Mayhill: Rhodd o gar i ddioddefwr y cythrwfl

  • Cyhoeddwyd
Adam RomainFfynhonnell y llun, Adam Romain
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Adam Romain gar fel rhodd wedi i'w gar yntau gael ei ddinsitrio

Mae dyn o Abertawe wedi rhoi ei gar i ddyn a welodd ei gar yntau'n cael ei losgi'n ulw yn y cythrwfl yn ardal Mayhill y ddinas.

Cafodd ceir a chartrefi eu difrodi'n sylweddol yn Mayhill yr wythnos ddiwethaf.

Mae Ben Wheel wedi rhoi ei hen gar i Adam Romain - cafodd yntau ei dargedu wrth geisio atal llanciau rhag rhoi ei gar ar dân nos Iau diwethaf.

Mae Mr Romain wedi dweud ei fod yn bwriadu symud o Abertawe, gan ddweud nad yw'n teimlo'n ddiogel yno bellach.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o geir a chartrefi eu difrodi'n sylweddol yn ardal Mayhill

Dywedodd Mr Wheel, o Fforest-fach gerllaw, ei fod wedi gweld adroddiadau bod Mr Romain yn dibynnu ar ei gar er mwyn gweithio.

Gan ei fod yntau newydd brynu car newydd, fe benderfynodd rhoi ei hen Vauxhall Astra - sy'n werth tua £600 - i Mr Romain.

Ffynhonnell y llun, Adam Romain
Disgrifiad o’r llun,

Ben Wheel (dde) yn cyfarfod gyda Mr Romain i roi'r car iddo

Fe wnaeth Mr Romain ddisgrifio briciau'n cael eu taflu drwy ei ffenest a'i ddrws ffrynt, a'i bartner a'i blant yn sgrechian wrth ofni y byddai'r bobl yn dod i mewn i'w cartref.

Roedd yn ddiolchgar iawn i'r holl bobl oedd wedi cynnig cefnogaeth.

Mae saith o bobl eisoes wedi cael eu harestio yn dilyn y trafferthion.

Pynciau cysylltiedig