Euro 2020: Be ydych chi'n wybod am dîm Y Swistir?
- Cyhoeddwyd
Mae Euro 2020 yn dechrau'r penwythnos yma gyda Cymru'n wynebu'r Swistir yn Baku. Ond faint ydych chi'n gwybod am dîm pêl-droed Y Swistir? Dyma ambell ffaith ddiddorol.
Detholion y byd
Mae'r Swistir yn y 13eg safle yn rhestr detholion y byd FIFA ar hyn o bryd, pedwar safle'n uwch na Chymru sy'n 17eg. Ym mis Awst 1993 fe roedd Y Swistir yn drydydd yn netholion y byd - eu safle uchaf erioed.
Prif glybiau'r Swistir
Y clybiau mwyaf llwyddiannus yn Y Swistir yw Grasshopper Zürich (27 pencampwriaeth cenedlaethol), FC Basel (20), Servette FC o Geneva (17), BSC Young Boys o Bern (15) a FC Zürich (12).
Chwaraewyr adnabyddus o'r Swistir
Fe sgoriodd Stéphane Chapuisat 21 o weithiau dros Y Swistir rhwng 1989 a 2004, gan gynnwys dwy yn erbyn Cymru yn 2000 pan enillodd Y Swistir 2-0. Chwaraeodd Chapuisat dros Borussia Dortmund rhwng 1991 a 1999 ble enillodd y gynghrair ddwywaith, Cwpan yr Almaen ddwywaith, a Chynghrair y Pencampwyr yn 1997.
Cafodd y chwaraewr ganol-cae Valon Behrami 85 o gapiau dros Y Swistir rhwng 2005 a 2018, ac yn 36 oed mae dal yn chwarae ar y lefel uchaf, gyda Genoa yn Serie A Yr Eidal. Chwaraeodd dros West Ham United rhwng 2008 a 2011 ac yn 2015 fe ymunodd â chlwb Watford.
Mae'n debyg mai gyda Arsenal mae Philippe Senderos yn cael ei gysylltu rhan amlaf, gan ei fod yn chwarae dros y Gunners rhwng 2003 a 2010. Ond fe chwaraeodd hefyd dros Fulham ac Aston Villa yn Uwchgynghrair Lloegr a Glasgow Rangers yn Yr Alban. Cafodd yr amddiffynnwr 57 o gapiau dros y Swistir rhwng 2005 a 2016, a gan ei fod wedi chwarae yn yr Eidal, Sbaen a Lloegr, a bod ei fam yn Sbaenes a'i dad o Serbia, mae'n gallu siarad saith iaith yn rhugl.
Yn y 2000au cynnar roedd Stéphane Henchoz yn rhan bwysig o amddiffyn Lerpwl, roedd hynny yn dilyn dwy flynedd gyda Blackburn Rovers (1997-99). Cafodd 72 o gapiau dros Y Swistir rhwng 1993 a 2006 ac roedd yn rhan o garfan y wlad yn Euro '96 ac Euro '04.
Alexander Frei sydd â'r nifer mwyaf o goliau dros Y Swistir. Roedd yn ymosodwr effeithiol tu hwnt gan sgorio 42 gol mewn 84 ymddangosiad dros ei wlad rhwng 2001 ac 2011. Mae bellach yn reolwr gyda FC Wil yn ail adran Y Swistir.
Cafodd Stephan Lichtsteiner 108 o gapiau dros Y Swistir rhwng 2006 a 2019. Roedd yn chwarae i rhai o glybiau mwyaf Ewrop, gan gynnwys Juventus, Lazio ac Arsenal.
Pencampwyr y Byd
Yn 2009 fe enillodd dîm dan 17 Y Swistir Cwpan y Byd, gan guro Nigeria yn y rownd derfynol o flaen 60,000 o bobl. Yng ngharfan y Swistir y flwyddyn honno oedd nifer o'r chwaraewyr fydd yn chwarae dros y wlad yn yr Euros eleni, fel yr ymosodwr Haris Seferović a'r capten Granit Xhaka.
Y Swistir yn yr Euros
Dyma'r pumed tro i'r Swistir gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop. Euro 96 yn Lloegr oedd y tro cyntaf i'r wlad ymddangos yn y pencampwriaethau, ac fe wnaethant hyn eto yn 2004 yng Ngwlad Belg a'r Iseldiroedd, 2008 (gan eu bod yn llwyfannu'r gystadleuaeth gyda Awstria) ac yn 2016 yn Ffrainc.
Er eu bod wedi cyrraedd y pencampwriaethau bedair gwaith gan chwarae cyfanswm o 13 gêm, dim ond dwywaith maent wedi ennill - un fuddugoliaeth yn 2008 ac un yn 2016.
Ben-ben â Chymru
Mae Cymru a'r Swistir wedi chwarae yn erbyn ei gilydd saith gwaith, gyda phum buddugoliaeth i'r Swistir a dwy i Gymru. Yn 1949 chwaraeodd y gwledydd yn erbyn ei gilydd gyntaf gyda'r Swistir yn ennill 4-0 yn Berne, ac yn 1951 fe wnaethon nhw chwarae am yr ail waith. Roedd rhaid aros tan 1996 nes i'r ddwy wlad gwrdd eto.
Y tro diwethaf i Gymru wynebu Cymru oedd 7 Hydref 2011 yn Abertawe. Cymru oedd yn fuddugol y diwrnod hwnnw 2-0, gyda goliau i Gareth Bale ac Aaron Ramsey.
Carfan Y Swistir i Euro 2020
Prif chwaraewr Y Swistir heddiw yw Granit Xhaka, sy'n chwarae i Arsenal - fo ydy capten y tîm a'r chwaraewr mwyaf profiadol yn y garfan gyda 94 o gapiau.
Ond mae yna chwaraewyr eraill o safon yn y garfan; Xherdan Shaqiri o Lerpwl, Remo Freuler o Atalanta yn Yr Eidal, Haris Seferović o Benfica, Manuel Akanji o Borussia Dortmund, ac Breel Embolo a Yann Sommer o Borussia Mönchengladbach.
O'r garfan bresennol o 26 chwaraewr dim ond pedwar sy'n chwarae ei bêl-droed yn Y Swistir, un ym Mhortiwgal, un yn Yr Iseldiroedd, un yng Nghroatia, dau yn Yr Eidal, tri yn Ffrainc a thri yn Lloegr. Yr Almaen sydd yn cartrefu'r nifer mwyaf o chwaraewyr garfan Swistir - mae 11 o'r garfan yn chwarae yn y Bundesliga, gyda phedwar yng nghlwb Borussia Mönchengladbach.
Dylanwad y Balcanau
Mae cyfraniad chwaraewyr gafodd eu geni yn y Balcanau, neu i deulu o'r Balcanau, i dîm cenedlaethol Y Swistir dros y blynyddoedd diweddar wedi bod yn drawiadol. Cafodd Xherdan Shaqiri, Valon Behrami, Albert Bunjaku, Almen Abdi, Milaim Rama a Beg Ferati eu geni yn Kosovo, ac fe gafodd Granit Xhaka ei eni yn Y Swistir i rieni o Kosovo.
Cafodd Eldin Jakupović ei eni yn Bosnia, ac Blerim Džemaili a Admir Mehmedi ym Macedonia.
Yn Cwpan y Byd 2018 fe roedd 15 o garfan Y Swistir yn gymwys i allu chwarae dros wledydd eraill, gan gynnwys Cameroon, Cape Verde, Congo, Bosnia, Kosovo, Albania a Croatia.
Y Rheolwr
Vladimir Petković o Bosnia yw rheolwr tîm cenedlaethol Y Swistir ar hyn o bryd. Mae wedi bod wrth y llyw gyda'r garfan genedlaethol ers 2014, a chyn hynny roedd yn rheolwr ar nifer o glybiau yn Y Swistir a Samsunspor yn Nhwrci. Ond ei swydd uchaf ei broffil cyn ei swydd bresennol oedd gyda Lazio o 2012 i 2014.
Canlyniadau diweddar
Mae tîm y Swistir wedi ennill ei pum gêm ddiwethaf - dwy gêm gystadleuol a thair gem gyfeillgar. Yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd 2020-21 cafodd y Swistir gem gyfartal 1-1 yn erbyn Sbaen yn Basel, a dwy gêm gyfartal yn erbyn Yr Almaen; 1-1 yn Basel a 3-3 yn Cwlen ym mis Hydref 2020.
Ar 3 Mehefin fe chwaraeodd Y Swistir ei gêm gyfeillgar olaf cyn dechrau Euro 2020, gan guro Liechtenstein 7-0.
Beth mae'r bwcis yn ddweud?
Yn ôl y bwcis Y Swistir yw'r ffefrynau i ennill y gêm yma, o drwch blewyn. Gareth Bale yw'r chwaraewr mwya' tebygol o sgorio gyntaf, ac yna tri chwaraewr o'r Swistir sydd â'r siawns orau o'i ddilyn; Haris Seferović, Mario Gavranović ac Breel Embolo.
Hefyd o ddiddordeb: