Etholiad 2021: Pwy yw Adam Price, arweinydd Plaid Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Adam PriceFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Gydag etholiad Senedd Cymru yn agosáu, mae Cymru Fyw yn cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru. Nesaf mae Adam Price, Plaid Cymru.

Mae Adrian Price yn cofio ateb ei frawd bach pan oedd yr 'hen ferched ar sgwâr Tŷ Croes' yn gofyn iddo beth oedd eisiau ei wneud pan oedd o'n hŷn: 'Prif Weinidog Cymru' oedd hwnnw.

Yn wir, dyma sydd wedi ei osod ym mlaenllaw yn ymgyrch Plaid Cymru yn etholiad Senedd Cymru eleni. Meddai'r cyn Aelod Cynulliad Nerys Evans amdano: "Mae e wedi gosod mas yn glir, Prif Weinidog neu ddim byd. Mae e wedi rhoi'r stakes yn eitha' uchel i'w hunan ac i'r Blaid, ond mae e' wir yn credu mai 'na'r newid sydd ei angen."

Bydd rhaid i ni aros tan ar ôl yr etholiad ar 6 Mai i weld os daw breuddwyd yr Adam ifanc yn wir.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price yn 2008

Dylanwad teulu

Un o Rydaman yw Adam Price ac mae wedi cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr draw yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd.

Mae'n ôl yn byw yn yr ardal gyda'i deulu; ei bartner, ei fab ifanc, ac mae merch fach ar y ffordd ym mis Mehefin.

Dyn teulu fu o erioed. Mae Nerys Evans, a oedd yn gweithio iddo pan oedd yn Aelod Seneddol yn San Steffan yn 2001, yn cofio ei rieni yn galw heibio'r swyddfa yn Rhydaman yn aml.

Ei rieni oedd un o'i ddylanwadau gwleidyddol cynharaf. Sefydlon nhw gangen Plaid Cymru yn Rhydaman, ac fe welodd eu mab effaith streic y glowyr ar ei deulu, gan fod ei dad yn löwr, ac ar ei gymuned yn yr 1980au canol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam ac Adrian Price eu holi ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ym mis Mawrth 2020

Roedd ei frawd, Adrian, hefyd yn rhan o'i stori wleidyddol. Ynghyd â dysgu Cymraeg i'w frawd bach pan oedd Adam Price yn ei arddegau, bu'n ddylanwad ar ei wleidyddiaeth hefyd, fel y soniodd arweinydd Plaid Cymru ar Radio Cymru yn 2020:

"O'dd Adrian yn Neuadd Pantycelyn yn yr 1980au - cyfnod anodd Thatcheriaeth, ond cyfnod creadigol yn hanes y mudiad cenedlaethol. Dod nôl wedyn gyda'r holl straeon 'ma am y bwrlwm o'dd yn digwydd ar y pryd.

"O'dd e'n beth anarferol i deulu glofaol i gefnogi Plaid Cymru yn yr ardal yr adeg hynny, ond o'dd yr hedyn wedi hau. Safodd Adrian i'r Blaid yn Llanelli yn '87. O'n i rhyw fath o ymgynghorydd anffurfiol yn ceisio helpu gyda'r areithiau bryd hynny. O'n i'n sicr wedi cael y blas drwy hynny."

'Gwleidydd naturiol'

Mae'r gwleidydd Dafydd Wigley yn cofio dod i adnabod Adam Price gyntaf pan oedd yn fyfyriwr ac yn weithgar iawn gyda changen ifanc y Blaid:

"Bob amser, oedd Adam yn sefyll allan fel yr un mwya' galluog o ran ei allu meddyliol, yn dreiddgar. Yn ystod y 90au, pan o'n i'n arwain y Blaid, oedd o'n gefnogaeth dda iawn, a weithiau'n feirniadol o'r arweinyddiaeth - ond bob amser, roedd o'n ei 'neud o mewn ffordd adeiladol, ac roedd hynny'n rhywbeth o'n i'n ei barchu'n fawr iawn."

Mae'r Arglwydd Wigley yn credu fod 'gwleidyddiaeth yn dod yn naturiol i Adam oherwydd fod ganddo fo ddiddordeb mewn pobl', er mae'n cydnabod y byddai wedi gallu camu'n gyfforddus i faes diwydiant neu i'r byd academaidd hyd yn oed oherwydd ei feddwl 'chwim'. Ond i'r byd gwleidyddol yr aeth o, a hynny pan gafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan yn 2001.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price yn 2005, pan oedd yn y penawdau fel Aelod Seneddol oedd yn ymgyrchu yn erbyn rhyfel

Yno, gwnaeth ei farc gan gymryd rhan ac arwain ar ymgyrchoedd amlwg, fel ei fwriad i geisio uchelgyhuddo'r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair. Bu'n Aelod am naw mlynedd, ond fel y dywedodd Adam Price ei hun ar raglen Beti a'i Phobol yn 2014, roedd yn barod i'r cyfnod yn Nhŷ'r Cyffredin ddod i ben erbyn iddo adael yn 2010:

"O'dd e'n fraint i gynrychioli'n ardal. Fe geisiais i 'neud fy nhipyn bach o ddaioni tra o'n i yno. Ond erbyn y diwedd, o'dd e'n amser gadael. O'n i'n teimlo bod rhywbeth wedi sarnu gwleidyddiaeth. O'n i yn falch i gyflwyno'n hun fel Aelod Seneddol dros y Blaid, ond erbyn diwedd y ddegawd, o'n i'n cywilyddio i alw fy hun yn Aelod o'r lle, ac o'n i eisiau gadael er mwyn cael awyr iach."

O San Steffan i Fae Caerdydd

Ar ôl cyfnod yn astudio ym mhrifysgol Harvard yn UDA ar Ysgoloriaeth Fulbright, a chyfnod ym maes diwydiant fel 'entrepreneur', daeth yn ôl i'r byd gwleidyddol pan gafodd ei ethol i'r Cynulliad (fel oedd bryd hynny) yn 2016.

Yn dilyn ymgyrch yn erbyn Leanne Wood a Rhun ap Iorwerth, cafodd Adam Price ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price yn annerch y dorf yn 2020 mewn protest am newid graddau arholiadau Lefel A yn sgil argyfwng Covid

Mae'r Arglwydd Wigley yn teimlo fod profiad Adam Price o weithio yn San Steffan flynyddoedd ynghynt wedi bod yn fanteisiol iddo pan ddaeth yn arweinydd, gan sicrhau proffil Brydeinig iddo'i hun:

"O'dd o'n 'nabod ei ffordd o gwmpas Tŷ'r Cyffredin, a'r cyfryngau yn Nhŷ'r Cyffredin, a'r cyfryngau yn Llundain yn gyffredinol, ac roedd hyn yn fantais mawr iawn. Roedd o falle efo gwell cysylltiad fel yna nag unrhyw un oedd wedi bod yn arweinydd y Blaid ar unrhyw adeg, yn dod i mewn i'r swydd."

Credai fod Adam Price cystal am greu cysylltiadau a dod o hyd i'r bobl orau i gynnig cyngor iddo, am ei fod mor dda gyda phobl:

"Mae'n gallu ymwneud efo pobl o bob cefndir ac ym mhob amgylchedd," meddai, "a bod pobl yn teimlo'n gyfforddus ac yn gallu uniaethu efo o - ei fod o'n rhywun sydd yn gwrando ac yn deall."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Plaid Cymru gydag arweinydd y Blaid yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, yn rali Yes Cymru yng Nghaernarfon yn 2019

Edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen

Mae Adam Price yn dechrau rhan helaeth o'i areithiau yn cyfeirio at hanes Cymru, un o'i ddiddordebau mawr - areithiau sydd yn uchafbwynt i nifer o bobl yng nghynadleddau Plaid Cymru, yn ôl Nerys Evans, a hynny ers degawdau.

Meddai: "Bach iawn o wleidyddion sy'n gallu gwneud 'na i'r graddau mae Adam yn gallu ei wneud, oherwydd ei wybodaeth e am hanes Cymru a hefyd oherwydd ei wybodaeth e ynglŷn â pholisïau arloesol sy'n digwydd mewn gwledydd gwahanol, a cyfleu'r weledigaeth o beth all Cymru fod.

"Pan o'n i'n gweithio iddo fe, 'na beth o'n i'n gallu ei weld hefyd, o ran yr awydd 'ma i wneud pethau'n well. Mae e'n uchelgeisiol i Gymru - mae hwnna'n infectious."

Bydd Plaid Cymru yn gobeithio y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniadau'r etholiad.