Galw am gynnydd 'sylweddol, syml' i gyflogau staff iechyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nyrsys

Mae gweithwyr GIG Cymru wedi galw ar wleidyddion i ymrwymo i godiadau cyflog uwch na chwyddiant cyn etholiad y Senedd.

Dywedodd cymdeithas feddygol y BMA y dylai codiadau cyflog adlewyrchu'r "flwyddyn erchyll" yr oedd meddygon wedi'i phrofi, tra bod undeb Unsain am i'r holl staff dderbyn codiad cyflog o £2,000.

Mae cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol, Helen Whyley, yn galw am "fargen sylweddol, syml" i nyrsys.

Mae adolygiadau annibynnol wrthi'n ystyried codiadau cyflog i staff y GIG, a bydd rhaid i'r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd benderfynu os ydyn nhw am dderbyn a gweithredu'r argymhellion.

Er bod y pedair prif blaid wleidyddol wedi ymrwymo i barchu canlyniad yr adolygiad annibynnol o gyflogau, dim ond Plaid Cymru sydd wedi cadarnhau'r cynnydd canrannol isaf y byddai'n fodlon gweithredu os yw'n ennill yr etholiad.

Mae disgwyl i'r adolygiadau annibynnol gyflwyno'u hargymhellion yn yr haf, sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r llywodraeth newydd - fydd yn cael ei ethol wythnos nesaf - benderfynu a ddylid derbyn ei hargymhellion.

Roedd ymateb chwyrn gan y cyrff sy'n cynrychioli staff y GIG pan ddywedodd Llywodraeth y DU ei bod am gyfyngu codiadau cyflog i 1% i weithwyr yn Lloegr.

Gwnaeth gweinidogion San Steffan y datganiad yn eu tystiolaeth i'r cyrff sy'n adolygu cyflogau.

Yn ei thystiolaeth ei hun, ni wnaeth Llywodraeth Cymru roi unrhyw uchafswm ar yr hyn y byddai'n barod i'w dalu.

Be' mae'r pleidiau'n ei gynnig?

Gofynnodd BBC Cymru i'r pleidiau beth fyddai'r canran isaf y byddent yn barod i'w gynnig fel codiad cyflog i weithwyr iechyd?

Ar ran Llafur Cymru dywedodd llefarydd: "Byddai llywodraeth newydd Llafur Cymru yn symud ein GIG a'n system gofal ymlaen trwy gyflwyno'r cynllun adfer mwyaf a welodd GIG Cymru erioed, gan warantu Cyflog Byw i weithwyr gofal, trwy hyfforddi 12,000 o weithwyr iechyd proffesiynol a thrwy sefydlu ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru.

"Rydym yn deall dicter staff ar draws y GIG tuag at y codiad cyflog pitw o 1% a gynigiwyd gan lywodraeth Dorïaidd y DU.

"Nid ydym wedi gosod uchafswm mympwyol ar godiadau cyflog, fel y mae'r Torïaid yn Lloegr wedi'i wneud.

"Ni wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru gynnwys uchafswm ar godiadau cyflog yn ei thystiolaeth i'r cyrff adolygu cyflogau ac rydym yn aros i weld eu hargymhellion."

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y byddent yn cyflwyno argymhellion y bwrdd adolygu cyflogau yn llawn.

Dywedodd eu harweinydd Andrew RT Davies: "Credaf y dylem fod yn gwobrwyo gweithwyr ymroddedig ein GIG cymaint ac y gallwn fel gwlad."

Mae Plaid Cymru wedi addo codiad o 4% fel lleiafswm gwarantedig, sef yr hyn sydd wedi ei gynnig i weithwyr GIG yn Yr Alban.

"Byddwn hefyd yn ceisio cael cytundeb gydag undebau a chyflogwyr y GIG ar gynllun clir i gyflwyno'r codiad o 12.5% yn nhermau real sydd ei angen er mwyn dad-wneud degawd o doriadau yn yr amser byrraf posib," meddai llefarydd.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig hefyd yn disgwyl i glywed argymhellion yr adroddiad annibynnol, ond maent wedi ymrwymo i sicrhau y bydd gweithwyr y GIG yn "derbyn y cyflog a'r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu" a chydraddoldeb i'r gweithlu ar draws y GIG a gofal cymdeithasol.

Ni wnaeth UKIP ymateb i'r cwestiwn ac nid ydynt wedi gwneud ymrwymiad cadarn ar gyflogau'r GIG yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Sylwer: Efallai y bydd etholiadau cynghorau plwyf neu is-etholiadau mewn cynghorau hefyd lle rydych chi, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys fan hyn. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn. Diweddarwyd ddiwethaf: May 11, 2021, 12:35 GMT

'Angen bargen sylweddol, syml'

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol, RCN Cymru, yn galw am godiad cyflog o 12.5% ledled y DU, cynnydd maen nhw'n dweud fydd yn cywiro tan-daliadau hanesyddol.

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr RCN Cymru: "Credwn fod cyflogau nyrsio wedi cwympo y tu ôl i chwyddiant ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn credu mai eleni yw'r flwyddyn i gywiro hynny.

"Ry'n ni'n credu bod angen bargen sylweddol, syml fydd yn cael ei thalu'n gyflym fel bod ein haelodau yn cael yr arian yn eu cyflogau y maen nhw'n haeddu.

"Yn enwedig wrth ystyried sut maen nhw wedi camu i fyny yn ystod cyfnod coronafeirws, a'r pethau maen nhw wedi gorfod gwneud yn y 12 mis diwethaf."

Er bod y mater dan sylw pwyllgorau annibynnol ar hyn o bryd, mae Ms Whyley yn dweud bod angen cofio mai penderfyniad gwleidyddol fydd hi yn y pen draw.

"Gadewch i ni fod yn hollol glir am hyn. Mae'r penderfyniad am gyflogau y gwasanaeth iechyd yn benderfyniad gwleidyddol, a mi fydd yn cael ei wneud gan lywodraeth nesaf Cymru.

"Felly beth bynnag mae'r pleidiau yn dweud yn eu maniffestos, rwy'n wirioneddol glir iddynt - ni allant fforddio peidio â gwneud hyn.

"Os ydyn ni wir eisiau cael y GIG nôl ar ei draed, mae angen i ni wobrwyo'r sgiliau mae nyrsys wedi'u dangos."

Mae undeb Unsain, sy'n cynrychioli amrywiaeth o weithwyr iechyd o lanhawyr ysbytai i nyrsys, yn galw am gynnydd o £2,000 i bawb sy'n gweithio i'r GIG.

Tra bod y BMA am i gyflogau gynyddu hefyd, maen nhw'n derbyn y bydd unrhyw godiad sy'n agos at lefel chwyddiant yn dderbyniol.

Dywedodd Dr David Bailey, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu y BMA: "Rydyn ni'n gobeithio am rywbeth sydd yn uwch na chwyddiant, rydyn ni'n gobeithio am o leiaf yr hyn y mae'r corff annibynnol yn ei ddyfarnu, ac er tegwch mae'r prif bleidiau wedi dweud eu bod yn debygol o barchu'r wobr honno, sy'n beth da.

"Hoffem weld rhywbeth yn agos at 5%, efallai bod hynny bach yn optimistaidd o bosib, ond yn sicr yn rhywbeth sydd uwchlaw chwyddiant. I adlewyrchu nid yn unig y flwyddyn anferth ac erchyll sydd wedi bod.

"A nid dim ond i feddygon, mae wedi bod yn erchyll i bawb sydd wedi gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

"Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonyn nhw yn cael eu gwobrwyo am hynny, am beth sydd wedi bod y flwyddyn waethaf yn ein holl yrfaoedd ni."

Beth mae'r pleidiau yn ei addo?

Dewiswch bwnc a phlaid i weld eu polisïau

Covid-19

Yn cynnwys mesurau cyfyngu yn y dyfodol a chyflwyno brechlynnau

Economi

Yn cynnwys buddsoddiadau seilwaith, trethi busnes a chefnogaeth i ddiwydiant

Addysg

Yn cynnwys cyllid ysgolion a phrifysgolion, cyflogau, profion ac arolygu ysgolion a ffioedd dysgu prifysgol.

Iechyd a gofal

Yn cynnwys ysbytai, meddygon teulu, deintyddion, cyllid, staffio, amseroedd aros, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Perthynas â'r UE

Yn cynnwys masnach a'n perthynas ag Ewrop yn y dyfodol

Amgylchedd

Yn cynnwys newid hinsawdd, targedau allyriadau, ynni adnewyddadwy, defnyddio plastig, ailgylchu, effeithlonrwydd ynni a llygredd aer.

Gwaith a budd-daliadau

Yn cynnwys gofal plant, mynd i'r afael â thlodi a budd-dal y Dreth Gyngor.

Tai

Yn cynnwys adeiladu tai, perchentyaeth, tai cymdeithasol, digartrefedd a hawliau tenantiaid.

Trafnidiaeth

Yn cynnwys perchnogaeth a masnachfreinio rheilffyrdd, gwasanaethau bysiau, ac uwchraddio ffyrdd.

Democratiaeth

Yn cynnwys dyfodol datganoli yng Nghymru.

Llafur Cymru party logo

Llafur Cymru

Arweinydd

Mark Drakeford

Mark Drakeford eicon

Polisïau allweddol

  • Gwarant newydd i bobl ifanc i gael lle mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, gan gynnwys creu 125,000 o brentisiaethau newydd
  • Gwarantu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i holl staff gofal cymdeithasol, a chadw'r cap ar ffioedd gofal dibreswyl a chynnal y terfyn cyfalaf o £50,000
  • Buddsoddi £800m mewn trenau newydd, gan sicrhau erbyn 2023, y bydd 95% o siwrneiau ar ein rhwydwaith trenau ar drenau newydd

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Parhau i weithio gyda staff y GIG, y lluoedd arfog a gwirfoddolwyr i gael pobl wedi'u brechu
  • Mwy o gefnogaeth i weithwyr a busnesau yng Nghymru gyda'r hyn sy'n cael ei alw y cymorth ariannol mwyaf hael yn y DU
  • Lansio rhaglen gymorth dal-i-fyny ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cyflogi dros 1800 o diwtoriaid ychwanegol mewn ysgolion ac ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru

Economi

Economi eicon
  • Parhau â'r gwyliau ardrethi busnes i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis arall, sy'n golygu, gyda'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, y bydd dros 70,000 o fusnesau yn talu dim ardrethi o gwbl yn 2021-22
  • Sefydlu gwarant newydd i bobl ifanc i gael lle mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, gan gynnwys creu 125,000 o brentisiaethau newydd

Addysg

Addysg eicon
  • Cwricwlwm newydd i Gymru i ddechrau yn 2022, sy'n canolbwyntio ar safonau llythrennedd a rhifedd uwch, sicrhau bod ein pobl ifanc yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, a chefnogi iechyd meddwl ac emosiynol disgyblion
  • Parhau i ddiogelu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  • Cefnogaeth i deuluoedd i ysgwyddo costau gwisg ysgol ac offer, a gwarantu prydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau yn ystod y pandemig

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Parhau i ddiogelu presgripsiynau am ddim a pharcio am ddim mewn ysbytai
  • Gwarantu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i holl staff gofal cymdeithasol, a chadw'r cap ar ffioedd gofal dibreswyl a chynnal y terfyn cyfalaf o £50,000

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Pwysleisio pwysigrwydd ein cysylltiadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol gyda'r UE, gan alluogi busnesau i fasnachu nwyddau o Gymru ar draws Ewrop
  • Parhau i weithredu'r Strategaeth Ryngwladol sy'n ceisio codi proffil Cymru, tyfu'r economi a sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Creu swyddi ar draws Cymru gydag ynni gwyrdd, dulliau diogelu'r amgylchedd a thwristiaeth
  • Gwahardd y defnydd o'r plastigau untro sy'n cael eu gadael fwyaf fel sbwriel, gan ddiogelu'r moroedd a chefn gwlad
  • Creu Coedwig Genedlaethol i Gymru, er lles cydraddoldeb ac iechyd meddwl yn ogystal â'r amgylchedd

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Troi'r dull partneriaeth gymdeithasol yn gyfraith, a gwneud Cymru yn Wlad o Waith Teg go iawn
  • Parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi teuluoedd yng Nghymru mewn meysydd y mae'n gyfrifol amdanynt a chael gwared ar y toriadau arfaethedig i Gredyd Cynhwysol

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu miloedd o dai fforddiadwy, carbon isel, newydd i'w rhentu, ac yn sgil hynny, creu miloedd o swyddi newydd

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Darparu system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy o ansawdd uchel i Gymru
  • Cadw masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau mewn perchnogaeth gyhoeddus
  • Buddsoddi £800m mewn trenau newydd, gan sicrhau erbyn 2023, y bydd 95% o siwrneiau ar ein rhwydwaith trenau ar drenau newydd
  • Ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau, sy'n golygu mynediad haws at wasanaethau bysiau lleol
  • Buddsoddi mewn cymunedau a seilwaith i helpu i sicrhau bod mwy a mwy o deithiau yn digwydd ar droed neu ar feic

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Credu bod y Deyrnas Unedig yn gymdeithas wirfoddol o bedair cenedl, lle dylai pŵer gael ei wasgaru yn hytrach na'i ganoli, a lle bo cynifer o benderfyniadau â phosibl yn cael eu gwneud mor agos at bobl â phosib
  • Cefnogi confensiwn cyfansoddiadol i ddatblygu setliad newydd i'r Deyrnas Unedig
Ceidwadwyr Cymreig party logo

Ceidwadwyr Cymreig

Arweinydd

Andrew RT Davies

Andrew RT Davies eicon

Polisïau allweddol

  • Adeiladu Ffordd Liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 yng Ngogledd Cymru i leihau mannau cyfyng a'r A40 i hybu'r economi yng Ngorllewin Cymru
  • Dim pwerau newydd i Lywodraeth Cymru
  • Adeiladu 100,000 o dai yn ystod y degawd nesaf, gan gynnwys 40,000 o dai cymdeithasol, gyda phob cartref newydd yn garbon niwtral erbyn 2026

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Penodi Gweinidog penodol o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer y broses adfer ar ôl COVID-19 i oruchwylio'r holl feysydd adfer yn sgil y coronafeirws, gan gynnwys cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru gyda phob oedolyn yn cael cynnig dau ddos erbyn diwedd mis Hydref, a chyflwyno unrhyw bigiadau atgyfnerthu
  • Sefydlu llwybrau i gefnogi pobl sy'n dioddef â phroblemau iechyd meddwl yn sgil y pandemig, yn enwedig staff y GIG, gweithwyr gofal a theuluoedd sydd wedi profi trawma oherwydd bod cleifion ar eu pennau eu hunain adeg eu marwolaeth
  • Adolygu a chyflwyno cyllid i fusnesau ar sail anghenion, gan ddod â chymorth ‘cyntaf i'r felin' Llywodraeth Cymru i ben ar gyfer busnesau yng Nghymru

Economi

Economi eicon
  • Creu siop-un-stop i fusnesau yng Nghymru drwy ddod â Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru ac ail-greu agweddau gorau Awdurdod Datblygu Cymru, at ei gilydd
  • Sefydlu Arloesi Cymru, wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, fel siop un-stop i gwmnïau gefnogi mentrau newydd, ac annog busnesau cyfredol i dyfu ac allforio
  • Cyflwyno toriad treth i fusnesau bach drwy ddileu ardrethi busnes
  • Cyflwyno pecyn ‘dychwelyd' er mwyn i drefi glan môr a threfi marchnad lefelu gyda Chronfa Trefi Twristaidd, gan alluogi cymunedau i wella eu heconomi leol drwy ddenu ymwelwyr newydd gyda WiFi am ddim neu gysylltiadau trafnidiaeth gwell
  • Sefydlu Cenhadaeth Genedlaethol i dyfu economi Cymru, gyda tharged clir i greu 65,000 o swyddi newydd. Ar ôl cyflawni hynny, byddwn yn torri cyfradd sylfaenol treth incwm i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio'n galed

Addysg

Addysg eicon
  • Rhoi'r gorau i dan-ariannu ein pobl ifanc a gwarantu bod mwy o gyllid yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth yn uniongyrchol
  • Cael gwared yn llwyr ar Fagloriaeth Cymru er mwyn caniatáu i ddisgyblion ganolbwyntio ar TGAU, Lefel Uwch a chyrsiau galwedigaethol
  • Cyflwyno gwahanol lwybrau i ragoriaeth wrth ehangu prentisiaethau, gan gynnwys prentisiaethau gradd

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Datblygu cynllun clir i alluogi GIG Cymru glirio'r rhestr aros sydd wedi gwaethygu ymhellach yn ystod y pandemig, drwy ddefnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol i gyflymu'r driniaeth
  • Sicrhau na ddylai unrhyw un aros dros flwyddyn am driniaeth yn y GIG gyda'n Gwarant i Gleifion
  • Darparu 1,200 yn fwy o feddygon, 3,000 yn fwy o nyrsys a gweithiwr iechyd proffesiynol eraill drwy ein rhaglen ‘Cadw, recriwtio a hyfforddi'
  • Trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl drwy roi'r un flaenoriaeth iddo ag iechyd corfforol

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Cefnogi busnesau i gael mynediad at gyfleoedd newydd ar ôl Brexit drwy ddefnyddio siop-un-stop i gael mynediad at fuddsoddiad
  • Gweithio gydag ysgolion a phrifysgolion i sicrhau bod y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas yn gallu cael mynediad at y Cynllun Turing newydd
  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth y DU, yn cydlynu'n agos â Gweriniaeth Iwerddon i sicrhau mewnforion ac allforion di-drafferth

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cyflwyno Deddf Aer Clir i dorri llygredd a lleihau'r achosion o glefydau anadlol
  • Gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol fel weips gwlyb plastig, gwellt yfed, troellwyr diodydd, cwpanau untro a ffyn cotwm, yn ogystal â chreu cynllun dychwelyd ernes ar ddiodydd.
  • Mynd i'r afael â newid hinsawdd drwy sicrhau bod Cymru yn bodloni ein targed allyriadau carbon sero-net erbyn 2050

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Sefydlu un pwynt mynediad i fudd-daliadau a chynllun cymorth sy'n cael ei weinyddu yng Nghymru, gan archwilio'r posibilrwydd o drosglwyddo'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn awtomatig i'r cynllun
  • Cyflwyno model ‘tai yn gyntaf' i gefnogi pobl sy'n ddigartref
  • Cefnogi ein cymunedau hŷn drwy gadw presgripsiynau am ddim, teithio am ddim ar fysiau a hyrwyddo mynediad am ddim i safleoedd CADW a chynllun peilot teithio am ddim ar drenau i bobl dros 75 oed

Tai

Tai eicon
  • Annog uchelgais drwy gael gwared ar Dreth Trafodiadau Tir (Land Transaction Tax) i'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf a chodi'r trothwy i £250,000
  • Adfer hawl diwygiedig i brynu fel y gall mwy o bobl elwa o'r sicrwydd o berchen ar eu cartrefi eu hunain
  • Adeiladu 100,000 o dai yn ystod y degawd nesaf, gan gynnwys 40,000 o dai cymdeithasol, gyda phob cartref newydd yn garbon niwtral erbyn 2026

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Adeiladu Ffordd Liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 yng Ngogledd Cymru i leihau mannau cyfyng a'r A40 i hybu'r economi yng Ngorllewin Cymru
  • Creu rhwydwaith gwefru cyflym o 20,000 o orsafoedd gwefru ceir trydan
  • Helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gyda theithio am ddim ar fysiau a theithio rhatach ar drenau i bobl 16-24 oed

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Dim cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd yn ystod y pum mlynedd nesaf heb gefnogaeth y cyhoedd
  • Dim pwerau newydd i Lywodraeth Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru symud yn ei flaen a defnyddio'r pŵer sydd ganddo yn hytrach na phwyso am fwy
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU, nid yn ei erbyn, i lefelu Cymru gyfan
Plaid Cymru party logo

Plaid Cymru

Arweinydd

Adam Price

Adam Price eicon

Polisïau allweddol

  • Buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol
  • Swydd wedi'i gwarantu, ar Gyflog Byw Gwirioneddol o leiaf, neu hyfforddiant o ansawdd uchel i bawb rhwng 16 a 24 oed
  • Cynnal refferendwm Annibyniaeth erbyn 2026

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Adeiladu'r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol gorau drwy leihau rhestrau aros, adeiladu canolfannau diagnosteg canser newydd a chodi cyflog gweithwyr gofal i £10 yr awr o leiaf
  • Creu Pecyn Ysgogi Economaidd Gwyrdd gwerth £6bn, a fydd, ynghyd â buddsoddiadau mewn gofal iechyd, addysg a'r economi leol, yn creu 60,000 o swyddi yn ystod tymor nesaf y Senedd
  • Blaenoriaethu'r broses adfer addysgol a llesiant drwy recriwtio 2,000 o athrawon ychwanegol a 2,000 o staff cymorth ychwanegol mewn ysgolion ledled Cymru

Economi

Economi eicon
  • Swydd wedi'i gwarantu, ar Gyflog Byw Gwirioneddol o leiaf, neu hyfforddiant o ansawdd uchel i bawb rhwng 16 a 24 oed
  • Benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ar ôl Covid
  • Creu Ffyniant i Gymru, asiantaeth datblygu economaidd deinamig newydd, sy'n canolbwyntio ar dyfu busnesau bach a chanolig yng Nghymru, rhoi hwb i allforion a chreu swyddi ym mhob cymuned

Addysg

Addysg eicon
  • Buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol, lleihau maint dosbarthiadau a gwerthfawrogi'r proffesiwn dysgu
  • Sefydlu addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar o'r radd flaenaf, drwy gynnig 30 awr yr wythnos, am ddim i bob plentyn o 24 mis i oed ysgol
  • Lleihau'r ffi ddysgu uchaf y gellir ei chodi ar fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru ym mhrifysgolion Cymru i £7,500

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Adeiladu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol lle mae gofal personol am ddim pryd mae ei angen
  • Darparu 6,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol i Gymru – 4,000 o nyrsys, 1,000 o feddygon a 1,000 o weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig ag iechyd
  • Sicrhau bod gwella iechyd meddwl yn nod canolog, a sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Llesiant i Bobl Ifanc ar gyfer cymorth iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc ledled Cymru

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Archwilio ffyrdd i Gymru barhau i gymryd rhan yn rhaglen Erasmus yr UE
  • Datblygu strategaeth allforio newydd i fusnesau yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ranbarthau a chenhedloedd yr UE fel Iwerddon a Gwlad y Basg, lle mae perthynas yn bodoli'n barod
  • Dechrau cynllunio am Gymru annibynnol i ymuno â Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA)

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Sefydlu cenhadaeth ar draws Cymru i gynhyrchu 100% o'n trydan a chyrraedd dim allyriadau erbyn 2035
  • Cyflwyno Deddf Natur gyda thargedau statudol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050
  • Ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd diogel o ansawdd da o fewn pum munud ar droed o bob aelwyd yng Nghymru

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Taliad atodol wythnosol o £35 y plentyn i deuluoedd sy'n byw o dan y trothwy tlodi
  • Rhoi hawl i ddysgu gydol oes ar gyfer ailhyfforddi gwerth £5,000 i bawb dros 25 oed
  • Treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru

Tai

Tai eicon
  • Lansio'r rhaglen tai cyhoeddus fwyaf uchelgeisiol ers yr 1970au, gan greu 50,000 o dai sy'n wirioneddol fforddiadwy i'w rhentu a'u prynu yn ystod y pum mlynedd nesaf
  • Dod â chysgu allan ar ein strydoedd i ben yn barhaol drwy bolisi ailgartrefu cyflym
  • Stopio troi allan heb fai, a chreu system newydd o renti teg i bobl mewn llety rhent preifat
  • Gostwng biliau ar gyfartaledd i'r rhai sy'n talu'r Dreth Gyngor, a defnyddio pwerau cynllunio a threthi i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Anelu at haneru cyfran y teithiau a wneir mewn ceir erbyn 2030,
  • Clustnodi o leiaf 50 y cant o'r holl wariant ar gludiant cyfalaf i wella gwasanaethau bysiau a threnau
  • Creu rheilffordd newydd ar arfordir y gorllewin, i gysylltu'r gogledd a'r de
  • Adeiladu CrossRail y Cymoedd, i gysylltu'r dwyrain a'r gorllewin

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Rhoi llais i bobl Cymru ar eu dyfodol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth erbyn 2026
  • Creu Comisiwn Cenedlaethol statudol i oruchwylio'r broses sy'n arwain at y refferendwm, gan gynnwys drafftio Cyfansoddiad Cymreig, a fydd yn destun proses ymgynghori eang
  • Datganoli pŵer ar unwaith dros faterion sy'n cael eu cadw'n ôl, gan gynnwys plismona a chyfiawnder troseddol, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni mawr ac Ystâd y Goron
Diwygio UK party logo

Diwygio UK

Arweinydd

Nathan Gill

Nathan Gill eicon

Polisïau allweddol

  • Sicrhau nad oes mwy o gyfnodau clo
  • Clirio achosion sydd wedi cronni yn y GIG yn sgil Covid
  • Rhoi'r hawl i rieni fynd â'u plant ar wyliau am hyd at ddeg diwrnod

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Peidio byth â chael cyfnod clo llawn yng Nghymru neu unrhyw ran o Gymru
  • Sefydlu grŵp ymgynghorol arbenigol sy'n edrych ar effaith ehangach polisïau ar y system iechyd a'r economi
  • Cadw ysgolion a chyfleusterau hamdden a ffitrwydd ar agor
  • Peidio byth â chyflwyno pasbortau brechu a chael gwared ar y canllawiau i wisgo masgiau yn y dosbarth

Economi

Economi eicon
  • Rhyddhau 1.2 miliwn o fusnesau bach a'r hunan-gyflogedig rhag talu treth gorfforaethol
  • Creu treth gwerthu ar y we a chael gwared ar ardrethi busnes yng Nghymru
  • Rhoi hwb i economi gogledd Cymru drwy gefnogi Wylfa Newydd

Addysg

Addysg eicon
  • Gwneud addysg ariannol yn bwnc gorfodol i bobl plentyn ysgol ar lefel TGAU
  • Caniatáu rhieni (plant na sydd ym mlynyddoedd TGAU) i fynd â'u plant o'r ystafell ddosbarth am hyd at 10 diwrnod
  • Diwygio dyddiadau tymhorau a chael gwared ar wyliau chwe wythnos ym mis Gorffennaf/Awst

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Buddsoddi i glirio'r rhestrau aros sydd wedi cronni o fewn y GIG yn ystod y pedair blynedd nesa
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol i sicrhau bod pawb yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw gydag iechyd meddwl a normaleiddio afiechydon meddwl gydag ymgyrchoedd hybu iechyd pwerus
  • Datblygu model meddygol sy'n canolbwyntio ar atal, adfer a chyd-gynhyrchu yn ogystal ag iachau
  • Datblygu polisi gweithlu sy'n sicrhau bod niferoedd digonol o staff sy'n uchel eu cymhelliant yn cael eu cadw a'u recriwtio

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Gweithio gyda'n partneriaid yn yr UE yn ogystal â gweddill y byd i ddatblygu cytundebau masnach sydd o fudd i'r ddwy ochr

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cefnogi a buddsoddi mewn ynni llanw er mwyn i Gymru arwain y ffordd gyda'r dechnoleg hon ar draws y byd
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i greu model rhwydwaith gwefru cerbydau trydan sy'n cyllido gwasanaethau cyhoeddus
  • Creu coedwig genedlaethol i Gymru gyda mynediad agored i bob dinesydd

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Cadw presgripsiynau am ddim
  • Gwrthwynebu Cymru yn cyflwyno cyfraddau uwch o dreth incwm na rhannau eraill o'r DU
  • Yn genedlaethol, byddai'n lleihau nifer y bobl sy'n talu treth incwm drwy gynyddu'r trothwy isaf i £20,000, o £12,500 y flwyddyn

Tai

Tai eicon
  • Cadw'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi hyd at 100% yn ychwanegol ar gartrefi gwag ac ail gartrefi, ond cyflwyno polisi i sicrhau bod yr arian sy'n cael ei godi yn mynd yn uniongyrchol i'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio
  • Cyflwyno caniatâd cynllunio i berchnogion tai sy'n dymuno ceisio newid pwrpas y cartref hwnnw i fod yn fusnes rhentu gwyliau
  • Ei gwneud hi'n haws i bobl leol adeiladu cartref yn eu pentref neu dref leol

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Adeiladu ffordd liniaru'r M4
  • Adeiladu seilwaith rheilffordd newydd yn Ne Cymru, gan gynnwys argymhelliad Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru am chwe gorsaf reilffordd newydd ac uwchraddio cledrau'r Cymoedd
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng De a Gogledd Cymru
  • Buddsoddi mewn gwella'r cysylltiadau ffyrdd yng Ngogledd Cymru

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Byddwn yn ymgyrchu'n frwd dros aros yn aelodau cadarn o'r Deyrnas Unedig
  • Gwrthwynebu unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd
  • Cynnal etholiad ar wahân ar gyfer y Prif Weinidog
  • Ceisio datganoli rhai o bwerau Llywodraeth Cymru i gynghorau
Plaid Diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol party logo

Plaid Diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol

Arweinydd

Richard Suchorzewski

Richard Suchorzewski eicon

Polisïau allweddol

  • Cael gwared ar Gynulliad/Senedd Cymru drwy refferendwm
  • Adfer un GIG
  • Cael gwared ar y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Ymateb sy'n cael ei arwain ar lefel y DU yn hytrach nag ymateb tameidiog ar draws y pedair cenedl

Economi

Economi eicon
  • Dylai pwerau dros ddatblygu economaidd gael eu datganoli o Fae Caerdydd i ardaloedd lleol ar draws Cymru mewn Partneriaethau Menter Lleol
  • Yna dylai cynghorau weithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr, sy'n adnabod eu hardaloedd, mewn Partneriaethau Menter Lleol
  • Gallai treth gyngor is helpu ardaloedd tlawd yn fwy na grantiau'r trydydd sector

Addysg

Addysg eicon
  • Cadw cwricwlwm y DU
  • Adfer cysondeb arholiadau a graddio yn unol â Lloegr
  • Datganoli a ddylai'r Gymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion sydd ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg i gynghorau
  • Cefnogi academïau ac ysgolion rhydd
  • Cael gwared ar y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Adfer un Gwasanaeth Iechyd Gwladol y DU sy'n unedig i bawb
  • Rhoi meddygon ar yr un raddfa dâl â chydweithwyr yn Lloegr
  • Cadw presgripsiynau am ddim ar gyfer y rhai sy'n llai cefnog, plant, menywod beichiog a'r rheini sydd wedi ymddeol, ond defnyddio'r arian sy'n cael ei dalu gan eraill am bresgripsiynau i fynd i'r afael â'r rhestrau aros enfawr yn y GIG yn dilyn argyfwng COVID

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Cefnogi Brexit ar y sail a bennir gan lywodraeth y DU yn dilyn y bleidlais gan Gymru ac anelu at adael yr UE

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cael gwared ar Gyfoeth Naturiol Cymru
  • Cefnogi'r broses o symud i dechnolegau newydd mewn amaethyddiaeth a allai leihau effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd
  • Blaenoriaethu cymorth i ffermio mynydd traddodiadol yng Nghymru

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Gwrthwynebu datganoli gweinyddu budd-daliadau er mwyn osgoi peryglu tua 15% o drosglwyddiad cyllidol GDP o weddill y DU i Gymru

Tai

Tai eicon
  • Dod â datganoli Treth Trafodiadau Tir (Land Transaction Tax) i ben, a'i ddisodli gyda Threth Dir Treth Stamp y DU
  • Adfer hawl i brynu

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Gwerthu Maes Awyr Caerdydd
  • Adeiladu Ffordd Liniaru'r M4 fel y cefnogwyd gan Ymchwiliad Cyhoeddus a gweithio gyda chyngor dinas Casnewydd gyda chefnogaeth llywodraeth y DU
  • System reilffordd fwy integredig dan arweiniad y DU

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cynnal refferendwm ar gael gwared ar Senedd Cymru
  • Rhoi pwerau trethu nôl i San Steffan yn unol â'r datganiad ar bapur pleidleisio refferendwm 2011, sef "Ni all y Cynulliad wneud cyfreithiau ar...drethu beth bynnag bo canlyniad y bleidlais hon."
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru party logo

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Arweinydd

Jane Dodds

Jane Dodds eicon

Polisïau allweddol

  • £500m i helpu ein stryd fawr, canol trefi a dinasoedd, a chymorth i fusnesau bach ffynnu ac addasu
  • Buddsoddiad o £1bn y flwyddyn i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, creu swyddi gwyrdd newydd a thorri biliau ynni yn y cartrefi
  • Creu gwasanaeth iechyd meddwl mewn argyfwng 24/7 i sicrhau y gall pobl dderbyn gofal pan fydd ei angen arnyn nhw

Covid-19

Covid-19 eicon
  • £500m i helpu ein stryd fawr, canol trefi a dinasoedd, a chymorth i fusnesau bach ffynnu ac addasu
  • Rhewi ardrethi busnes am y 5 mlynedd nesaf a chreu cronfa gymorth fuddsoddi i alluogi busnesau i fuddsoddi
  • Gweithio tuag at ail-ymuno â'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, fel rhan o'r broses o ail-drafod gyda'r UE yn 2025, neu'n gynharach pe bai'r cyfle'n codi

Economi

Economi eicon
  • Mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau drwy ddarparu prydau ysgol am ddim drwy gydol gwyliau'r ysgol am y 5 mlynedd nesaf a buddsoddi mewn rhaglenni Bwyd a Hwyl yn ystod gwyliau'r haf
  • Ehangu prentisiaethau gradd, gan gynnwys ar lefel ôl-raddedig, amrywio'r pynciau sydd ar gael, a chreu mwy o lwybrau i gyflogaeth
  • Cyfrifon Dysgu Personol i wireddu hawl i ddysgu gydol oes, gan ganiatáu i bobl uwchsgilio ac ail-hyfforddi

Addysg

Addysg eicon
  • Gweithredu'r Cwricwlwm newydd i Gymru a sicrhau bod ganddo'r adnoddau angenrheidiol er mwyn iddo fod yn llwyddiannus
  • Gwella cyfleoedd i ddysgwyr difreintiedig i ddysgu yn ystod gwyliau ysgol a sicrhau eu bod yn cael pryd da o fwyd
  • Dod â gwahaniaethu digidol i ben ar bob lefel o addysg, drwy fuddsoddi mewn dyfeisiau a sgiliau digidol

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Creu gwasanaeth iechyd meddwl mewn argyfwng 24/7 i sicrhau y gall pobl dderbyn gofal pan fydd ei angen arnyn nhw
  • Cefnogi ein gofalwyr drwy dalu cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol
  • Rhoi cynlluniau dal i fyny ar waith sydd wedi'u hariannu'n iawn ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal fel bod gan weithwyr iechyd a chleifion sicrwydd ynglŷn â'u gofal, er enghraifft, gwasanaethau canser a strôc

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Pwyso am fasnach ddi-dariff fel rhan o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau
  • Hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd am gydweithio rhyngwladol mewn ymchwil ac addysg
  • Sicrhau nad yw Cymru yn colli ceiniog o fuddsoddiad drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Buddsoddiad o £1bn y flwyddyn i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, creu swyddi gwyrdd newydd a thorri biliau ynni yn y cartrefi
  • Pasio Deddf Cartrefi Gwyrdd i greu safon gwyrdd newydd i gartrefi yng Nghymru a thorri biliau cartrefi hyd at £500 y flwyddyn ar gyfartaledd
  • Mynd i'r afael â llygredd a glanhau'r aer rydyn ni'n ei anadlu gyda Deddf Aer Clir yn y 100 diwrnod cyntaf

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Cymryd camau ystyriol tuag at ddod yn genedl Cyflog Byw ac Oriau Byw
  • Cyflwyno mynediad cyffredinol at ofal plant rhad ac am ddim i bawb o 9 mis oed, gan gynnwys gofal cyn ac ar ôl oriau ysgol i blant mewn ysgolion
  • Treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru i ddarparu isafswm safon byw i bawb

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu yn ystod y 5 mlynedd nesaf i sicrhau bod gan bawb fynediad at le diogel i'w alw'n gartref
  • Cyflwyno cynllun i ddod â digartrefedd i ben, a buddsoddi mewn gwasanaethau i helpu i atal pobl rhag cael eu gwthio i fod yn ddigartref a helpu i gynnal cartref
  • Parhau i fuddsoddi yn y cynllun Rhentu i Brynu sydd wedi helpu pobl i berchen ar eu cartref eu hunain am y tro cyntaf

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Cyflwyno trafnidiaeth am ddim ar fysys i bob person ifanc o dan 25 oed erbyn 2025
  • Buddsoddi mewn llwybrau diogel i gerdded a seiclo, drwy glustnodi 10% o'r gyllideb drafnidiaeth yn y maes hwn, i leihau llygredd ac annog arferion iachach
  • Sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio i bawb. Bydd ein Bil Bysiau yn sicrhau bod llwybrau bysiau yn bodloni anghenion y gymuned, bod tocynnau yn fforddiadwy a hyblyg, bod amserlenni yn bodloni anghenion gwahanol, a bod safleoedd bysiau a gorsafoedd trên yn hygyrch

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud agosaf at y bobl maen nhw'n effeithio arnyn nhw o fewn DU Ffederal sy'n seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr
  • Datganoli cyfiawnder a phlismona, tra'n cael gwared ar y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru. Symud tuag at awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, er mwyn caniatáu i Gymru symud tuag at system mwy cyfiawn ac atebol sy'n blaenoriaethu adsefydlu effeithiol
  • Cyflwyno system bleidleisio decach ar gyfer y Senedd a phob cyngor, drwy sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif
UKIP Cymru party logo

UKIP Cymru

Arweinydd

Neil Hamilton

Neil Hamilton eicon

Polisïau allweddol

  • Dod â mesurau'r cyfnod clo i ben ar unwaith
  • Refferendwm ar gael gwared ar y Senedd a Llywodraeth Cymru
  • Cael gwared ar bolisi ‘Cenedl Noddfa' Llywodraeth Cymru ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Dod â chyfnodau clo llym i ben ar unwaith, gan alluogi pob busnes i ail-agor, a dychwelyd at ryddid yr unigolyn a dychwelyd i deithio
  • Rhoi'r gorau ar unwaith i'r cynigion a'r adolygiadau am ‘Basbort Brechu', sy'n ceisio gwneud brechu yn orfodol tra'n bygwth i wthio pobl i gyrion cymdeithas
  • Adfer rhyddid sifil ar unwaith, fel rhyddid i deithio, rhyddid i ymgysylltu a rhyddid i fynychu digwyddiadau sydd wedi'u tynnu oddi wrthom yn ystod y pandemig

Economi

Economi eicon
  • Gostwng prisiau alcohol i adfywio'r sector lletygarwch yng Nghymru drwy dorri TAW ar alcohol mewn llefydd trwyddedig
  • Sbarduno'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru drwy ddarparu cronfa adfer ac adnewyddu gwerth £100m ar gyfer atyniadau twristaidd a gwestai/tai llety yng Nghymru
  • Denu mentrau a buddsoddiadau i Gymru drwy gefnogi porthladdoedd rhydd yng Nghymru a pharthau di-dreth eraill ar hyd gwaith adeiladu ffyrdd newydd ac mewn ardaloedd arfordirol

Addysg

Addysg eicon
  • Cael gwared ar Fagloriaeth Cymru a gwneud dysgu Cymraeg yn ddewisol drwy'r cwricwlwm cyfan
  • Datgymalu'r pedwar consortia gwella ysgolion yng Nghymru ac ail-gyfeirio eu cyllideb £150m blynyddol yn uniongyrchol i ysgolion
  • Cael gwared ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy'n astudio graddau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg yn y brifysgol ar yr amod eu bod, ar ôl graddio, yn aros yn y DU ac yn gweithio yn y meysydd hynny yn ystod rhan o'u cyfnod o ad-dalu'r benthyciad i fyfyrwyr
  • Rhoi pŵer yn ôl yn nwylo rhieni drwy adfer a pharchu'r hawl i dynnu eu plentyn o wersi addysg rhyw a chydberthynas ac atal gwersi o'r fath yn gyfan gwbl mewn ysgolion cynradd

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Cyflwyno byrddau iechyd sydd wedi'u hethol yn lleol, gan roi cleifion a theuluoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn y GIG
  • Cynyddu'n sylweddol nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon, nyrsys a pharafeddygon Prydeinig a sicrhau bod y nifer gofynnol o nyrsys a meddygon yn cael eu hyfforddi yng Nghymru a'r DU yn hytrach na'u mewnforio o dramor
  • Aduno teuluoedd gydag anwyliaid mewn cartrefi gofal ar unwaith
  • Sicrhau na fydd y rheini sydd wedi talu treth ac yswiriant gwladol digonol yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu cynilion a'u cartref i dalu am ofal cymdeithasol

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Adeiladu ar botensial di-gyffwrdd y diwydiant pysgota yng Nghymru drwy ymgyrchu i gymryd rheolaeth lwyr o'n dyfroedd
  • Allgludo ceiswyr lloches ffug nad ydynt yn gallu cael eu hallgludo ar hyn o bryd oherwydd y bylchau yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
  • Gwarchod agosatrwydd ac uniondeb y Deyrnas Unedig drwy roi'r gorau i'r ffin ym Môr Iwerddon a Phrotocol niweidiol Gogledd Iwerddon

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Lobio Llywodraeth y DU i gael gwared ar y Ddeddf Newid Hinsawdd (2008)
  • Cael gwared ar yr holl gymorthdaliadau ar gyfer y prosiectau ynni "gwyrdd" fel y'u gelwir sy'n trosglwyddo arian oddi wrth trethdalwyr, gan gynnwys y tlotaf mewn cymdeithas, i'r mentrwyr amgylcheddol hynny sydd eisoes yn gyfoethog
  • Gwrthwynebu pob fferm wynt a solar gan eu bod yn anharddu tirlun Cymru yn ogystal â bod yn gostus ac annibynadwy
  • Hyrwyddo'r twf mewn safonau ffermio, pysgota, diogelwch bwyd a lles anifeiliaid ym Mhrydain
  • Bwrw ymlaen gyda gwaharddiad ôl-Brexit ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Ceisio lleihau'r defnydd o gontractau dim oriau ac eithrio pan fyddant o fudd i'r gweithiwr a'r cyflogwr fel ei gilydd, a sicrhau bod pawb yn gallu ennill cyflog byw
  • Gwrthwynebu datganoli unrhyw fudd-daliadau pellach i Senedd Cymru
  • Presgripsiynau am ddim, Treth Gyngor a budd-daliadau cymorth dewisol (Nawdd Cymdeithasol) yn parhau o dan UKIP
  • Dod â'r gwahaniaethu o ran swyddi i ben a sicrhau bod ymgeiswyr yn cael swyddi ar sail teilyngdod, yn hytrach na'u gallu i siarad Cymraeg

Tai

Tai eicon
  • Dod â'r galw am dai o ran reolaeth drwy weithredu rheolaethau mewnfudo cadarn a theg
  • Rhoi mwy o lais i bobl leol ar benderfyniadau cynllunio mawr yn eu cymunedau drwy refferenda lleol sy'n gyfreithiol rwymol
  • Lle bo'n bosib, cymell datblygiadau lleol gan gwmnïau Prydeinig er mwyn defnyddio safleoedd tir llwyd a chartrefi diffaith unwaith eto, fel y gellir eu cynnig fel tai fforddiadwy i bobl leol

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Cefnogi adeiladu ffordd liniaru'r M4
  • Gwerthu maes awyr Caerdydd ar unwaith i liniaru unrhyw golled bellach i drethdalwyr yng Nghymru, fel y gall perchennog newydd ei weithredu ar sail fasnachol go iawn
  • Ail-agor gorsafoedd trenau a llinellau rheilffyrdd i wella cysylltiadau ar draws Cymru, lle bo'n briodol, drwy adolygu Toriadau Beeching

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cynnal refferendwm hir ddisgwyliedig ar gael gwared ar y Senedd a Llywodraeth Cymru ar y cyfle cynharaf
  • Ymgyrchu i gael gwared ar y Senedd ac yn gwrthwynebu unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd
  • Diddymu hawl Llafur Cymru a Phlaid Cymru i roi'r bleidlais i dramorwyr
  • Sicrhau bod yr oedran pleidleisio yng Nghymru a'r DU yn 18 oed
Propel party logo

Propel

Arweinydd

Neil McEvoy

Neil McEvoy eicon

Polisïau allweddol

  • Dod â'r holl gyfnodau clo i ben yn ffurfiol, ymrwymo i beidio â dychwelyd atynt, a diddymu'r holl bwerau plismona 'llym'
  • Sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru i gloddio cronfeydd nwy mewn hen byllau glo er mwyn disodli'r defnydd o nwy a fewnforiwyd
  • Deddf Democratiaeth Fodern i greu cyfansoddiad Cymreig a bil hawliau - gan roi'r hawl i'r cyhoedd alw refferenda cenedlaethol a lleol

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Sefydlu ymchwiliad annibynnol a thryloyw i ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig coronafeirws
  • Cyflwyno Deddf Adfer Coronafeirws i ddod â'r holl gyfnodau clo i ben yng Nghymru, diddymu'r holl bwerau plismona "llym", mynd i'r afael â'r coronafeirws drwy fesurau ymbellhau cymdeithasol a gwarchod y rheini sy'n agored i niwed,
    ail-ystyried campfeydd fel gwasanaethau allweddol a'u cadw ar agor, fel ysgolion, a pholisi o dryloywder llawn gyda'r holl ddata a'r penderfyniadau a gymerir
  • Ail-drafod y cynllun ffyrlo i dalu pobl sydd wedi'u heffeithio gan gyfyngiadau COVID i weithio'n ddiogel, tra'n parhau i gefnogi'r broses o warchod y rheini sy'n agored i niwed

Economi

Economi eicon
  • Sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru er mwyn rhestru cwmnïau o Gymru sydd eisiau masnachu cyfranddaliadau'r cwmni yn gyhoeddus
  • Creu Cronfa Gyfoeth Sofren i Gymru i ddatblygu portffolio hirdymor, cynaliadwy o fuddsoddiadau, o dan Egwyddorion Santiago
  • Creu wyth banc cymunedol cydweithredol, gyda'r prif bwyslais ar fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig lleol sy'n bodoli'n barod a rhai newydd.
  • Ail-ddiwydiannu Cymru ar gyfer yr 21ain ganrif drwy roi pwyslais ar ddatblygu gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg, cynaliadwy i'w allforio
  • Datblygu strategaeth gaffael gyhoeddus newydd i symud tuag at 100% o wariant cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu i gwmnïau o Gymru

Addysg

Addysg eicon
  • Bydd ysgolion yn aros yn agored a ddim yn cau mewn cyfnod clo
  • Pasio Deddf Addysg Gymraeg newydd i ddod â'r holl elfennau deddfwriaethol presennol at ei gilydd i roi eglurder cyfreithiol diamwys yn y dyfodol

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Gweithredu Cyfraith Robbie i wneud dyletswydd gonestrwydd (duty of candour) yn gyfreithiol rwymol ar ymarferwyr meddygol ac ar draws y sector cyhoeddus, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw fod yn onest os bydd camgymeriadau neu esgeulustod
  • Sefydlu Archwilwyr Gwasanaethau Cyhoeddus annibynnol, anwleidyddol sydd wedi'u hethol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
  • Lansio archwiliad annibynnol o wastraff, twyll neu lygredd yn Llywodraeth Cymru. Bydd yr arbedion yn cael eu hail-gyfeirio i'r GIG

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Parchu canlyniad refferendwm yr UE, lle pleidleisiodd y mwyafrif o bobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru gyda'r rhan fwyaf ohono yn eiddo i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, i gloddio cronfeydd nwy Cymru er mwyn disodli'r defnydd o nwy a fewnforiwyd
  • Defnyddio cyflenwad ynni rhatach i gefnogi cyflogaeth lleol yn ein diwydiannau strategol allweddol, gan gynnwys dur a gweithgynhyrchu
  • Creu Cronfa Gyfoeth Sofren gyda'r refeniw a grëwyd i gyflawni annibyniaeth ynni hirdymor drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy
  • Defnyddio prifysgolion yng Nghymru i ddod yn arweinydd byd mewn technoleg dal a storio carbon
  • Gwrthwynebu adeiladu unrhyw adweithyddion niwclear ac yn rhoi feto ar unrhyw ymgais i ddeunydd niwclear a gynhyrchir y tu allan i Gymru gael ei storio neu ei ollwng yn y wlad

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Strategaeth gaffael gyhoeddus newydd yn cael ei mabwysiadu i symud tuag at 100% o wariant cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu i gwmnïau o Gymru

Tai

Tai eicon
  • Polisi ‘tai yn gyntaf' i ddod â digartrefedd i ben a chau'r bwlch ail gartrefi, lle mae ail gartrefi yn cael eu hystyried fel busnesau i osgoi trethiant lleol
  • Cyflwyno cap ar dâl gwasanaeth blynyddol i lesddeiliaid, wedi'i gysylltu â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr
  • Peidio â dyfarnu contractau adeiladu i ddatblygwyr cyfredol nes eu bod wedi unioni'r cladin tân peryglus mewn datblygiadau yn y gorffennol
  • Cyflwyno cynllun Hawl i Brynu newydd i denantiaid tai cymdeithasol, gyda'r holl refeniw yn cael ei gyfeirio at adeiladu mwy o dai cymdeithasol o safon
  • Gosod targedau gorfodol ar awdurdodau lleol i ail-ddefnyddio adeiladau sy'n wag yn yr hirdymor
  • Gwahardd ail enwi adeiladau sydd ag enwau Cymraeg i warchod diwylliant Cymru
  • Gwarantu y bydd pob cyn-filwr sydd wedi bod ar wasanaeth gweithredol yn cael eu blaenoriaethu am dai cyhoeddus a gofal iechyd

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Uwchraddio rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru i safon gwibffordd (expressway), gan gynnwys Gwibffordd Genedlaethol o'r Gogledd i'r De
  • Ail-osod llinellau rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin ac Afon Wen i Fangor
  • Un system docynnau ar gyfer teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Creu cyfansoddiad Cymreig a deddf hawliau. Bydd y cyfansoddiad yn deddfu egwyddor ‘democratiaeth uniongyrchol fodern', sy'n golygu y bydd gan y cyhoedd hawl i gynnal refferenda cenedlaethol a lleol drwy gasglu llofnodion
  • Bydd system gyfrannol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau yn cael ei mabwysiadu ar gyfer etholiadau cenedlaethol a lleol
  • Bydd dau ar hugain o awdurdodau lleol Cymru yn cael eu disodli gan wyth sir, sy'n bennaf seiliedig ar hen ffiniau siroedd Cymru. Bydd gan bob sir ei phrifddinas, llywodraethwr sydd wedi'i ethol yn uniongyrchol a banc cydweithredol cymunedol. Bydd pob sir yn cael ei hystyried yn sofren, ac eithrio pan fydd pŵer deddfu wedi'i gadw i Senedd Cymru
  • Dylai Llywydd y Senedd sefyll fel aelod annibynnol i atal rhagfarn neu duedd wleidyddol
  • Bydd Prif Weinidog Cymru yn cael ei ethol yn uniongyrchol
  • Comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ynglŷn â chreu tŷ uchaf ar gyfer Senedd Cymru yng Ngogledd Cymru
  • Cefnogi newyddiaduraeth y dinesydd i gynnig darlun mwy amrywiol a manwl o wleidyddiaeth a materion cyfoes
Plaid Gomiwnyddol Prydain party logo

Plaid Gomiwnyddol Prydain

Arweinydd

Robert Griffiths

Robert Griffiths eicon

Polisïau allweddol

  • Hunan-lywodraeth i Gymru o fewn Prydain ffederal
  • Dod â'r rheilffyrdd a'r gwasanaethau bysiau i berchnogaeth y cyhoedd
  • Adeiladu 10,000 o dai cyngor y flwyddyn

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Cymeradwyo gwaith staff y GIG yn ystod y pandemig
  • Dod â chwmnïau fferyllol i berchnogaeth y cyhoedd
  • Buddsoddi mewn band eang tra chyflym i annog mwy o weithio gartref

Economi

Economi eicon
  • Gosod cwmnïau sy'n methu dan ‘berchnogaeth ddemocrataidd y cyhoedd'
  • Creu Awdurdod Datblygiad Economaidd Cymreig sydd â'r pŵer i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn cyfalaf preifa
  • Sefydlu treth incwm lleol yn lle'r dreth gyngor

Addysg

Addysg eicon
  • Diddymu addysg breifat
  • Creu system asesu amgen i ddisodli'r ‘ffatri arholi'
  • Ysgolion a meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg ar gael ym mhob cwr o Gymru

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Creu ‘partneriaethau iechyd sylfaenol' o feddygon teulu, cynghorau, trigolion, cymdeithasau tai, ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol i asesu anghenion iechyd hirdymor cymunedau
  • Gwasanaeth Gofal Gwladol gyda gwasanaethau preswyl a nyrsio am ddim pan fydd eu hangen
  • Cytundeb cyflogaeth safonol i weithwyr gofal

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Pleidleisiodd Cymru i adael UE y "busnesau mawr cyfalafol" ac mae Brexit yn golygu "cyfleoedd newydd" i Gymru

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Mwy o fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni llanw a ffermydd gwynt ar y môr
  • Cefnogi glo glân drwy ddal carbon o fwyngloddio dwfn
  • Gwrthwynebu pŵer niwclear "nes y gellir arddangos bod ymasiad niwclear diogel ar gael"

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Gwahardd arferion godro asedion, diswyddo torfol a chynlluniau "diswyddo ac ail-gyflogi"
  • Ymestyn absenoldeb mamolaeth a thadolaeth
  • Gofal plant di-dâl o adeg yr enedigaeth i rieni sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu 10,000 o dai cyngor y flwyddyn
  • Treth uwch ar dir gwag
  • Tai cymdeithasol i ddychwelyd o dan reolaeth uniongyrchol yr awdurdodau lleol

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Dod â'r rheilffyrdd a'r gwasanaethau bysiau i berchnogaeth y cyhoedd
  • Gosod cap ar gostau teithio i bobl ifanc

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Hunan-lywodraeth i Gymru o fewn Prydain ffederal
  • Treth ar gyfoeth i ail-ddosbarthu cyfoeth ar draws gwledydd a rhanbarthau Prydain
Gwlad party logo

Gwlad

Arweinydd

Gwyn Wigley Evans

Gwyn Wigley Evans eicon

Polisïau allweddol

  • Cymru i fod yn annibynnol yn y tymor hir, gyda'i arian ei hun
  • Codi tâl am dagfeydd oriau brig ar hyd yr M4 i'r dwyrain o Gasnewydd
  • Ehangu addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg i'r pwynt lle mae'n dod "yn normal ym mhob rhan o Gymru"

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Rhoi opsiynau i bobl ifanc mewn sefyllfaoedd ‘gweithio o gartref' lle gallent ddod o hyd i weithleoedd addas ynghyd â chymorth a mentora priodol
  • Cyflymu ceisiadau cynllunio ar gyfer newid defnydd sy'n golygu trosi eiddo masnachol i ddefnydd preswyl

Economi

Economi eicon
  • Dylai pob cytundeb sy'n cael ei dalu gan arian y cyhoedd gynnwys darpariaeth ar gyfer cynnwys lleol cynaliadwy i sicrhau bod arian a werir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cael ei wario yng Nghymru lle bynnag y bo modd
  • Blaenoriaethu anghenion busnesau y mae eu prif swyddfeydd wedi'u lleoli yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth priodol gan gynghorau, darparwyr seilwaith, sefydliadau addysgol a chyrff ariannu

Addysg

Addysg eicon
  • Ehangu addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg i'r pwynt lle mae'n dod "yn normal ym mhob rhan o Gymru"
  • Cwricwlwm Dyniaethau mewn ysgolion i flaenoriaethu dysgu am hanes, traddodiadau, diwylliant a gwerthoedd Cymru
  • Dim ond ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau yng Nghymru y dylid rhoi cyllid myfyrwyr, ac eithrio ar gyfer pynciau sydd ddim yn cael eu cynnig yng Nghymru

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Cyfuno clinigau meddygon teulu llai yn ‘polyclinics', yn ogystal â darparu gwasanaethau i gleifion allanol
  • Lleihau ffioedd i fyfyrwyr sy'n astudio meddygaeth yng Nghymru ac yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am gyfnod penodol ar ôl graddio

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Cadw'r opsiwn o refferendwm ‘ail-ymuno' ar agor os yw amgylchiadau yn newid
  • Ceisio efelychu Seland Newydd wrth ehangu masnach fyd-eang
  • Statws porthladd rhydd i Gaergybi, Abergwaun a Phenfro

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cefnogi buddsoddi mewn technolegau amgen fel technoleg hydrogen fel ffordd o storio, cludo a defnyddio ynni a gynhyrchir gan ddulliau adnewyddadwy
  • Ddim yn wrth-niwclear mewn egwyddor, ond gwrthwynebu prosiectau mawr fel Wylfa B
  • Cymryd yr holl asedau dwr yng Nghymru i berchnogaeth gyhoeddus a'u gosod o dan reolaeth cwmni ‘nid-er-elw' Dŵr Cymru sy'n bodoli eisoes

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Awdurdod Cyllid Cymru i gymryd cyfrifoldeb am roi cyfrif cywir am yr holl refeniw trethiant a gynhyrchir yng Nghymru
  • Ar ôl annibyniaeth – disodli'r system fudd-daliadau a threthiant bresennol gydag Incwm Dinasyddion a Threth Fflat

Tai

Tai eicon
  • Gorfod cael trwydded i brynu ail gartref, gyda gordal (surchage) treth gyngor o 500%
  • Os yw landlord yn dymuno gwerthu eiddo, yna dylai tenantiaid gael y cynnig cyntaf i wrthod
  • Asiantaeth Dai Genedlaethol newydd i Gymru

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • ‘Ffordd Prifwythiennol Powys' ar hyd coridorau'r A470 a'r A483 i ddarparu ffordd 2/3
  • Codi tâl am dagfeydd oriau brig ar hyd yr M4 i'r dwyrain o Gasnewydd
  • Adfer rheilffordd Caerfyrddin- Aberystwyth ac ymestyn rheilffordd Arfordir Cambria tua'r gogledd

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cymru i fod yn annibynnol yn y tymor hir, gyda'i arian ei hun
  • Refferendwm ar gynnal y frenhiniaeth
  • Defnyddio'r system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) mewn etholiadau
Plaid Werdd Cymru party logo

Plaid Werdd Cymru

Arweinydd

Anthony Slaughter

Anthony Slaughter eicon

Polisïau allweddol

  • Cronfa Trawsnewid Gwyrdd i godi a chyfeirio arian yn lleol i gymunedau er mwyn creu 10,000 o swyddi yn yr economi werdd ac adeiladu cartrefi
  • Diogelu dyfodol y GIG drwy ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd, a buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd lleol llawer gwell
  • Datrys yr argyfwng hinsawdd, bod yn ddi-garbon erbyn 2030 a gweithio i adfer natur

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Sicrhau bod adferiad Cymru o'r pandemig yn deg ac yn wyrdd
  • Sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig
  • Darparu dulliau amddiffyn pellach o ran trosglwyddiad mewn ysgolion drwy gyflwyno dulliau amddiffyn effeithiol i'w gwneud yn fwy diogel

Economi

Economi eicon
  • Sicrhau Cymru gynaliadwy gyda Bargen Werdd Newydd , gan greu degau o filoedd o swyddi newydd
  • Sicrhau rhenti ac ardollau isel i fusnesau bach sy'n bodoli'n barod, mentrau creadigol a chwmnïau cymdeithasol ac amgylcheddol newydd i lenwi'r siopau gwag a dod â bywyd yn ôl i'r stryd fawr
  • Galw am gyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol ar unwaith, sy'n rhannu ffyniant ar draws cymdeithas

Addysg

Addysg eicon
  • Rhoi'r gorau i gau ysgolion bach gwledig yn barhaus
  • Rhoi mynediad i ddyfeisiau electronig i bob plentyn sydd angen dysgu gartref, a mynediad i raglenni gwaith sydd wedi'u strwythuro os nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r ysgol
  • Ehangu mynediad at addysg uwch ac addysg bellach, gan sicrhau nad oes unrhyw ffioedd yn cael eu talu am raddau cychwynnol

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Diogelu'r GIG fel corff sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus, adeg ei ddarparu
  • Sicrhau bod gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol y cyllid angenrheidiol i gynyddu capasiti ar draws holl feysydd y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol
  • Sicrhau mynediad cymdogol i bob triniaeth fel y gallant gael eu cynnig yn lleol
  • Darparu cymorth nawdd cymdeithasol i bobl anabl, pobl hŷn a'u gofalwyr yn gynnar ac yn gyflym, gan alluogi pawb i fyw bywydau cyflawn

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Gweithio i gryfhau ein cysylltiadau â'n cymdogion a'n cynghreiriaid Ewropeaidd ar bob lefel, gan hyrwyddo cyfleoedd positif yn y dyfodol a mynd i'r afael â'r niwed a wnaed i Gymru ar ôl Brexit
  • Pwyso ar Lywodraeth y DU i chwilio am ffyrdd o ail-ymuno ag undeb tollau'r UE ar fyrder
  • Cefnogi ymdrechion i ail-ymuno â rhaglen Erasmus+ a gweithio gyda phob plaid i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd addysgol a chelfyddydol sydd ar gael i'n pobl ifanc ar draws Ewrop

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy sicrhau bod targedau lleihau allyriadau carbon yn cael eu gwireddu ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei angen, fel sy'n ofynnol gan wyddoniaeth
  • Cyflwyno gweledigaeth Werdd ar gyfer sero-net erbyn 2030, gan ddisodli tanwyddau ffosil gydag ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr a gwneud gwaith uwchraddio angenrheidiol i'r grid trydan
  • Penodi Comisiynydd newydd o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer Bioamrywiaeth a Diogelu Anifeiliaid i ddadwneud y gostyngiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru.
  • Cynnig bil i wahardd plastig untro a deddfwriaeth i leihau'n raddol yr holl wastraff pecynnu na ellir ei ailgylchu, gyda'r nod o gael gostyngiad cyffredinol ar ddeunydd pacio

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Cefnogi wythnos 4 diwrnod i rannu cyfleoedd gwaith ac ymateb i awtomeiddio a digideiddio cynyddol gweithgynhyrchu a gwasanaethau
  • Cynnwys undebau wrth gynllunio'r economi leol a rhoi cefnogaeth i weithwyr i gychwyn busnesau cymdeithasol ac amgylcheddol
  • Gwella cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr rheng flaen, yn rhannol drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol, ond hefyd drwy setliadau cyflog gwell i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gofal, hawliau gweithwyr mewn cyd-fargeinio, hawliau cyflogaeth ac iechyd a diogelwch
  • Dod â'r economi ‘gig' yng Nghymru i ben a chontractau dim oriau ecsbloetiol drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol ac ymestyn hawliau gweithwyr

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu 12,000 o dai newydd bob blwyddyn, wedi'u hadeiladu i'r safonau amgylcheddol uchaf sy'n effeithlon o ran ynni
  • Sicrhau buddsoddiad digonol, parhaus i alluogi ôl-osod stoc tai cyfredol i'r safonau ynni effeithlon uchaf, gan godi miloedd o bobl rhag tlodi tanwydd
  • Rhoi mwy o ddiogelwch i denantiaid drwy gael gwared yn raddol ar Denantiaethau Byrddaliadol Sicr (Assured Shorthold Tenancies) yn y sector preifat a rhoi sicrwydd deiliadaeth i'r rhai sy'n cael trafferth gydag ôl-ddyledion morgais drwy gynllun ‘Hawl i Rentu'

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Creu opsiynau trafnidiaeth gwell, glanach, mwy cynaliadwy i bawb, gan gynnwys mynediad at well opsiynau cerdded, beicio/teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy
  • Cyflwyno strategaeth drafnidiaeth genedlaethol sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy leihau traffig ac allyriadau carbon, tra'n gwella iechyd a llesiant ac ansawdd aer
  • Byddwn yn cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar siwrneiau lleol i'r rhai o dan 21 oed i feithrin y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Gwrthwynebu unrhyw ymdrechion i ailagor y cynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, a gafodd ei ganslo

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cefnogi'r dyhead am Gymru annibynnol sy'n gwbl ddemocrataidd, gan ddod â'r broses o wneud penderfyniadau i'r bobl yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan y penderfyniadau hynny
  • Ymgyrchu i Gymru ymwahanu o'r Deyrnas Unedig mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol
  • Cryfhau democratiaeth leol drwy gynyddu'r broses o ymgysylltu â dinasyddion drwy reithgorau dinasyddion, cynulliad y bobl a chyrff tebyg