Treth y Cyngor: Galw am 'newid radical'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
RhonddaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Treth y Cyngor wedi cynyddu yn fwy na chwyddiant ym mhob un o gynghorau Cymru eleni

Dylai taclo effaith Treth y Cyngor ar bobl dlotaf Cymru fod yn flaenoriaeth i unrhyw lywodraeth wedi 6 Mai yn ôl yr elusen Cyngor ar Bopeth.

Dywed yr elusen mai Treth y Cyngor yw achos pennaf dyledion y rhai hynny sy'n troi atynt am help.

Yn ôl Cyngor ar Bopeth roedd un ym mhob saith o bobl yng Nghymru yn cael trafferth talu eu biliau Treth Cyngor hyd yn oed cyn y pandemig - a'r sefyllfa wedi gwaethygu ymhellach dros y flwyddyn ddiwethaf.

Maen nhw'n cyfeirio at adroddiad gan Sefydliad Astudiaethau Cyllidol - yr IFS - gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dywed yr adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi yn Ebrill 2020, fod Treth y Cyngor yn rhoi mwy o bwysau ar deuluoedd incwm isel.

Mae'r adroddiad yn disgrifio'r dreth fel un sy'n ffafrio'r cyfoethog, hynny i'r gwrthwyneb i drefn trethu fwy blaengar sy'n rhoi pwyslais ar allu unigolion i dalu.

Yn ogystal â threfn fwy blaengar, roedd yr adroddiad hefyd yn dweud y dylid diweddaru'r modd mae tai yn cael eu gwerthuso.

Wrth wneud hynny dywed yr adroddiad y byddai biliau ar gyfartaledd yn gostwng £160 ym Merthyr Tudful, Castell-Nedd Port Talbot a Blaenau Gwent.

Ffynhonnell y llun, Susan Powell
Disgrifiad o’r llun,

Sir Benfro sy'n codi'r lleiaf o dâl am Dreth Cyngor - £1,190 ar gyfer adeilad Band D

I'r gwrthwyneb, byddai biliau yn codi mewn ardaloedd lle mae prisiau tai yn uwch, ardaloedd fel Caerdydd, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.

Dywed Rhiannon Evans, pennaeth polisïau ac ymgyrchoedd Cyngor ar Bopeth: "Fe ddylai pwyslais ar newid y drefn fod yn flaenoriaeth go iawn i lywodraeth nesa Cymru. "

Barn y pleidiau

Dywed Llafur Cymru y byddant "ymroi i ad-drefnu Treth y Cyngor i sicrhau system fwy cyfartal i bawb."

Mae Plaid Cymru am weld "adrefnu llawn o'r system Treth y Cyngor presennol," ond yn y cyfamser maent yn cynnig "ailasesu gwerth tai, cynyddu nifer y bandiau ar y lefelau uchel, a sicrhau fod Treth y Cyngor yn fwy cyfatebol i werth eiddo."

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y byddant yn sicrhau y byddai "Treth y Cyngor yn cael ei rewi am ddau dymor cyntaf y Senedd nesaf," gyda'r uchelgais o'u rhewi am y cyfnod cyfan.

Byddant hefyd am weld refferendwm er mwyn i bobl leol gael rhoi eu barn ar gynnydd o dros 5% yn Nhreth y Cyngor.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud y byddant yn "ymchwilio i newidiadau yn y modd o ariannu llywodraeth leol, gan gynnwys cael rhyw drefn arall o godi arian yn lle Treth y Cyngor."