Cyngor Sir Gâr yn prynu y paentiad olaf o Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi prynu'r darlun olaf o'r awdur Dylan Thomas a baentiwyd ddeufis cyn ei farwolaeth.
Fe dderbyniodd gwasanaeth amgueddfeydd y cyngor, CofGâr, y llun ar ôl iddo fod yng nghasgliad preifat yr arlunydd, Gordon Stuart, hyd at ei farwolaeth yn 2015.
Wedi'i baentio ym mis Medi 1953, dim ond ar ddau achlysur mae wedi cael ei weld yn gyhoeddus - yn Eisteddfod Genedlaethol 1954 a thrigain mlynedd yn ddiweddarach yn 5 Cwmdonkin Drive, cartref Dylan Thomas yn ystod ei blentyndod.
Roedd y darlun ymhlith y pedwar a baentiwyd dros dri phrynhawn yng nghartref Dylan Thomas a'i sied ysgrifennu yn Nhalacharn.
Mae dau o'r pedwar llun olew ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo ac mae'r trydydd yng nghasgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.
Prynwyd y llun mewn ocsiwn o ystâd yr artist yn Arwerthiant Cymru Rogers Jones & Co ar 17 Ebrill am £15,000.
Llwyddodd y Cyngor i brynu'r llun gyda chymorth cyfraniadau gan y Gronfa Gelf a Chronfa Grant Prynu Cyngor Celfyddydau Lloegr/V&A a'r Loteri Genedlaethol.
'Ni'n gyffrous iawn'
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Ni'n falch iawn bod y llun yma wedi dod nôl i Sir Gaerfyrddin.
"Ni'n gyffrous iawn ac yn edrych 'mlaen yn fawr i'r cyhoedd a'r ymwelwyr i gael y cyfle i weld y portread gofalus o Dylan Thomas.
"Mae'n gofnod arbennig iawn o wybod am ei enwogrwydd o gwmpas y byd. Fe fydd pobl yn medru gweld e yn yr Amgueddfa Sirol o fis Medi ymlaen. Ry'n ni wedi gwario dros filiwn o bunnau yn gwella'r Amgueddfa."
Yn ôl yr Arwerthwr, Ben Rogers Jones o gwmni Rogers Jones, mae'r llun yn drawiadol.
"Mae yna rywbeth ychydig bach yn drist am y llun, yn poignant, achos roedd Dylan Thomas ddim ond yn 39 oed. A jyst ar ôl i'r llun gael ei gwblhau, fe wnaeth e farw yn Efrog Newydd," meddai.
Bydd y llun yn cael ei arddangos mewn oriel newydd yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ym mis Medi.
Yna bydd yn mynd ar daith i gartref Dylan Thomas a lleoliadau eraill yn y rhanbarth cyn dychwelyd i Sir Gaerfyrddin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2015
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2014