Pennaeth heddlu: 'Ry'n ni eisiau i'n swyddogion fod yn ddiogel'
- Cyhoeddwyd
Dylai swyddogion heddlu rheng flaen fod wedi cael blaenoriaeth ar gyfer brechlyn Covid, yn ôl pennaeth un heddlu yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly bod hynny wedi bod yn un o'i phryderon mwyaf drwy gydol y pandemig.
Roedd pennaeth Heddlu Gwent yn cytuno'n llwyr mai staff y GIG a'r rhai mwyaf bregus ddylai ddod yn gyntaf, ond ei bod eisiau mwy o ddiogelwch i'w staff.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi dilyn cyngor cenedlaethol, nad oedd wedi canfod digon o dystiolaeth i gefnogi brechiadau yn ôl swydd unigolyn.
'Ymateb i'r un alwad'
Dywedodd y Prif Gwnstabl Kelly: "Rydyn ni'n canmol staff y gwasanaeth iechyd - maen nhw wedi bod yn rhagorol - ond yn aml byddwch yn cael gweithiwr ambiwlans, gweithiwr iechyd a heddwas yn ymateb i'r un alwad yn yr un lle.
"Pan fydd person yn dreisgar, mae swyddogion heddlu yno'n ceisio amddiffyn y gweithwyr iechyd - ac eto'r heddwas sydd heb gael ei frechu.
"Mae'n bryder gwirioneddol i mi. Mae'n ymwneud â chael digon o weithwyr brys i ymateb i alwadau 999 a 101 ac rwy'n credu y byddai'r brechiad i swyddogion yr heddlu wedi bod yn llais cryf iawn yn dweud 'rydyn ni'n ddiolchgar am yr hyn rydych wedi'i wneud'.
"Dydyn nhw ddim yn gofyn am arian - y cyfan rydyn ni'n gofyn amdano yw i'n swyddogion fod yn ddiogel."
Ychwanegodd bod dros 4,000 o weithwyr brys wedi dioddef ymosodiad yng Nghymru dros yr 20 mis diwethaf.
"Weithiau mae Covid wedi cael ei ddefnyddio fel arf," meddai'r Prif Gwnstabl.
"Rwy'n deall yn ddi-os yr angen i'r rhai sy'n fregus gael eu brechu, ond ar hyn o bryd lle mae'r gymuned ehangach yn cael ei brechu, rwy'n teimlo'n gryf iawn y dylid brechu y rhai sy'n plismona yn y rheng flaen."
Dywedodd o'r 1,400 o weithlu sydd gan Heddlu Gwent, dim ond 140 sydd wedi cael y brechlyn - yn seiliedig ar eu hoedran neu gyflwr iechyd yn unig.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan ei fod yntau yn bryderus am yr effaith mae'r pandemig wedi'i gael ar ei staff.
"Mae wedi bod yn gyfnod heriol," meddai.
"Dwi wedi bod i angladd pob mis... mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb."
Troseddu'n gostwng ond y galw'n cynyddu
Yn ystod y 12 mis diwethaf newidiodd rôl plismona yn sylweddol.
Er bod troseddu'n parhau i fod yn flaenoriaeth, gofynnwyd i swyddogion reoli llawer mwy o elfennau o fywydau pobl - hyd at ble yr aethom am dro a gyda phwy.
"Roedd yn anodd iawn. Mae troseddu wedi gostwng tua 15% ond mae'r galw wedi cynyddu'n sylweddol," meddai'r Prif Gwnstabl Kelly.
Fel heddlu ar y ffin, ychwanegodd rheolau gwahanol yng Nghymru a Lloegr at y darlun dryslyd i Heddlu Gwent.
I ddechrau, parhaodd y ffocws ar gyfathrebu, esbonio ac annog cydymffurfiaeth, ond mae gorfodi pobl i ddilyn y rheolau wedi bod yn ffactor gynyddol.
Gyda phrotestiadau hefyd - a ffocws cenedlaethol ar y ffordd y mae'r heddlu wedi ymdrin â phrotestiadau mewn pandemig - a yw wedi effeithio ar y berthynas â'u cymuned?
"Alla i ddim diolch digon i gymunedau am y ffordd maen nhw wedi gweithio gyda ni," meddai'r Prif Gwnstabl Kelly.
"Dydw i ddim eisiau bod yn heddlu Covid - ac rydym wedi parhau i fynd i'r afael â throseddu cyfundrefnol difrifol yn egnïol - ond yn y pendraw rydym wedi gweld y berthynas ychydig yn fwy bregus rhwng plismyn a'r gymuned.
"Rydym wedi cael tua 73 o brotestiadau yn ystod argyfwng Covid ac mae protestiadau'n anodd iawn i'r heddlu."
'Amseroedd eithriadol'
Ym mis Ionawr gwelodd Heddlu De Cymru sawl diwrnod o brotestiadau ar garreg eu drws, wrth i bobl fynd i'r strydoedd dros bryderon am farwolaeth dyn 24 oed o Gaerdydd, oriau ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa.
Rhoddwyd dirwy o £500 i drefnydd y brotest.
"Mae pobl eisiau i'w lleisiau gael eu clywed - ac mae pobl yn protestio ar rai materion pwysig iawn," meddai'r Prif Gwnstabl.
"Ar adegau cyffredin byddai'r heddlu'n gweithio'n galed iawn i ganiatáu i'r lleisiau hynny gael eu clywed - i hwyluso'r protestiadau hynny, ond nid yw'r rhain yn amseroedd cyffredin. Maen nhw'n amseroedd eithriadol.
"Daw pwynt ar ôl ychydig ddyddiau o brotestio lle mae'r rhai sy'n ceisio ei drefnu, ac rydym wedi eu rhybuddio droeon, bod angen i ni gymryd rhywfaint o gamau.
"Nid yw hynny am eiliad yn cwestiynu hawl lleisiau unigolyn i gael eu clywed, nac yn wir y pethau y maen nhw am siarad amdanyn nhw sy'n bethau eithriadol o bwysig, ond rydym yn cael ein galw i helpu i amddiffyn pobl rhag pandemig byd-eang."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r heddlu'n gwneud gwaith gwych yn gorfodi'r rheoliadau coronafeirws ac rydym yn diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth drwy gydol y pandemig.
"Yn union fel gweddill y DU, rydym yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
"Mae wedi argymell dull brechu sy'n seiliedig ar oedran, gan mai dyma'r ffactor cryfaf o hyd sy'n gysylltiedig â marwolaethau neu driniaeth ysbyty o ganlyniad i'r feirws.
"Mae'r JCVI wedi edrych ar flaenoriaethu yn ôl swyddi ond nid oedd digon o dystiolaeth ar gyfer hyn.
"Mae wedi cynghori y byddai cymhlethdod darparu'r dull hwn yn arafu cyflymder cyflwyno'r brechiad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021