Y Gerddorfa, Carwyn a Kizzy
- Cyhoeddwyd
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae BBC Radio Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi parhau i gydweithio'n rheolaidd er gwaethaf gorfod gwneud hynny o bellter.
Llynedd fe grëon nhw berfformiadau rhithiol gydag enillydd Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, Ani Glass, a hefyd perfformiad rhithiol o gân 'Yn Dawel Bach' gan Breichiau Hir gyda Ritzy o The Joy Formidable ar gyfer Gŵyl AmGen.
Gan adeiladu ar y berthynas honno, dros y penwythnos cafodd cyngerdd arbennig ei gynnal yn Neuadd Hoddinot gyda'r gerddorfa, Kizzy Crawford a Carwyn Ellis & Rio 18, â'r bwriad o roi profiad mwy byw i wrandawyr yn ystod y cyfnod hwn.
Wrth wynebu cynnal cyngerdd dan fesuriadau Covid y Llywodraeth, eglurodd Owain Roberts, sy'n adnabyddus am ei waith gyda Band Pres Llareggub, pa heriau 'roedd hynny'n ei gyflwyno wrth iddo arwain y gerddorfa:
"Roedd 'na gymaint o bethau o'n i ddim yn ddisgwyl. Roedd y gerddorfa yn gorfod eistedd yn bell iawn o'i gilydd ac roedd hi'n sialens creu un sŵn yn enwedig o ystyried fod hanner y gerddoriaeth yn barod wedi cael ei recordio.
"Mae 'na bethau cyffrous iawn yn medru digwydd pan mae rhywun yn gorfod gweithio o dan straen, mae'n gorfodi creadigrwydd a dwi'n hynod falch o'r hyn 'da ni wedi llwyddo i greu.
"Yn ogystal â cherddorfa draddodiadol roedd 'na lwythi o offerynnau diddorol yn cael eu chware fel bongos, harpsicord, gwahanol gitars, ukeleles a ballu - hyd yn oed sandpaper!"
'Wrth fy modd!'
Roedd y cyfle i roi bywyd newydd i'w ganeuon, a chwarae rhai newydd, yn braf, meddai Carwyn Ellis sydd wedi profi llwyddiant mawr gyda'i albwm Joia! dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'n neis i gael teimlad newydd allan o'r caneuon. Ro'n i wrth fy modd gyda'r holl brofiad i fod yn onest. 'Sa i wedi chwarae lot dros y flwyddyn ddiwetha', felly roedd hi'n fraint cael y cyfle yma ac mae'n meddwl y byd i mi gael perfformio yn y Gymraeg gyda cherddoriaeth newydd sbon. Fi'n ddiolchgar iawn i BBC Radio Cymru am ddangos ffydd yn y gerddoriaeth a cherddorion."
Profiad emosiynol
Roedd cymryd rhan yn y cyngerdd yn werthfawr i'r gantores-gyfansoddwraig aml-dalentog Kizzy Crawford hefyd: "Mae'r profiad wedi bod yn hollol anhygoel a dwi wir wedi mwynhau cael y cyfle i wneud y gyngerdd yma.
"Mae'r caneuon yn bersonol iawn i mi, ac felly mae'n brofiad rili emosiynol i glywed y gerddorfa yn eu chwarae nhw.
"Dwi'n gwybod bydda i'n edrych yn ôl ar y profiad yma am flynyddoedd i ddod. Dwi'n hapus ac yn lwcus iawn. Dwi'n dwli ar Neuadd Hoddinott ac mae'n lysh cael dod yma yn ystod y lockdown. Profiad anhygoel!"
Mae'r gwaith tuag at y perfformiad wedi bod yn mynd rhagddo ers sawl mis, ac roedd yr arweinydd Owain Roberts yn falch o weld yr holl waith wedi dwyn ffrwyth: "Roedd perfformiad Kizzy yn wych. Ges i gymaint o hwyl yn gweithio ar drefniannau ei cherddoriaeth hi dros y gwyliau Nadolig felly roedd cael eu perfformio nhw o'r diwedd a chael teimlad o gyngerdd a pherfformiad byw gyda phobl yn gwrando yn astud wir yn arbennig.
"Dyma'r tro cyntaf i mi weithio gyda Carwyn hefyd ac mae'n artist mor ddawnus. Nes i fwynhau cael fy nhywys i sain-fyd newydd De Amerig!"
'Pethau i'w trysori'
Dywedodd Huw Stephens, a oedd yno'n cyflwyno'r cyngerdd: "Roedd cael clywed Carwyn Ellis, a Kizzy Crawford, yn canu a chwarae gyda'r Gerddorfa o dan arweiniad Owain Roberts yn fraint mawr, rhaid dweud.
"Mae stori Carwyn, ei ganeuon diweddar gyda'r dylanwad o gerddoriaeth Rio, a'i frwdfrydedd at sgwennu caneuon gwefreiddiol, yn cynnwys y rhai newydd ar gyfer y gyngerdd yma, yn bethau i'w trysori. Ac roedd clywed y Gerddorfa yn chwarae ei ganeuon yn wefreiddiol, ac yn brofiad fydd yn aros gyda fi am amser hir."
Gallwch wrando ar y cyngerdd yn ei gyfanrwydd ar BBC Sounds.
Hefyd o ddiddordeb