Euro 2020: Cefnogwyr 'tanllyd' Twrci a phêl-droed Cymru ar y map

  • Cyhoeddwyd
Iolo ap Dafydd ar lan y Bosphorus yn IstanbwlFfynhonnell y llun, Iolo ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Iolo ap Dafydd dair blynedd a hanner fel gohebydd yn Istanbwl

Mae Twrci yn wlad sy'n gwirioni ar bêl-droed, meddai'r newyddiadurwr Iolo ap Dafydd fu'n byw yno am dair blynedd a hanner.

Wrth drafod gêm Euro 2020 Cymru yn erbyn Twrci yn Baku nos Fercher, 16 Mehefin, dywedodd ei fod yn credu y gallai hi fod yn "danllyd" ymysg y cefnogwyr ac ar y cae.

"Fyswn i'n tybio y bydd 'na eitha' lot o gefnogwyr Twrci yna achos ei fod o mor agos a fyswn i hefyd yn meddwl y bydd yna lot o gefnogwyr Azerbaijan achos maen nhw fel cefndryd iddyn nhw.

"Maen nhw'n siarad yr un iaith fwy na heb a faswn i'n meddwl y bydd yr Azeris yna yn eu niferoedd yn cefnogi Twrci.

"Felly mae potensial y gallai pethau fod yn fwy ymfflamychol yn y dorf yn erbyn Cymru.

"Mae'n bosibl y gallai'r dorf chwarae mwy o ran gan fod perfformiad Cymru wedi bod yn eitha' fflat [yn erbyn y Swistir]; mi allai'r dorf yna, yr Azeris a'r bobl o Dwrci fydd yna, adael mwy o argraff ar y Cymry."

'Galler', Giggs a Bale

"Eu henw nhw am Gymru ydy Galler ond dydyn nhw ddim yn tueddu i wahaniaethu rhwng enw Lloegr a UK gan ddweud İngiltere [Lloegr] am wladwriaeth Prydain; roedd yn arfer fy anfon i fyny'r wal!

"Ond pan rwyt ti'n egluro iddyn nhw maen nhw'n dweud 'O Galler wyt ti!', wedyn yn enwi Giggs neu Bale neu Ian Rush.

"Dwi'n meddwl bod pêl-droed, yn fwy na rygbi, yn rhoi Cymru ar y map.

"Fe elli di fynd i unrhyw un o wledydd y dwyrain canol a maen nhw i gyd wedi mopio efo pêl-droed i raddau, a mae cenedlaetholdeb y gêm yn bwysig. Mae o'n sicr felly yn Twrci."

Gelyniaeth y 'Süper Lig'

Yn ystod ei gyfnod yno fel gohebydd yn y dwyrain canol i'r BBC ac i sianel rhyngwladol TRT World, roedd Iolo yn byw yn ninas enfawr, Istanbwl, dinas fwyaf Twrci sy'n bont rhwng y gorllewin a'r dwyrain.

Ffynhonnell y llun, Iolo ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Iolo ap Dafydd gyda'i gydweithwyr yn Istanbwl

A chafodd gyfle i weld pa mor bwysig yw'r diwylliant pêl-droed i gefnogwyr yno.

Mae gan y wlad uwchgynghrair fywiog, y Süper Lig, a llawer o dramorwyr yn chwarae i'r clybiau, yn enwedig yn Istanbwl, lle mae tri chlwb mawr Galatasaray, Beşiktaş a Fenerbahçe.

Ymysg y Cymry sydd wedi bod yno mae Dean Saunders a chwaraeodd i Galatasaray pan roedd Graeme Souness yn rheolwr; roedd cyn reolwr Cymru, John Toshak, yn rheolwr ar Gala am gyfnod hefyd.

Mae naws wahanol iawn yn perthyn i'r tri chlwb ac i'w cefnogwyr, meddai Iolo.

"Dydyn nhw ddim yn ffrindiau. Mae Galatasaray a Beşiktaş ar ochr Ewrop y ddinas a Fenerbahçe ar ochr Asia ac yn glwb ariannog iawn, yn debyg i Chelsea.

Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Dean Saunders i Galatasaray am flwyddyn yn y 1990au

"Mae cefnogwyr Beşiktaş ar y llaw arall yn rhai milwriaethus ac adain chwith, a Galatasaray yn hanesyddol wedi chwarae yn y cwpanau Ewropeaidd mawr ac yn erbyn llawer o glybiau Ewrop."

Helynt rhwng cefnogwyr

"Felly maen nhw'n rhan o'r diwylliant Ewropeaidd pêl-droed yna, ond maen nhw hefyd yn ddall pan maen nhw'n cefnogi, maen nhw'n hollol unllygeidiog.

"Maen nhw'n danllyd iawn o blaid y chwaraewyr ac mae'n fwy na jyst pêl-droed, mae'r elfen wleidyddol, crefyddol, seciwlar yna yn rhan o'r cefndir.

"Roedd helyntion rhwng y cefnogwyr yn gallu bod yn broblem yn Istanbwl," meddai Iolo a oedd yn byw yn agos at stadiwm newydd Beşiktaş.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid rhoi'r gorau i gêm rhwng Beşiktaş a Galatasaray yn 2013 wedi i'r cefnogwyr ddechrau ymladd

"Roedd y cefnogwyr yn yfed yn drwm cyn mynd i'r gemau, sydd ddim yn rhywbeth mae rhywun yn ei weld yn aml iawn yn Nhwrci. Roedd fel gwylio clybiau yng Nghymru a Lloegr tua 20 mlynedd yn ôl lle roedd y busnes yfed 'ma cyn mynd i fewn yn bwysig - yn rhan o'r diwylliant - ond dwi ddim yn rhagweld bydd hwnna'n digwydd yn Baku."

Hefyd o ddiddordeb:

Beth am y cefnogwyr sydd heb deithio dros y ffin i Azerbaijan? Fydd yna wylio cyhoeddus?

"Mae yna dyndra mawr yn Nhwrci gyda'r llywodraeth dan yr arlywydd Erdogan yn erbyn alcohol ac yn erbyn unrhyw beth sydd yn wrth-Islamaidd.

Bariau Istanbwl

"Ond mae Istanbwl yn ddinas seciwlar iawn mewn sawl ffordd ac un o'r pethau mwyaf seciwlar ydy'r bariau a'r clybiau nos, y restaurants.

"Mae 'na lwythi o bars lle medri di fynd i weld pêl-droed, rygbi, pêl-fasged, a mae'r gemau yna i gyd ar y teledu mewn bar.

"Dwi wedi gweld gemau Cymru a gemau'r Llewod yno: maen nhw i gyd yn cael eu harddangos."

Bydd rheolau Covid yn effeithio yn 2021 wrth gwrs, ond mae'n eithaf sicr y bydd yna gefnogwyr yn gwylio ym mariau'r ddinas nos Fercher.

Cyngor Mark Hughes

Er y gallai Cymru deimlo rhyddhad mai colli wnaeth Twrci yn eu gêm gyntaf nhw yn y bencampwriaeth yn erbyn yr Eidal, gallai Twrci hefyd weld eu cyfle yn erbyn Cymru wedi eu gêm gyfartal hwythau yn erbyn y Swistir.

Mae hon, meddai Iolo, yn gêm dyngedfennol i'r naill a'r llall a bydd Twrci yn bachu ar y cyfle lleiaf.

"Dwi'n cofio flynyddoedd yn ôl holi Mark Hughes a oedd wedi chwarae ryw gêm yn erbyn Twrci. Roedd hi'n gêm gorfforol, galed, a dwi'n cofio Hughes yn dweud 'Elli di ddim dangos dim gwendid neu fyddan nhw drostat ti i gyd' - y munud mae eu cynffonau nhw'n mynd i fyny, rwyt ti'n mynd i stryglo.

"O wrando ar be' ddywedodd Mark Hughes, fyswn i'n meddwl bydd rhaid i Gymru beidio bod wedi ymlacio gormod; roedden nhw'n dal nôl ychydig yn erbyn Swistir, dwi ddim yn meddwl fyddan nhw'n gallu fforddio gwneud hynna yn erbyn Twrci achos os 'neith Twrci synhwyro bod cyfle ganddyn nhw, awn nhw amdani."