Pêl-droedwyr prifysgol am newid agweddau at ferched

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Oedd beth oedd yn mynd 'mlaen yn ffiaidd'

Mae criw o bêl-droedwyr yn ceisio newid agweddau yn sgil neges ar Facebook oedd yn bygwth treisio menywod prifysgol ar noson allan.

Cafodd Ben Marett - fel sawl un arall - ei gythruddo ar ôl gweld y neges bygythiol ac roedd eisiau gwneud rhywbeth i helpu.

Yn bryderus am ei ffrind Mia, gan ei fod yn gwybod ei bod hi allan y nos Sadwrn honno, fe wnaeth iddo feddwl am ferched eraill a allai fod yn poeni am eu diogelwch.

Felly fe anfonodd neges at aelodau o'i dîm pêl-droed ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ofyn a fyddan nhw'n ei gefnogi i hebrwng menywod mewn parau yn hwyr y noson honno.

Ar ôl postio'r cynnig ar gyfryngau cymdeithasol, cysylltodd tua 30 o ferched â nhw er mwyn iddyn nhw allu cerdded adref gyda'i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Ben Marett
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau tîm pêl-droed Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Ben Marett ar y chwith

Daeth mater diogelwch menywod i sylw craff ledled y wlad ac ar draws y byd ym mis Mawrth yn dilyn diflaniad a llofruddiaeth Sarah Everard yn Llundain.

Mae Ben yn gobeithio y bydd ei fentrau ef a mentrau eraill sy'n cael eu cynnal gan dîm Prifysgol Caerdydd yn helpu eu ffrindiau i deimlo'n ddiogel yn y brifysgol.

Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd yn helpu i herio canfyddiadau am y diwylliant "laddish" sy'n gysylltiedig â thimau chwaraeon dynion weithiau.

'Angen i'r diwylliant newid'

"Mae pobl yn ei gysylltu â phawb allan yn yfed, mynd ar ôl merched, mynd i ymladd ac achosi drygioni, ac nad yw'r bechgyn yn aelodau da o'r gymdeithas," meddai Ben.

"Mae angen i'r diwylliant yma newid ac nid mewn pêl-droed yn unig, os yw'r hyn rydw i a'r bechgyn yn ei wneud yn golygu y bydd pobl yn dechrau edrych ar gymdeithasau chwaraeon yn wahanol a bod dynion yn ymddwyn yn fwy cyfrifol yna mae hynny'n wych."

Ffynhonnell y llun, Ben Marett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben hefyd am i'w gyfoedion fod yn fwy agored i siarad am eu iechyd meddwl

Mae'r chwaraewr 22 oed yn llywydd a chapten clwb pêl-droed y brifysgol a dywedodd ei fod yn y pen draw eisiau helpu ar ôl gweld y neges Facebook - a drodd allan i fod yn ffug.

"Nid ydym yn dweud bod angen help ar fenywod ond pe bai rhywun yn ofnus, roeddwn i eisiau iddyn nhw wybod y byddwn i'n anfon un o'r bechgyn i'ch cerdded a sicrhau eich bod chi'n iawn," meddai.

"Mae'n erchyll meddwl bod yna bobl allan yna sy'n meddwl ei bod hi'n iawn - ffug neu beidio - i ddychryn menywod, ac rwy'n credu bod llawer o ddynion yn cael eu categoreiddio i'r ffaith nad yw dynion yn ddiogel, sydd ddim yn deg iawn.

"Roeddwn i eisiau dangos bod yna ddynion allan yna a fydd yn helpu ac nad ydyn nhw'n gwneud pethau drwg."

Dywedodd Ben ei fod yn sicrhau bod ei gyd-chwaraewyr yn gwisgo eu topiau pêl-droed coch ac yn postio eu hwynebau ar gyfryngau cymdeithasol fel eu bod yn hawdd i'w hadnabod i ferched a oedd eisiau gwarchodwr.

Dywedodd ffrind Ben, Mia, bod cael aelodau o'r tîm i'w cherdded gartref yn gwneud "byd o wahaniaeth" ac yn gwneud iddi deimlo'n llawer mwy cyfforddus.

"Ni ddylai fod yn beth lle mae'n rhaid i chi gael hogiau yn eich gwarchod ond does gennych chi ddim dewis mewn gwirionedd," ychwanegodd.

Mae'n fenter y mae Prifysgol Caerdydd wedi'i chroesawu, gan ychwanegu ei bod yn "falch" o'r ffordd yr ymatebodd cymuned y myfyrwyr i'r neges ffug.

Podlediad iechyd meddwl

Mae Ben ac is-lywydd y tîm, Jared Evitts, hefyd wedi bod yn gweithio i annog dynion i siarad am iechyd meddwl trwy gydol y pandemig.

"Roedden ni eisiau darparu rhywbeth positif mewn cyfnod lle roedd pethau'n eithaf llwm, roedd yn amser eithaf tywyll i bob un ohonom," meddai Ben.

Dechreuodd y pâr bodlediad yn ystod y cyfnod clo yn siarad am iechyd meddwl mewn chwaraeon.

Dywed Ben a Jared eu bod yn gobeithio y gallant helpu i newid y canfyddiad sydd gan bobl o gymdeithasau pêl-droed prifysgol a'r diwylliant.

"Dwi wastad wedi cael problemau iechyd meddwl fy hun o fewn chwaraeon," meddai Ben, "ond dwi erioed wedi agor i fyny ac mae bod mewn safle, o bosib, lle alla'i fod yn role model yn anhygoel."