Rhaglen deledu wedi cyflymu adferiad Castell Gwrych
- Cyhoeddwyd
Mae'r broses o adfer y castell a gafodd ei ddefnyddio yng nghyfres y llynedd o I'm a Celebrity Get Me Out of Here! wedi symud yn gynt na'r disgwyl ar ôl ymddangos ar y sioe.
Fe wnaeth Castell Gwrych, ger Abergele, Conwy, ddisodli cartref arferol y gyfres yn jyngl Awstralia fis Tachwedd a Rhagfyr diwethaf yn sgil y pandemig.
Mae'r castell wedi ailagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers i'r sioe gael ei darlledu, gyda gwaith adfer ychwanegol wedi'i wneud.
Dywedodd pennaeth ymddiriedolaeth y castell fod y gwaith bellach ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl.
Ers i'r castell ailagor, mae ymwelwyr yn gallu mynd i weld rhannau o'r adeilad a oedd ar set y sioe. Mae'r rhain yn cynnwys toiledau awyr agored yr enwogion a'r ciosg lle roeddent yn casglu danteithion dyddiol a enillwyd mewn heriau amrywiol.
Roedd Castell Gwrych ar agor fel atyniad i ymwelwyr tan yr 1980au ond, ers hynny, er gwaethaf ymdrechion sawl perchennog daeth yn adfail heb do na lloriau.
Llwyddodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych i brynu'r adeilad o'r diwedd yn 2018, ac mae wedi bod yn gweithio'n galed i'w sefydlogi ers hynny.
'Cyflymodd y sioe y broses adfer yn fawr'
Dywedodd Dr Mark Baker, cadeirydd yr ymddiriedolaeth: "Cyflymodd y sioe y broses adfer yn fawr.
"Roedd gennym bopeth yn ei le - cyngor arbenigol a chontractwyr arbenigol - ac roeddem ar fin dechrau casglu arian at ei gilydd i gyflawni'r gwaith.
"Ond fe dalodd ITV am waith adfer mawr ar bethau fel topiau waliau a linteli ffenestri. Rydyn ni nawr tua dwy flynedd o flaen y lle roedden ni'n bwriadu bod.
"Mae'n golygu, yn weddol fuan, y gallwn agor y tu mewn i adeilad y castell ei hun am y tro cyntaf, gan gynnwys y grisiau marmor enwog - y rheiny oedd yr enwogion yn aml yn cerdded i fyny ac i lawr. Mae wedi bod yn rhy beryglus hyd yn hyn."
Mae gobaith hefyd y bydd yr orsedd a gafodd ei defnyddio i goroni'r cyflwynydd Giovanna Fletcher fel enillydd y gyfres yn cael ei harddangos pan fydd ymwelwyr yn cael eu caniatáu y tu mewn i'r castell.
'Diddordeb wedi saethu i fyny'
Dywedodd Thomas Rye, sy'n gweithio yn y castell, fod ymwelwyr wedi bod yn dod o bob rhan o Gymru a Lloegr ers i gyfyngiadau coronafeirws lacio ddydd Llun.
"Nid oeddem yn siŵr sut brofiad fyddai bod ar agor eto, ond mae'r ymateb gan ymwelwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol.
"Mae pobl yn dal i ddweud pa mor anhygoel ydyw. Cyn gynted ag y bydd ceir yn cyrraedd y giât, gallwch weld y cyffro ar wynebau plant.
"Roedd y genedl yn gwylio Gwrych y llynedd ac ers hynny, mae diddordeb wedi saethu i fyny.
"Yn ogystal ag ymwelwyr, rydyn ni wedi cael 100 o bobl yn e-bostio am wirfoddoli yma. Mae wedi bod yn wych gweld y gymuned yn cymryd rhan yn y castell."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020