ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi ei ffilmio'n fyw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Islet
Mae sain y band o Bowys yn llawn synth, symudiadau annisgwyl o ran rhythm, geiriau dyfeisgar, chwareus a rhythmau bywiog, electronig. Perfformiodd y triawd yn Neuadd William Aston, Wrecsam ar gyfer FOCUS Wales.
Hefyd o ddiddordeb: