Ymestyn cynllun profi ac olrhain Covid-19 i Mawrth 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan: 'Mae'r cynllun yn hanfodol'

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud y bydd rhaglen 'Profi, Olrhain a Gwarchod' yn allweddol wrth frwydro'n erbyn amrywiolion Covid-19 newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen yn cael ei ymestyn hyd Mawrth 2022 er mwyn ceisio taclo clystyrau.

Mae pryder wedi bod yn ddiweddar am gynnydd mewn achosion sy'n gysylltiedig ag amrywiolyn a ddaeth i'r amlwg yn India.

Ddydd Sul, dywedodd Eluned Morgan y byddai'n "anodd iawn" cyfyngu ar ledaeniad y feirws o Loegr, lle mae miloedd o achosion newydd gyda'r amrywiolyn wedi cael eu hadnabod.

Ar hyn o bryd mae llai na 100 o achosion o amrywiolyn India yng Nghymru gyda chlwstwr yn ardal Conwy.

Mae'r mwyafrif yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol, a chredir nad oes yr un achos wedi arwain at berson yn gorfod mynd i'r ysbyty hyd yma.

Mae disgwyl ffigyrau mwy diweddar i gael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Dywedodd Llywodraeth y DU y gallai hyd at dri chwarter o achosion newydd ar draws y DU fod yn rhai o amrywiolyn India.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cynllun Profi, Olrhain a Gwarchod i fodolaeth ym Mehefin 2020

Yma yng Nghymru mae timau Profi, Olrhain a Gwarchod wedi bod yn gweithredu ar lefel uwch er mwyn ceisio taclo amrywiolion newydd sydd o bryder.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r timau wedi cysylltu gyda 99.7% o bob achos positif ers i'r gwasanaeth gael ei lansio ym mis Mehefin 2020.

Maen nhw hefyd wedi dod o hyd i 95% o gysylltiadau agos gyda'r achosion hynny - pobl ddaeth o fewn pellter penodol neu wedi treulio gyfnod o amser gyda pherson a brofodd yn bositif.

Bydd £32m yn ychwanegol nawr yn mynd tuag at y gwaith, gydag Eluned Morgan yn clodfori'r strategaeth.

"Mae Profi, Olrhain a Gwarchod wedi bod yn effeithiol dros ben yn cefnogi pobl sydd wedi profi'n bositif a'u cysylltiadau i hunan ynysu a darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth," meddai.

"Mae hynny'n hanfodol i atal y feirws rhag lledu yn ein cymunedau.

"Mae'r rhai sy'n olrhain wedi gwneud llawer mwy nag y mae eu teitl yn awgrymu - maen nhw wedi adnabod pobl fregus a chael cefnogaeth ychwanegol iddyn nhw, boed hynny'n rhywun i sgwrsio gyda nhw, parseli bwyd neu gysylltu gydag amryw wasanaethau iechyd meddwl.

"Wth i ni geisio atal lledaeniad amrywiolion newydd sydd o bryder, mae'r bobl sy'n olrhain cysylltiadau yn allweddol er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith yma."