Anhrefn Mayhill: Cyfanswm o saith wedi eu harestio

  • Cyhoeddwyd
Ceir wedi eu llosgi yn Mayhill

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio tri pherson yn rhagor - dynion 18, 21, a 23 oed - mewn cysylltiad â'r anhrefn yn ardal Mayhill, Abertawe nos Iau.

Mae'n golygu bod cyfanswm o saith o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r cythrwfl hyd yn hyn.

Mae tri dyn 36, 20 a 18 oed a bachgen 16 oed eu harestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o drais anghyfreithlon.

O'r holl arestiadau hyd yn hyn, mae dau berson - dynion 21 a 23 oed - yn dal yn y ddalfa.

Mae'r gweddill wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth dan amodau llym yn cynnwys cyrffyw dros nos.

Dywed y llu eu bod yn disgwyl rhagor o arestiadau yn y dyddiau nesaf.

Mae'r heddlu yn parhau â phresenoldeb sylweddol yn yr ardal.

Dywedodd y prif uwch-arolygydd Gareth Morgan ei fod am ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth.

"Byddwn am eu sicrhau y bydd amodau mechnïaeth yn cael eu monitro, a byddwn yn gweithredu pe bai rhain yn cael eu torri."

Ffynhonnell y llun, Robert Melen
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu fod tua 200 o bobl yn rhan o'r cythrwfl

Apêl am dystiolaeth

Dywedodd fod angen yr amodau er mwyn iddynt ystyried yr "holl dystiolaeth fel bod y cyhuddiadau priodol yn cael eu dwyn yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol."

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystiolaeth wrth geisio dod o hyd i'r rhai oedd yn gyfrifol am y cythrwfl.

Yn ystod yr helynt nos Iau cafodd saith heddwas eu hanafu a bu trigolion yn gaeth i'w cartrefi wrthi i griwiau o bobl ifanc losgi ceir a thorri ffenestri.

Yn ôl yr heddlu roedd tua 200 o bobl yn rhan o'r digwyddiad, a ddechreuodd wedi i bobl ddod at ei gilydd i ryddhau balwnau er cof am ddyn ifanc lleol, Ethan Powell, fu farw'n annisgwyl ddydd Mercher.

Mae yna gred bod yr anhrefn wnaeth ddilyn yn destun gofid mawr i deulu Mr Powell.