Ystyried cadw Tŷ Pawb dan reolaeth Cyngor Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos y bydd marchnad a chanolfan gelfyddydau yn Wrecsam yn aros o dan reolaeth y cyngor am y dyfodol rhagweladwy.
Daw hyn wedi i ffynonellau incwm yng nghanolfan Tŷ Pawb ddymchwel oherwydd y pandemig.
Pan agorodd y ganolfan yn Ebrill 2018, dywedodd ymgynghorwyr y dylai rheolaeth o'r adeilad gael ei drosglwyddo i ymddiriedolaeth.
Fe wnaeth bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam bleidleisio i gadw'r lle dan reolaeth yr awdurdod am o leiaf tair blynedd, ond mae disgwyl i'r cyfnod yna gael ei ymestyn oherwydd effaith y pandemig.
Dywed adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan gynghorwyr ddydd Mawrth: "Mae'n hanfodol bod Tŷ Pawb yn cryfhau'r model busnes drwy fabwysiadu dull cyfannol.
"Mae dyfodiad Covid wedi cael effaith fawr, a'n cred ni yw bod angen adfywio cyn y gallwn ystyried dull gwahanol o reolaeth."
Yn y flwyddyn ariannol 2019/20 fe wnaeth y ganolfan orwario o tua £88,000, yn rhannol oherwydd y pandemig a mesurau'r cyfnod clo tua diwedd y flwyddyn.
Ond yn 2020/21 fe wnaeth Tŷ Pawb danwario o tua £24,000 wrth i swyddogion fedru hawlio grantiau llywodraeth i wneud yn iawn am golli incwm.
Yr amcangyfrif am y flwyddyn ariannol bresennol yw y bydd colled arall o oddeutu £100,000, er bod gobaith lliniaru hynny rhywfaint.
Mwy o bobl yn gweithio adref sy'n cael y bai, gan fod tâl parcio yn y ganolfan bron wedi diflannu.
Fe fydd cynllun gweithredu ar gyfer Tŷ Pawb yn cael ei ystyried gan bwyllgor cyflogaeth, busnes a chraffu buddsoddiad Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2019