Cyngor Celfyddydau Cymru yn penodi pennaeth newydd

  • Cyhoeddwyd
Sian TomosFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sian Tomos yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi mai Sian Tomos fydd yn olynu Nick Capaldi fel prif weithredwr.

Cyhoeddodd Mr Capaldi fis Rhagfyr 2020 y bydd yn ymadael â'r swydd yn haf 2021.

Sian Tomos yw cyfarwyddwr datblygu celfyddydau presennol y Cyngor.

Ymunodd â'r corff pan sefydlwyd y Cyngor yn wreiddiol a bu'n gyfarwyddwr rhanbarthol y gogledd am dros 10 mlynedd.

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi.

Dywedodd Phil George, cadeirydd y Cyngor: "Mae gan Sian angerdd dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a thros Gymru o gymunedau amrywiol sy'n ymgysylltu â'r celfyddydau.

"Bydd ei phrofiad a'i hanes o gyflawni yn gaffaeliad iddi arwain y Cyngor ac eiriol dros y sector.

"Bydd yn ein llywio ar hyd y daith at Gymru decach a chynhwysol.

"Hoffwn ddiolch i Nick Capaldi am ei gyfraniad gwych at gelfyddydau Cymru dros y blynyddoedd."

Pynciau cysylltiedig