Torf i wylio Cymru eto wrth iddyn nhw herio Albania
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn cwblhau eu paratoadau ar gyfer Euro 2020 wrth chwarae o flaen torf am y tro cyntaf ers blwyddyn a hanner pan fyddan nhw'n herio Albania brynhawn Sadwrn.
Er iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn Ffrainc nos Fercher, roedd sawl elfen galonogol i berfformiad carfan Rob Page yn erbyn ffefrynnau'r gystadleuaeth.
A dydd Sadwrn roedd yna hwb arall i'r rheolwr gyda'r newyddion y bydd ganddo hawl i chwarae Neco Williams wedi'r cwbl.
Yn wreiddiol, ar ôl derbyn cerdyn yn erbyn Ffrainc, y gred oedd fod amddiffynnwr Lerpwl wedi'i wahardd ar gyfer gêm Albania.
Ond bellach bydd gan Williams hawl i chwarae pe bai'n cael ei ddewis.
Daw hyn ar ôl i Fifa, y corff sy'n rheoli pêl-droed rhyngwladol ddweud fod y gosb i Williams yn fater i Uefa - y corff sy'n rheoli'r gêm yn Ewrop.
Ond dywed Uefa nad ydynt yn barnu mewn gemau cyfeillgar fel yr un yn erbyn Ffrainc.
Felly Cymdeithas Bêl-droed Cymru fydd â'r gair olaf.
Pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Albania tro diwethaf yn 2018, fe dorrodd Chris Gunter y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros ei wlad.
Ond doedd hi ddim yn noson i'w chofio, gyda'r ymwelwyr yn colli o 1-0 yn Elbasan.
Ac ar ôl canlyniad yn erbyn Ffrainc, bydd Cymru yn gobeithio gorffen eu paratoadau ar gyfer yr Ewros ar ganlyniad positif cyn teithio i Azerbaijan ar gyfer eu gemau cyntaf yn y gystadleuaeth.
Chwaraewyr i wylio
Taulant Xhaka - Brawd Granit Xhaka, sy'n chwarae i glwb Arsenal. Er iddo chwarae i dimau dan-17 a dan-21 Y Swistir - sef y wlad mae ei frawd yn parhau i'w cynrychioli - dewisodd Taulant i chwarae dros Albania.
Mae'n hen ben yn ganol y cae i'r Eryrod, ac wedi ennill Uwch Gynghrair Y Swistir bum gwaith gyda'i glwb, Basel.
Rey Manaj - Mae ymosodwr Barcelona B wedi bod yn sgorio'n gyson dros ei wlad yn ddiweddar, gyda naw gôl mewn 21 o gemau yn barod, ac yn siŵr o fod yn brawf i amddiffyn Cymru.
Ef yw'r person cyntaf o Albania i chwarae dros dîm cyntaf Barcelona, gan gynnwys gyda Lionel Messi, ac mae ganddo gymal rhyddhau o €50miliwn yn ei gytundeb gyda'r clwb.
Dychweliad y Wal Goch
Mae disgwyl i Rob Page wneud newidiadau ar gyfer yr ornest yn erbyn Albania, gyda chwaraewyr fel Aaron Ramsey, David Brooks a Ben Davies oedd ar y fainc nos Fercher yn gobeithio chwarae o'r dechrau y tro hwn.
Y newid mawr arall ar gyfer y gêm fydd presenoldeb 'Y Wal Goch' unwaith eto.
Bydd torf o 6,500 yn cael bod yno yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac yn eu plith fydd Osian Edwards o Lanrug, a deithiodd i Porto'r wythnos diwethaf i wylio ei dîm, Chelsea, yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.
"Dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy," meddai.
"Er na fydd cymaint o bobl yna o'i gymharu â'r gêm ddiwethaf efo torf yn erbyn Hwngari [yn 2019], bydd o'n neis cael mynd i wylio gêm bêl-droed fyw eto ac i gefnogi fy ngwlad.
"Dwi'n sicr bydd yr atmosffer dal yn wych."
Roedd Osian yn yr ornest honno yn erbyn Hwngari hefyd, pan sicrhaodd Cymru eu lle yn yr Ewros unwaith eto.
"Roedd y Wal Goch y diwrnod hwnnw yn un o'r gorau sydd wedi bod ers Euro 2016," ychwanegodd.
"Dwi'n edrych ymlaen i'r stadiwm fod 'nôl yn llawn a gallu canu ein caneuon unwaith eto!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021