Frankie Morris: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Frankie MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Frankie Morris wedi bod mewn parti mewn chwarel ger Waunfawr cyn iddo ddiflanu

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ddiflaniad dyn 18 oed yn ardal Pentir ger Bangor wedi rhyddhau dyn ar fechnïaeth yr heddlu.

Cafodd Frantisek "Frankie" Morris, 18 oed o Landegfan, ei weld ddiwethaf ger y Vaynol Arms, Pentir, ddydd Sul, 2 Mai wedi iddo fethu a dychwelyd adref ôl mynd i barti mewn chwarel ger Waunfawr.

Dros y penwythnos fe wnaeth deifwyr afon yr heddlu ymuno yn y chwilio yn Afon Cegin ar gyrion Bangor.

Roedd y dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Roedd yr heddlu eisoes wedi rhyddhau dau berson arall gafodd eu harestio'n flaenorol ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

'Ein hymchwiliad yn parhau'

Dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein hymchwiliad i ganfod Frankie yn parhau, ac mae'r chwilio o gwmpas ardal Pentir hefyd yn parhau.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth i ni gynnal ein hymchwiliad."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un a oedd yn y digwyddiad, neu'r 'rave', yn chwarel Waunfawr ddydd Sadwrn, 1 Mai i gysylltu â nhw.

Cafodd Mr Morris ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng yn gwthio ei feic ger y Vaynol Arms.

Mae llawer o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan o'r chwilio am Mr Morris, gan ddefnyddio drônau a chŵn.

"Mae swyddogion arbenigol yn dal i gefnogi teulu Frankie, ac maen nhw'n cael eu hysbysu o bob datblygiad yn y cyfnod anodd yma," meddai'r Prif Arolygydd Llewelyn.

Pynciau cysylltiedig