'Cwbl anaddas i Mark Drakeford roi'r diweddariad Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y Prif Weinidog Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "amlinellu beth fyddai llywodraeth Lafur yn ei wneud yn y tair wythnos wedi'r etholiad" yng nghynhadledd ddydd Gwener

Mae Mark Drakeford wedi cael beirniadaeth am ddweud y bydd yn datgan yn ystod cynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Gwener sut y byddai'n llacio rheolau petai'r Blaid Lafur yn ennill yr etholiad.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n dweud a fyddai'n caniatáu i dafarndai a bwytai ailagor dan do ar 17 Mai.

Yn ôl Plaid Cymru fe fyddai'n "gwbl anaddas" i ddefnyddio'r gynhadledd ar gyfer cyhoeddiadau pleidiol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd uwch gwas sifil yn ymateb i gŵyn ysgrifenedig gan arweinydd Plaid Cymru.

Bydd cynhadledd Llywodraeth Cymru'n cael ei darlledu ar BBC One Wales ddydd Gwener.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y dylai'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton arwain y gynhadledd yn hytrach na Mr Drakeford, gan gyhuddo arweinydd Llafur o "ymgyrchu noeth".

Ffynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o’r llun,

Dr Frank Atherton yn arwain un o gynadleddau coronafeirws Llywodraeth Cymru

Ar raglen Ask the Leader BBC Cymru nos Fawrth, gofynnwyd i Mr Drakeford a fyddai'n ailagor safleoedd lletygarwch dan do yn gynt - o 17 Mai, fel yn achos Lloegr.

Atebodd: "Byddaf yn gwneud datganiad ynghylch hynny ddydd Gwener.

"Bydd y penderfyniad yna ochr arall yr etholiad. Ond ddydd Gwener fe wnaf amlinellu beth fyddai llywodraeth Lafur yn ei wneud yn y tair wythnos wedi'r etholiad, fel rydym yn gyson wedi rhoi arwydd o flaen llaw i letygarwch dan do, i weddill y diwydiant twristiaeth, a phethau eraill ynghylch beth rydym ym meddwl y byddai'n cyd-destun iechyd cyhoeddus yn ei ganiatáu nawr."

Mewn ymateb i'r datganiad hwnnw, fe ysgrifennodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price at brif was sifil Llywodraeth Cymru, yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan.

Dywedodd Mr Price y byddai'n "gwbl anaddas i blaid y llywodraeth bresennol ddefnyddio adnoddau a sianeli cyfathrebu'r llywodraeth i wneud cyhoeddiadau pleidiol lai na phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio".

Gofynnodd Mr Price i Ms Morgan "ymyrryd i sicrhau bod unrhyw gyfathrebu trwy'r platfform yma'n cynnal llythyren ac ysbryd y canllaw sydd yno i sicrhau cydraddoldeb a chwarae teg i bawb".

Dywedodd bod cyhoeddiad ddydd Mawrth ynghylch llacio'r rheolau o ran cwrdd tu allan hefyd wedi digwydd "heb ymgynghori o flaen llaw gydag arweinwyr y gwrthbleidiau, a chyn fy nghyfarfod sydd wedi'i drefnu gyda'r prif weinidog".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, mae gweinidogion ac adrannau llywodraeth, yn gyffredinol, yn osgoi lansio polisïau newydd neu weithredoedd o bwys, yn rhannol i ddiogelu didueddrwydd y gwasanaeth sifil.

Fe fyddai'r Senedd, dan amgylchiadau arferol, wedi cael ei diddymu 21 diwrnod cyn yr etholiad, ond mae'r diddymiad wedi'i ohirio tan 29 Ebrill - wythnos cyn y diwrnod pleidleisio - fel bod modd delio gyda deddfwriaeth coronafeirws petai angen gwneud hynny.

Mae'r canllawiau'n nodi na all gweision sifil weithio mewn meysydd proffil uchel eraill, ond mae'n rhaid i swyddogion barhau i gefnogi gweinidogion trwy roi cyngor, heb gael "eu tynnu i mewn i'r arena wleidyddol".

'Amheus'

Dywedodd Janet Finch-Saunders o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r Prif Weinidog Llafur wedi cael digon o gyfleoedd i roi ffordd fanwl ymlaen i deuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru, ond mae yn fwriadol wedi dewis peidio gwneud hynny.

"Mae felly yn amheus ei fod, ar yr adeg fwyaf sensitif yma o etholiad y Senedd, wedi penderfynu gwneud nifer o ddatganiadau cyfnod clo annisgwyl.

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gallai, ac y dylai, cyhoeddiadau'n ymwneud â'r pandemig gael eu harwain gan uwch weision sifil fel y prif swyddog meddygol, a dyna ddylai ddigwydd ddydd Gwener."

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd y blaid eisiau bod yn rhan o "gemau a dadlau dibwys gyda'r pleidiau eraill".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi derbyn gohebiaeth gan Adam Price a bydd yn ymateb iddo'n uniongyrchol."