'Dim sylw i brofiadau BAME Cymru mewn adroddiad'
- Cyhoeddwyd
Mewn llythyr sydd wedi cael ei anfon at Gadeirydd y Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig, dywed cynrychiolaeth o Gymru nad yw'r adroddiad a gyhoeddwyd ganol wythnos ar hiliaeth yn y DU yn adlewyrchu profiadau lleiafrifoedd yng Nghymru.
Yn ei ragair i'r adroddiad roedd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Tony Sewell, yn nodi nad oes system bellach ym Mhrydain sy'n gweithredu'n fwriadol yn erbyn lleiafrifoedd ethnig.
"Mae yna wahaniaethu yn bodoli ond dydyn nhw ddim yn yn deillio'n benodol o hiliaeth," meddai.
Dywed awduron y llythyr sef grwpiau sy'n ceisio sicrhau cydraddoldeb - yn eu plith Race Council Cymru a degau o fudiadau eraill sy'n cynrychioli pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru bod yr adroddiad oedd yn ymddangos yn llawn bwriadau da yn fethiant.
"Dyw e ddim yn cynnwys y wybodaeth gywir, mae'r dadansoddiad o'r wybodaeth yn ddiffygiol ac mae'n gwneud cam mawr â phawb sydd wedi gweithio i daclo hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol yn y DU."
Wrth siarad am y llythyr ddydd Sul dywedodd y Barnwr Ray Singh, Cadeirydd Race Council Cymru: "Roedden yn cael ein dyfynnu fel rhanddeiliaid yn yr adroddiad ond dydyn ni ddim wedi bod â rhan ynddo o gwbl.
"Ry'n ni wedi byw drwy brofiadau o hiliaeth - ac mae dweud nad yw hiliaeth yn bodoli yn gwbl afresymol. Mae'n tanseilio y gwaith ry'n yn ei wneud yma yng Nghymru."
Mae copi o'r llythyr wedi cael ei anfon at Brif Weinidog Llywodraeth y DU, Boris Johnson.
Wrth ymateb dywed llefarydd ar ran y Comisiwn bod grwpiau wedi cael eu cydnabod yn yr adroddiad "fel mater o gwrteisi".
Ychwanegodd llefarydd bod "dinasyddion o bedair gwlad y DU wedi rhoi tystiolaeth yn ystod llunio'r adroddiad".
"Fe wnaeth yr adroddiad ganfod tystiolaeth o hiliaeth lwyr yn y DU ac mae argymhellion wedi eu gwneud i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ddelio â'r mater.
"Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi sawl enghraifft o lwyddiant ymhlith ein grwpiau ethnig lleiafrifol - gan gynnwys ym meysydd addysg ac iechyd - rhywbeth y dylwn ei gydnabod a dysgu ohono," medd llefarydd.
Yn ystod yr wythnos mae nifer o ymgyrchwyr wedi beirniadu'r adroddiad gan ddweud ei fod yn anwybyddu pryderon pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.
Beth sydd yn y llythyr?
Dywed awduron y llythyr, dolen allanol, yn eu plith Race Council Cymru, National BAME Youth Forum for Wales, Race Equality First, a sefydliadau eraill nad ydyn nhw wedi ymateb yn swyddogol ac nad ydynt "yn derbyn clod, bai na chyfrifoldeb am unrhyw elfen o'r adroddiad" er eu bod wedi'u nodi fel rhanddeiliaid.
Mwy o wybodaeth am adroddiad Sewell
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU wedi protestiadau gwrth-hiliaeth Mae Bywydau Du o Bwys yn ystod haf y llynedd - protestiadau a gafodd eu sbarduno wedi marwolaeth George Floyd yn America.
Prif neges yr adroddiad 258 tudalen oedd "nad oes gan y DU bellach system sy'n gweithredu yn erbyn lleiafrifoedd a bod strwythur teulu a dosbarth cymdeithasol yn cael mwy o effaith na hiliaeth ar fywydau pobl".
Mae'n nodi nad yw'r DU yn "wlad ôl-hiliol" eto ond bod ei llwyddiant yn gwaredu gwahaniaethau ar sail hil o fyd addysg, ac i raddau llai yr economi, "yn fodel i wledydd eraill lle mae'r mwyafrif o bobl yn wyn".
Yn ei ragair dywed y cadeirydd Tony Sewell, sy'n ymgynghorydd addysg ac yn gyn-bennaeth elusen, er bod "gwahaniaethu yn bodoli o hyd yn y DU maent yn amrywiol ac yn eironig dim ond ychydig ohonyn nhw sy'n gysylltiedig â hiliaeth".
Ddim yn defnyddio gwaith o Gymru
Un feirniadaeth gan gynrychiolwyr o Gymru yw bod nifer o waith enghreifftiol ar bynciau tebyg wedi cael ei wneud yng Nghymru a bod casgliad yr adroddiadau o Gymru yn gwbl wahanol.
"Petai adroddiad Sewell wedi ymgynghori gallai'r gwaith hwn fod wedi taflu goleuni ac ymestyn y dadansoddiad," medd y llythyr.
Maent yn cyfeirio'n benodol at waith a wnaed gan y Barnwr Ray Singh a arweiniodd Grŵp Cynghorol Iechyd BAME Cymru ar Covid-19 ac adroddiad yr Athro Emmanuel Ogbonna ar y rhesymau economaidd gymdeithasol am farwolaethau anghyfartal Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o Covid-19, dolen allanol.
Dywed awduron y llythyr: "Dyw hi ddim yn ymddangos bod y comisiwn yn gwerthfawrogi nac yn cydnabod y gwaith ac nid ydynt yn ystyried bod adroddiad Mr Ogbonna wedi dod i gasgliad cwbl wahanol am hiliaeth sefydliadol.
"Ry'n o'r farn bod profiadau o hiliaeth sefydliadol, a nodwyd yn Adroddiad Ogbonna, yn gwbl glir."
Mae'r llythyr yn nodi ymhellach anwybodaeth yr adroddiad o ran sut y mae Cymru yn cael ei llywodraethu.
Mae'n dweud hefyd y dylai'r adroddiad fod wedi cyfeirio at adnoddau Llywodraeth Cymru, yn benodol y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol, dolen allanol sydd, meddid, yn adrodd profiadau real o hiliaeth.
Daw llythyr yr ymgyrchwyr i ben drwy ddweud nad oes modd gwneud defnydd o adroddiad y comisiwn gan eu fod wedi hepgor ac anwybyddu tystiolaeth bwysig.
"Ry'n wedi'n siomi fod rhywbeth a allai fod yn werthfawr mor annefnyddiol," meddent.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020