Hiliaeth: 'Stigma' yn gysylltiedig â bod yn Chineaidd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jackie YipFfynhonnell y llun, Jackie Yip
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jackie Yip 'nad yw'r camdriniaeth yma'n newydd iddi'

Dydy aelodau o'r gymuned Chineaidd ddim yn teimlo'n ddiogel yng Nghymru bellach, yn ôl un o arweinwyr y gymuned.

Dywedodd Shirley Au-Yeung o Gymdeithas y Tsieinëeg yng Nghymru bod y cynnydd yn nifer y digwyddiadau hiliol yn ystod y pandemig wedi gwneud iddi deimlo nad yw hi'n cael ei chroesawu yma bellach.

Mae data ac arolygon heddlu'r DU yn awgrymu bod yna gynnydd yn nifer y digwyddiadau hiliol yn erbyn cymunedau Chineaidd a De-orllewin Asiaidd yn y 12 mis diwethaf.

Yn ôl y dirprwy weinidog Jane Hutt mae'r sefyllfa yn achosi "pryder mawr".

Dywedodd Jackie Yip, sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, fod yna "stigma" yn gysylltiedig â bod yn Chineaidd ers dechrau'r pandemig.

"Dydw i ddim yn newydd i'r fath hon o gamdriniaeth, ond mae yn cymryd eich anadl i ffwrdd pob tro mae'n digwydd," meddai Jackie, a gafodd ei geni yn y DU ar ôl i'w rhieni symud o Hong Kong.

Dywedodd Jackie, 25, ei bod hi'n teimlo'n "fwy ymwybodol" o bwy yw hi "fel person" a bod y pandemig wedi gwneud y sefyllfa "10 gwaith yn waeth".

Ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol

Mae data heddlu'r DU yn awgrymu fod yna gynnydd o 300% mewn troseddau casineb tuag at bobl Chineaidd, a phobl Gorllewin a De-orllewin Asiaidd yn chwarter cyntaf 2020 o gymharu â'r un cyfnod yn 2018 a 2019.

Awgrymodd arolwg diweddar gan YouGov bod 76% o bobl Chineaidd wedi profi sarhad hiliol tuag atyn nhw - y ganran uchaf o bob hil a arolygwyd.

Mae'r broblem wedi cael sylw ar gyfryngau cymdeithasol ar draws y byd gyda mwy na 18,000 o bostiau ar Instagram yn ymddangos o dan yr hashnod #StopAsianHate.

Mae pobl wedi bod yn rhannu eu straeon a phrofiadau personol o hiliaeth o dan yr hashnod, er mwyn codi ymwybyddiaeth am sut all bobl gefnogi'r ymdrech.

Ffynhonnell y llun, Robin Zhang
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robin Zhang fod digwyddiad yng Nghaerdydd wedi achosi iddo boeni am ei ddiogelwch

Cafodd Robin Zhang ei gam-drin yn hiliol gan grŵp o ddynion ifanc yng nghanol dinas Caerdydd ac mae hyn wedi'i achosi iddo boeni am ei ddiogelwch.

"Gwnaeth y digwyddiad wneud i fi deimlo bach mwy o bryder am fy niogelwch personol, sy'n rhywbeth doeddwn i byth yn meddwl am o'r blaen, oherwydd roeddwn i'n ystyried y DU, a Chymru a Chaerdydd yn arbennig i fod yn llefydd diogel iawn," meddai.

Daeth Robin o dalaith Anhui yng ngorllewin China i Gaerdydd i astudio gradd meistr mewn Newyddiaduraeth, a dywedodd nad oedd eisiau dweud wrth ei rieni am y digwyddiad ac achosi iddyn nhw "bryderu" am ei ddiogelwch.

Poeni 'am gael mewn i drwbl'

Mae Jackie a Robin yn pryderu nad yw digwyddiadau fel hyn yn aml yn cael eu hadrodd mewn diwylliant Chineaidd.

Dywedodd Jackie pan oedd yn tyfu i fyny, byddai ei rieni yn anwybyddu camdriniaeth hiliol er mwyn osgoi "achosi ffwdan".

Dywedodd Robin nad oedd wedi ymateb oherwydd mai hynny yw'r ffordd geidwadol Chineaidd o ddelio â'r sefyllfa, a'i fod yn poeni am "gael mewn i drwbl".

Awgrymodd arolwg YouGov ym Mehefin 2020 fod 50% o'r bobl Chineaidd a atebodd yr arolwg wedi profi nifer o brofiadau o gamdriniaeth, yn uwch nag unrhyw gategori arall o fewn y gymuned BAME.

Ffynhonnell y llun, Shirley Au-Yeung
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shirley Au-Yeung bod 'aelodau o'r gymuned yn dweud wrtha'i nad yw nhw'n teimlo'n ddiogel'

Mae Shirley Au-Yeung, o Gymdeithas y Tsieinëeg yng Nghymru, yn poeni bydd coronafeirws yn achosi effaith hirdymor ar agweddau tuag at bobl o fewn y gymuned Chineaidd.

Dywedodd ers symud i Gymru yn 2005, mae wastad wedi teimlo ei bod yn cael ei chroesawu.

Er hyn, mae hiliaeth yn ystod y 12 mis diwethaf o ganlyniad i'r pandemig wedi achosi iddi a phobl eraill i deimlo'n llai diogel.

"Mae aelodau o'r gymuned yn dweud wrtha'i yn ystod y pandemig dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel rhagor... maen nhw'n teimlo fel bod llai o groeso," meddai.

"Fi hefyd yn teimlo fel hyn, yn byw yma ers 2005, dwi byth wedi teimlo fel hyn o'r blaen."

Sefyllfa'n 'peri gofid mawr'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Cydraddoldeb Jane Hutt bod y sefyllfa'n "peri gofid mawr".

"Mae'n siomedig iawn clywed am ddigwyddiadau o hiliaeth y mae unrhyw un yng Nghymru'n profi ond yn enwedig wrth glywed am adroddiadau o fewn y gymuned Chineaidd," meddai.

Mewn ymdrech i ymladd yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol 'Mae casineb yn brifo Cymru', dolen allanol.

Wrth lansio'r ymgyrch, dywedodd Ms Hutt bod "yr ymgyrch yn bwriadu gwneud yn glir bod casineb yn effeithio arnom ni i gyd a'n tanseilio'r gwerthoedd rydyn ni'n rhannu o ddynoliaeth cyffredinol".

"Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn gallu adrodd trosedd casineb, ble bynnag maent yn eu gweld," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig