Pleidleisio mewn person yn brofiad 'gwahanol' eleni
- Cyhoeddwyd
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn atgoffa etholwyr Cymru y bydd pleidleisio mewn person ddydd Iau nesaf yn wahanol eleni oherwydd y pandemig.
Bydd gofyn i bobl gydymffurfio â'r rheolau atal coronafeirws wrth fynd i orsafoedd pleidleisio i ddewis Aelodau Senedd Cymru a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd newydd.
Mae hynny'n cynnwys golchi dwylo wrth gyrraedd a gadael yr orsaf bleidleisio, a threfniadau i sicrhau bod staff a phleidleiswyr yn cadw'n ddigon pell o'i gilydd.
Gyda'r angen i reoli faint o bobl all fod yn yr orsaf ar unrhyw adeg, mae'n bosib y bydd yn rhaid ciwio tu allan am gyfnod.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
BLOG VAUGHAN RODERICK: Gwalia Deserta
Wrth "annog pleidleiswyr i sicrhau eu bod yn barod i bleidleisio ar 6 Mai" mae'r comisiwn hefyd yn awgrymu y dylai pobl "fynd â gorchudd wyneb a phen neu bensil gyda nhw pan fyddant yn pleidleisio".
Ychwanega: "Os bydd pobl yn anghofio'r rhain, bydd rhai sbâr ar eu cyfer yn yr orsaf bleidleisio."
Bydd gorsafoedd ar agor rhwng 07:00 a 22:00 yn ôl yr arfer a bydd unrhyw un sydd yn y ciw erbyn 22:00 yn cael pleidleisio.
"Eleni, bydd pleidleisio'n bersonol yn ymddangos yn wahanol i'r hyn a gafwyd mewn etholiadau blaenorol," meddai pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, Rhydian Thomas.
"Gallwch helpu i gadw chi eich hunan ac eraill yn ddiogel trwy ddilyn y mesurau diogelwch a fydd ar waith yn yr orsaf bleidleisio.
"Os gofynnir i chi giwio, bydd hyn er mwyn sicrhau y gallwch chi ac eraill ddilyn y mesurau pellhau cymdeithasol sydd ar waith, felly byddwch yn amyneddgar wrth aros eich tro.
"Fel y bu erioed, gall pleidleiswyr ddod â'u pen neu bensil eu hunain i fwrw eu pleidlais, ac eleni fe anogir hyn er mwyn lleihau cyswllt rhwng pleidleiswyr."
Os bydd rhywun yn sâl neu'n hunan-ynysu oherwydd Covid-19 wrth i'r diwrnod pleidleisio agosáu, neu ar ddiwrnod yr etholiadau, bydd yna gyfle o hyd i bleidleisio.
Bydd modd gwneud cais hyd at 17:00 ar 6 Mai, trwy eu cyngor sir lleol, am bleidlais frys drwy ddirprwy fel bod rhywun y maen nhw'n ymddiried ynddyn nhw'n gallu pleidleisio ar eu rhan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021