‘Mae dynion yn fy nghyffwrdd gan na alla'i eu gweld'
- Cyhoeddwyd
"Mae merched yn gofyn a oes angen help arna'i a chynnig braich i'm cyfeirio. Mae dynion wedi cymryd y fraich arall a fy nghyffwrdd ar yr un pryd."
Mae menyw 27 oed o Bort Talbot wedi rhannu ei phrofiadau personol i amlygu sut mae menywod anabl yn cael eu targedu'n aml mewn mannau cyhoeddus gan ddynion sy'n ymosod arnyn nhw'n rhywiol neu'n eu haflonyddu.
Dywed Angharad Paget-Jones, sydd â nam difrifol ar y golwg a chi tywys o'r enw Tudor, bod rhywrai wedi cyffwrdd ynddi'n ddi-ofyn-amdano droeon.
Yn ôl ystadegau'r ONS hyd at Fawrth 2018, mae menywod anabl bron i ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef ymosodiad rhyw na merched eraill.
'Gallet ti jest gafael ynddi'
"Ro'n i'n cerdded un amser cinio gyda Tudor ac fe glywais grŵp o fechgyn tu ôl i mi'n dweud 'gallet ti jest gafael ynddi, gall hi ddim dy weld beth bynnag'," medd Ms Paget-Jones. Aeth yn syth i siop gerllaw dan ofn.
"Does dim 'gwerth' i fenywod anabl. Ry'n ni'n cael ein hystyried yn fregus, ond dydyn ni ddim. Cymdeithas sy'n ein gwneud yn fregus."
Mae Angharad yn galw am well addysg ynghylch sut mae'r anabl yn cael eu targedu, a chefnogaeth well i'r rhai sy'n dwyn sylw at drafferthion.
"Wnes i gwyno am ddigwyddiad i swyddog diogelwch mewn gorsaf reilffordd amlwg yn Llundain a nath e jest ateb na ddylai gwddw fy ffrog fod mor isel."
I godi ymwybyddiaeth mae Ms Paget-Jones yn defnyddio'r hashnod #dontgrabjustask ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n annog pobl i ofyn yn y lle cyntaf a oes angen cymorth ar bobl anabl.
Mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, meddai ond "mae rhai dynion wedi digio", ac ambell un wedi awgrymu "os nad ydych chi angen help, wnawn ni adael i chi farw'".
'Mi wyddai na allwn ffoi'
Mae Amy-Claire Davies, sy'n 26 oed ac o Abertawe, yn cael gofal lliniarol wrth fyw gydag epilepsi a phoen cronig difrifol.
"Ro'n i mewn clwb nos gyda ffrindiau mewn cadair olwyn ac roedd dyn yn dod ata'i o hyd yn ceisio siarad â fi. Dywedais yn glir sawl tro, 'na, cer i ffwrdd'.
"Arhosodd nes i fy ffrindiau symud i ffwrdd. Mi wyddai na allwn fynd unlle. Daeth ata'i a rhoi ei law lawr fy nghrys."
'Rhaid gwrando'
Dywed bod rhywrai hefyd wedi gwneud sylwadau amdani a gweiddi arni yn y stryd pan fo gofalwr benywaidd gyda hi, ond nid pan fo dyn yn gwmni iddi.
"Pan mae gyda chi offer mobility neu unrhyw beth gweledol sy'n gwneud i chi edrych yn fwy anabl, rwy'n meddwl bod rhai pobl sy'n eich gweld fel person mwy bregus gan fanteisio ar hynny.
"Gofynnodd ffrind [anabl] gwrywaidd ar ddiwedd noson allan pam nad o'n i jest yn gyrru fy hun adref yn fy nghadair olwyn yn hytrach na chael tacsi. Chwalodd hynny fy mhen pa mor wahanol yw ei brofiad yntau i fy mhrofiad i. Byddwn i byth yn mynd allan ar ben fy hun gyda'r nos."
"Rhaid gwrando ar leisiau menywod Cymru i fynd i'r afael â'r broblem yma."
Gobaith Ms Davies a Ms Paget-Jones yw y bydd pobl yn ystyried eu hymddygiad o amgylch menywod, boed ag anabledd ai peidio, i atal profiadau annymunol.
Yn y tair blynedd hyd at Fawrth 2018, roedd menywod anabl bron i ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef rhyw fath o ymosodiad rhyw yn y flwyddyn ddiwethaf (5.7%) na menywod heb anableddau (3.0%).
Dywed swyddog cyfathrebu strategol yr elusen Cymorth i Ferched Cymru, Charlotte Archibald, bod hi'n bwysig i drafod camdriniaeth ac aflonyddwch er mwyn ceisio sicrhau newid.
Mae ymchwil yr elusen ei hun wedi "canfod bod merched yng Nghymru gydag anabledd yn fwy tebygol o brofi aflonyddwch rhywiol yn amlach na menywod heb anabledd".
"Mae'n bwysig i ni ddeall nad yw pob menyw'n profi aflonyddwch rhywiol yn yr un ffordd, a bod y profiadau hyn yn aml wedi eu plethu gyda mathau eraill o gamdriniaeth ac anffafriaeth."
Dywedodd bod profiadau Ms Paget-Jones a Ms Davies yn "ofnadwy.... ond yn anffodus, nid yw ychwaith yn annisgwyl".
Mae menywod ag anableddau, meddai, "yn aml heb ffordd o dynnu eu hunain o'r sefyllfaoedd hynny sy'n agored i ferch arall".
"Mae'n bwysig ein bod yn wirioneddol gwrando ar leisiau merched anabl yng Nghymru... a sicrhau ein bod yn wir ystyried yr hyn maen nhw'n ei ddweud a'i ddefnyddio i wella diogelwch i ferched."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2021