'Peidiwch pardduo enw fy mab' wedi cythrwfl Mayhill
- Cyhoeddwyd

Cafodd llawer o geir eu llosgi wedi'r cythrwfl yn Abertawe nos Iau
Dywed tad i fachgen ifanc, a fu farw yn sydyn yn Mayhill yn Abertawe wythnos diwethaf, nad yw am i enw ei fab gael ei bardduo gan y rhai a oedd yn gyfrifol am y cythrwfl wedi gwylnos er cof amdano.
Wedi i falŵns gael eu rhyddhau i gofio am Ethan Powell nos Iau cafodd nifer o geir eu llosgi'n ulw a malwyd nifer o ffenestri. Bu farw Ethan yn sydyn ddydd Mercher diwethaf.
Mae saith o bobl eisoes wedi cael eu harestio.
Wrth siarad a'r BBC dywedodd tad Ethan, Jonathan Russ: "Ry'n am i'r cyfan stopio ac am alaru yn ein ffordd ni ein hunain - dyna'r cyfan ry'n ni eisiau.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd, Rwy' wedi colli fy mabi, fy machgen," ychwanegodd.
"Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn ofnadwy. Dwi ddim am i enw Ethan gael ei bardduo.
"Y cyfan oedd fod i ddigwydd oedd gollwng balŵns er cof amdano - ond yna mae yna bobl yn troi lan ac achosi y terfysg yma i gyd."

Fe gwympodd Ethan Powell, 19, cyn marw'n sydyn ddydd Mercher cyn y cythrwfl
Ychwanegodd y tad ei fod am i'w fab gael ei gofio fel "bachgen direidus".
Mae'n dweud hefyd nad ffrindiau ei fab oedd yn gyfrifol am y cythrwfl.
"'Na'th y bobl oedd yn gyfrifol fynd allan a chreu trwbwl - mae'r holl beth yn gywilyddus," meddai.
"Mae eu gweithredoedd wedi pardduo enw Ethan - ac os oes unrhyw un yn credu ei fod yn gysylltiedig gyda'r hyn ddigwyddodd, dwi'n dweud wrthych nad oedd e mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol.
"Rwy'n gobeithio y bydd plismyn yn llawdrwm ar y rhai oedd yn gyfrifol. Rwy' wir yn gobeithio na fydd neb yn colli plentyn fel rwy' i wedi ei wneud - fe allai rhywun fod wedi cael ei ladd noson y cythrwfl."
Saith plismon wedi'u hanafu
Dywed Heddlu De Cymru bod disgwyl y bydd mwy o bobl yn cael eu harestio yr wythnos hon ac y bydd dull adnabod wynebau yn cael ei ddefnyddio i ganfod y gweddill oedd yn gyfrifol am y digwyddiad treisgar.
Mae plismyn yn dweud eu bod yn gwybod am wyth person arall oedd yn rhan o'r hyn ddigwyddodd ac maent wedi'u hannog i fynd at yr heddlu.
Cafodd saith o blismyn eu hanafu wedi'r digwyddiad ar Ffordd Waun-wen. Mae sawl teulu wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi'u caethiwo yn eu cartrefi.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis: "Heddiw byddwn yn defnyddio ein technoleg adnabod wynebau ac fe fyddwn yn defnyddio y dull hwn i ganfod pawb. Mae'n gweithio'n dda gyda mygydau.
"Yr hyn mae e'n ei wneud yw adnabod mannau allweddol o'r wyneb - o gwmpas y llygaid, ac yna mae'n eu cymharu i luniau cynharach.
"Mae'n ddull hynod o lwyddiannus."

Mae rhwystrau concrit wedi'u gosod ar y ffordd lle digwyddodd y cythrwfl yn Mayhill nos Iau
Ddydd Sadwrn cafodd tri dyn - 36, 20 ac 18, a bachgen 16 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi trais anghyfreithlon.
Ddydd Sul cafodd tri dyn arall -18, 21, a 23 oed, eu harestio ac mae dau yn parhau yn y ddalfa.
Mae pump wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ond yn gorfod ufuddhau i amodau cyrffiw dros nos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021