Etholiad Senedd 2021: Barn pobl ardal Cwm Nedd
- Cyhoeddwyd
Wrth i etholiad Senedd Cymru ddod yn nes mae Garry Owen, gohebydd arbennig Dros Frecwast, ar daith etholiadol o gwmpas Cymru.
Ei fwriad yw ymweld â mannau sy'n dechrau â'r llythrennau sy'n ffurfio y gair SENEDD - mae e' eisoes wedi bod yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr ac Eglwyswrw yn Sir Benfro.
Yr wythnos hon mae'n holi barn pobl ardal Cwm Nedd a'r cyffiniau.
Wrth iddo holi pa bynciau a ddylai gael sylw yn ystod yr ymgyrch ac wedyn - dyma rai o'r atebion.
Terry Pugh sy'n gyn-weithiwr glo o bentref Tairgwaith
"Beth i fi yn gweld yn Nyffryn Aman yw taw busnese bach yw popeth. Busnese yn cyflogi efalle tua hanner dwsin o bobl.
"Os oes rywun yn gweithio i gwmni mwy yna mae nhw yn teithio mas o'r ardal i chwilio am waith. Fi yn gweld lot o fans gwyn rownd ffor' hyn. Mae 'di bod fel 'na ers cau y gweithie glo"
"Dyle y gwleidyddion arwain ni at gynhyrchu mwy o ynni gwyrdd a chyflogi prentisiaid er mwyn i ni gael crefftau a sgiliau i gystadlu yn well yn y dyfodol a gwledydd eraill sy' eisoes yn flaenllaw yn y dechnoleg sy angen ar ddiwydiant gwyrdd fel yr Almaen, Sweden a Norwy."
Keith a Betty Ann Jones - wedi ymddeol - o Alltwen
"Ma lot o bobl yn trafaelio i Abertawe i weithio o fan hyn nawr.
"Ond ma cwpl o weithie bach ym Mhontardawe. Mae yr hen weithie glo wedi cau, ond mae peth gwaith yma o hyd.
"Ma' lot o bobl yn teithio o 'ma i weithio oherwydd yr hewlydd newydd …mae yn rhwydd i deithio o fan hyn i Abertawe, Caerfyrddin, Llanelli neu Caerdydd.
"Gyda Covid ni ddim yn gw'bod lle ni mynd i fynd ar ôl hyn o ran yr economi. Mae yn codi braw arno chi.
"Mae y lockdown wedi bod yn amser caled ofnadw' i bobl. Mae pobl yn frustrated iawn. Rhai ddim 'di bod mas am flwyddyn. Mae yn galed.
"Dyw pobl ddim yn byw nawr ma' nhw jyst yn existio. Bydd hwn yn bwnc pwysig yn yr etholiad."
Bronwen Lewis o Langatwg, cantores hunan-gyflogedig
"O ran cerddoriaeth a'r celfyddydau bydden i yn falch i weld cyfleon newydd yn cael eu creu fydde'n dod â llwybrau i'n cysylltu â'r byd eang… ma' pobol ishe clywed ni dros y byd i gyd.
"Ma lot o bobl ishe creu pethe eu hunan yn y byd cerdd, fel albwm nau fynd ar daith ond does dim lot o help yn ariannol i helpu ni.
"Dwi heb berfformio o flaen pobl mewn blwyddyn nawr. Gobeithio gallwn ni gael help i ddatblygu ar ôl y pandemig.
"Ma' pobl yn ysu ishe clywed ni a mynd i ddigwyddiadau a gigs ac felly mae angen llwyfannau a chyfleon i bobl ym myd y celfyddydau."
Gwen Shenton o Gimla - ar fin dechrau gweithio fel athrawes
"Mae y Gymraeg yn hynod bwysig i fi ac mae angen i unrhyw arweinydd gwleidyddol fod yn angerddol dros yr iaith ac am weld yr iaith yn ffynnu.
"Rwy' yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth o ran y celfyddydau a helpu i gynnig rhywbeth ychwanegol i blant a phobl ifanc i gymryd rhan y neu gymunedau nhw eu hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021