Cymru 0-0 Albania: Gêm ola Cymru cyn Euro 2020
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi chwarae eu gêm olaf cyn pencampwriaeth Euro 2020 a hynny o flaen torf o 6,500 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Di-sgor oedd hi yn erbyn Albania ond bydd y rheolwr Rob Page yn fwy bodlon gyda pherfformiad ail hanner ei dîm, a'r ffaith nad oedd yna anafiadau.
Bydd y garfan nawr yn gadael am Baku gyda'r gêm gyntaf yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn nesaf.
Roedd hi'n hanner cyntaf difflach ac Albania yn gweld mwy o'r bêl na Chymru.
Daeth Kieffer Moore i'r cae yn yr ail hanner a gyda'r strwythur newydd roedd Cymru yn edrych yn fwy fel sgorio.
Fe wnaeth ergyd bwerus Neco Williams, oedd yn chwarae er gwaethaf carden goch yn gynharach yr wythnos, olygu fod yn rhaid i'r golgeidwad Gentian Selmani fod ar ei orau i gadw'r sgor yn gyfartal.
Ond yn y pendraw doedd y canlyniad ddim yn bwysig.
Pwrpas y gêm oedd i benderfynu pa strwythur sydd orau i Gymru, ac i asesu ffitrwydd nifer o'r chwaraewyr gan gynnwys Aaron Ramsey a Ben Davies y ddau yn dychwelyd i chwarae ar ôl anafiadau.
"Fe fydd Y Swistir lefel yn uwch eto - a dim amarch i Albania," meddai Rob Page.
"Yn yr hanner cyntaf fe roedd y tîm ychydig yn is na'r lefel....fe wnaeth y newidiadau helpu yn yr ail hanner and fe wnaethom greu ychydig o gyfleoedd."
Yn fwy na'r perfformiad fe fydd y gêm yn cael ei chofio fel achlysur pan ddychwelodd y cefnogwyr - gyda 6,500 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae o flaen eu cefnogwyr oedd y fuddugoliaeth 2-0 yn erbyn Hwngari yn Rhagfyr 2019 wnaeth sicrhau fod y tîm yn cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020.
Cymru: Hennessey, Ampadu (Moore 61), Mepham, Ben Davies (Rodon 61), Neco Williams, Levitt, Allen (Smith 61), Ramsey (Wilson 61), Norrington-Davies, Brooks (J Williams 76), Tyler Roberts (Bale 71).
Eilyddion heb eu defnyddio: Cabango, Colwill, Adam Davies, Gunter, Connor Roberts, Ward.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019