Cadarnhau mai corff dynes ar goll a ganfuwyd yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai corff menyw aeth ar goll tra'n cerdded yn Sir Gaerfyrddin gafodd ei ganfod ar draeth yn Sir Benfro yr wythnos ddiwethaf.
Roedd Susan Smith, 63, wedi cael ei gweld ddiwethaf ar ddydd Sadwrn, 27 Chwefror ger pentref Cydweli.
Credir bod Mrs Smith wedi bod yn cerdded ar y traeth rhwng Llanismel a Glanyferi pan aeth ar goll.
Cafodd corff ei ganfod ar draeth ger Solfach, Sir Benfro ddechrau'r wythnos ddiwethaf, ac mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau mai corff Mrs Smith a ganfuwyd.
Dywedodd y llu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
'Menyw anhygoel'
Mewn teyrnged i Mrs Smith, dywedodd ei theulu: "Roedd Su yn chwaer, yn fodryb ac yn chwaer yng nghyfraith, a bennaf oll roedd hi'n fenyw anhygoel ac roedden ni mor falch ohoni.
"Mae hi wedi cael ei chymryd oddi wrthym yn llawer rhy fuan - mae ei marwolaeth wedi digwydd mor sydyn ac wedi bod yn sioc enfawr.
"Fe fydd 'na wastad dwll yn ein calonnau na all ei lenwi fyth. Fe wnaethon ni rannu atgofion hyfryd, ac fe fyddwn yn eu trysori am byth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2021