Mohamud Hassan: Cyflwyno rhybuddion i ragor o blismyn
- Cyhoeddwyd
Mae pum rhybudd o gamymddwyn wedi cael eu cyflwyno wedi i ddyn farw ychydig ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa gan yr heddlu.
Mae'r rhybuddion yn rhan o'r ymchwiliad i gysylltiad yr heddlu gyda Mohamud Mohammed Hassan, 24, o Gaerdydd.
Cafodd Mr Hassan ei arestio yn ei gartref ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau heb gyhuddiad y diwrnod canlynol, 9 Ionawr.
Ychydig dros 12 awr yn ddiweddarach roedd Mr Hassan wedi marw.
Honnodd wrth ei deulu ei fod wedi dioddef ymosodiad tra'r oedd yn y ddalfa.
Cyflwynodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) rybudd camymddwyn i un heddwas ym mis Chwefror, a ddydd Mawrth cyhoeddwyd eu bod wedi diweddaru'r rhybudd hwnnw yn ogystal â chyflwyno rhybuddion camymddwyn i bedwar swyddog arall.
Mae tri o'r rhybuddion yn ymwneud â'r cyfnod y bu Mr Hassan yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd, ac mae'r ddau arall mewn perthynas ag ymddygiad swyddogion a aeth i'w gartref ar Heol Casnewydd ar y noson y cafodd ei arestio.
Beth ydy rhybuddion camymddwyn?
Yn ôl yr IOPC, nid yw cyflwyno rhybudd camymddwyn o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw drosedd.
Mae'n cael ei roi i hysbysu swyddog bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'w hymddygiad.
Dywedodd yr IOPC eu bod wedi cyflwyno:
Rhybudd o gamymddwyn difrifol i swyddog a allai fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a gonestrwydd a chywirdeb;
Rhybudd o gamymddwyn i swyddog yn ymwneud â'r defnydd o rym tra'n hebrwng Mr Hassan wedi iddo gyrraedd ystafelloedd y ddalfa;
Rhybudd o gamymddwyn i swyddog y ddalfa allai fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, mewn perthynas â gwirio lles y carcharor, ac os oedd y gwiriadau lles yn ddigonol ai peidio.
Ynglŷn â'r noson y cafodd Mr Hassan ei arestio, dywed yr IOPC eu bod wedi cyflwyno rhybudd camymddwyn i ddau swyddog heddlu yn ymwneud â'u penderfyniadau a'u defnydd o rym tra roeddynt yn ei gartref.
"Rydym yn ystyried a oedd y defnydd o rym yn angenrheidiol a chymesur o dan yr amgylchiadau," meddent.
Ar lefel camymddwyn difrifol gallai swyddog gael ei ddiswyddo pe bai ymchwiliad yn dod i'r canlyniad ei fod wedi torri safonau proffesiynol.
Rhybudd ysgrifenedig yw'r gosb ar lefel camymddwyn.
Heddlu'n 'parhau i gydweithio'
Dywedodd cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: "Rydym wedi diweddaru teulu Mr Hassan a Heddlu De Cymru am y rhybuddion camymddwyn pellach.
"Rydym yn cadw rhybuddion camymddwyn dan sylw yn ystod ymchwiliad.
"Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae ymchwiliad fel hwn yn cymryd amser a gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar tra'i fod yn rhedeg ei gwrs."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod y llu'n parhau i gydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad, a bod deunydd fideo o gamerâu cylch cyfyng a chamerâu corff wedi ei rannu gyda'r IOPC.
Ychwanegodd y llefarydd bod yr heddlu'n "cydnabod effaith marwolaeth Mr Hassan ar ei deulu, ffrindiau a'r gymuned yn ehangach", a bod eu "meddyliau a chydymdeimlad gyda nhw".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021