Cwpl yn sefyll yn etholiad y Senedd ond nid i'r un blaid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aaron and LeenaFfynhonnell y llun, Aaron Wynne
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron a Leena wedi bod mewn perthynas am 18 mis

Mae Leena Farhat ac Aaron Wynne yn ymgeiswyr yn etholiad Senedd Cymru 2021 - y ddau mewn perthynas ers 18 mis ond yn cynrychioli gwahanol bleidiau.

Mae Leena yn 23 ac yn cynrychioli y Democatiaid Rhyddfrydol yn Ne Clwyd tra bod Aaron, 24, yn sefyll ar ran Plaid Cymru yn Aberconwy.

Ond ydy'r ddau yn dadlau am wleidyddiaeth ac ydy'r naill am i'r llall ennill?

"Wel pan wnaethon ni gyfarfod roedd y ddau ohonom yn gwybod ein bod yn sefyll etholiad i bleidiau gwahanol," meddai Leena.

"Myth ydy o ei bod hi'n amhosib i ddau o bleidiau gwahanol ddod ymlaen gyda'i gilydd.

"Mae yna elfennau o wleidyddiaeth sy'n gallu bod yn gas ond dydyn ni ddim yn teimlo fel 'na. Mae yna lawer o faterion rydyn ni'n cytuno arnynt - fel newid hinsawdd, yr UE a datganoli."

Ychwanegodd Aaron: "Roeddwn i'n gwybod pan wnaethon ni gyfarfod bod y ddau ohonom wedi'n dewis i sefyll etholiad a'n bod yn cynrychioli pleidiau gwahanol ond 'nes i'm meddwl mwy am y peth.

"Yn amlwg rydyn ni'n anghytuno ar rai pethau - ond mae'n gwerthoedd yr un fath. Mae yna wahaniaeth yn y manion ond o ran y materion mawr da ni'n rhannu yr un farn."

Ffynhonnell y llun, Aaron Wynne
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y ddau bod eu gwerthoedd yn debyg iawn

Mae un mater a fyddai o bosib wedi gallu ysgogi gwahaniaeth barn - annibyniaeth i Gymru.

Dywedodd Leena: "Yr unig fater rydym yn gwahaniaethu o ran barn yw annibyniaeth - ond mae dadl y ddau ohonom yn llai tanllyd bellach.

"Mae'r naill yn parchu barn y llall a 'dyn ni ddim wastad yn cytuno ond mae gennym ni lot fwy yn gyffredin.

"Dyw e ddim yn eithafol - mae'n credu yn gyffredinol fod annibyniaeth yn mynd i wella pethau."

Ychwanegodd Aaron: "O ran natur ein gwaith da ni'n derbyn na fyddwn yn cytuno ar bob dim ac mae hynna'n iawn - does dim rhaid i ni gytuno ar bopeth."

A dywed Leena eu bod yn deall sut mae trafod materion gyda pharch.

"Da ni'n cael sgyrsiau ac os oes un ohonom yn teimlo'n anghyffyrddus da ni'n cytuno i drafod y mater ar amser arall. Ond mae hynna'n wir am gyplau eraill - cyplau sydd ddim yn trafod gwleidyddiaeth."

Ffynhonnell y llun, Leena Farhat
Disgrifiad o’r llun,

Leena, sy'n gweithio i Brifysgol Glyndŵr, yn ymgyrchu

Ychwanegodd Aaron bod y ddau yn ceisio osgoi trafod gormod o wleidyddiaeth gan mai dyna mae'n nhw'n ei wneud weddill eu hamser.

"Does dim angen i ni siarad gormod am wleidyddiaeth - mae'n neis cael amser ffwrdd weithiau.

"Ond os oes mater da ni'n teimlo'n angerddol amdano - mi wnawn ni siarad amdano."

Barn teulu a ffrindiau?

Dywedodd Leena: "Rwy'n hoffi meddwl fod ffrindiau y naill yn hoffi'r llall - ond mae gennym ni lawer o'r un ffrindiau a dwi'n ffrindiau gyda pobl ym Mhlaid Cymru.

"Oherwydd y pandemig dyw e ddim wedi cyfarfod â fy nheulu i - maen nhw'n byw yn Ffrainc.

"Mae fy nheulu i wastad braidd yn bryderus am genedlaetholwyr ond mae hynna am nad oeddwn i erioed yn deulu o genedlaetholwyr."

Ychwanegodd Leena ei bod wedi egluro iddynt nad yw Plaid Cymru yr un fath â'r cenedlaetholdeb y maent wedi arfer ei weld.

Dywedodd hefyd bod y ddau wedi ceisio trefnu eu hymgyrchoedd fel bod modd iddynt weld ei gilydd.

Dywedodd Leena: "Roeddwn i'n byw yng Ngheredigion a byddai Aaron yn dod i'm gweld ar nos Wener, byddai'n ymgyrchu, fe fydden ni'n mynd allan ac yna fe fyddai'n gyrru nôl i ogledd Cymru.

"Byddai'n dweud bod ei blaid ei angen yng Ngheredigion ond er nad oedd ei angen yn y diwedd roedd yn esgus iddo ddod i fy ngweld i.

"Yn aml mae ffrindiau yn gofyn ar y cyfryngau cymdeithasol be' mae'n siarad amdano? Ond dwi'n ateb drwy ddweud fy mod yn ei garu."

Ffynhonnell y llun, Aaron Wynne
Disgrifiad o’r llun,

Aaron yn ymgyrchu cyn y pandemig

Mae Leena, a astudiodd gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth bellach yn gweithio i Brifysgol Glyndŵr gan ymweld ag ysgolion i hyfforddi plant am bynciau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae hi hefyd yn astudio ar gyfer gradd Meistr.

Mae Aaron yn gynghorydd yn Llanrwst ac wedi dechrau ymddiddori o ddifrif mewn gwleidyddiaeth yn ystod etholiad cyffredinol 2015.

Ydy'r naill am i'r llall ennill?

"Mi fyddai e'n Aelod o'r Senedd gwych," meddai Leena.

"Ond mae natur ei blaid yn golygu na fyddwn yn teimlo'n gyfforddus petaent yn cynyddu eu haelodaeth yn y Senedd.

"Rydyn ni'n gwahaniaethu rhwng gwaith a bywyd personol ac mae'n gwybod beth yw fy marn i ar hyn."

Ychwanegodd Aaron: "Wrth gwrs, dwi am iddi wneud yn dda. Byddai unrhyw bartner yn dweud hynny ond mi fyddai'n cefnogi Plaid Cymru yn ei hetholaeth."

Hefyd yn sefyll yn Aberconwy mae Rhys Jones ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Janet Finch-Saunders ar ran y Ceidwadwyr a Dawn McGuinness ar ran Llafur.

Ac yn sefyll yn Ne Clwyd mae Llyr Gruffydd i Blaid Cymru, Barbara Hughes ar ran y Ceidwadwyr, Mandy Jones ar ran Reform UK a Ken Skates ar ran Llafur.

Pynciau cysylltiedig