Chwilio am hanesydd i orsaf badau achub RNLI

  • Cyhoeddwyd
criw RNLI PenarthFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Mae gorsaf bad achub fodern wedi bod ym Mhenarth ers 1980 wedi i'r un gwreiddiol gau yn 1905

Gorsaf bad achub yn y de fydd y gyntaf yn y DU i gael ei hanesydd gwirfoddol lleol eu hunain.

Bydd yr hanesydd yn casglu hanes yr orsaf ym Mhenarth, Bro Morgannwg, a gafodd ei ailagor yn 1980, 75 mlynedd wedi i'r un blaenorol gau.

Dywedodd yr RNLI bod hanes yr orsaf yn y 19eg ganrif eisoes wedi ei gofnodi'n dda, ond nad oedd yr un sylw wedi ei roi i'r 40 mlynedd diwethaf.

Cafodd yr orsaf bad achub gyntaf ym Mhenarth ei chodi gan yr RNLI yn 1861 ar gost o £118, cyn symud i ran arall o'r dre yn 1884.

Ond cafodd ei chau yn 1905, ac ni chafodd ei hailagor tan 1980 pan ddaeth poblogrwydd cynyddol Penarth fel cyrchfan i dwristiaid â'r angen i gael gorsaf yn y dre unwaith eto.

Cafodd yr adeilad presennol ei godi yn 1995.

Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn gan wirfoddolwyr am y rôl tan 31 Mai, a bydd yn golygu casglu gwybodaeth ac ystadegau am y badau unigol ynghyd â chasglu hanes llafar gan griwiau'r gorffennol, eu teuluoedd a gwirfoddolwyr fu'n gweithio yn yr orsaf yn y 40 mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Steve Daniels | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr hanesydd yn cofnodi hanes fodern gorsaf bad achub yr RNLI ym Mhenarth

Dywedodd cadeirydd gorsaf Penarth, Laurie Pavelin: "Mae gorsaf bad achub Penarth wedi bod yn rhan ganolog o'r gymuned ers 1980, ac yn yr amser yna mae wedi chwarae rhan ym mywydau llawer o bobl.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen at groesawu hanesydd gwirfoddol newydd a fydd yn sicrhau bod y straeon yna'n cael eu rhoi ar gof a chadw i'r gymuned."

Hayley Whiting yw rheolwr archif ac ymchwil yr RNLI, a dywedodd: "Mae'r RNLI yn cymryd balchder a gofal wrth ofalu am ein treftadaeth gwerthfawr.

"Mae cofnodi ein hanes diddorol yn sicrhau y gall ein stori gael ei dweud am flynyddoedd i ddod, gan ysbrydoli cenedlaethau o gefnogwyr ac achubwyr bywyd i'r dyfodol.""

Pynciau cysylltiedig