Disgyblion 'mewn limbo' cyn cadarnhad canlyniadau
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion ledled Cymru'n cael graddau Safon Uwch, TGAU ac UG, gyda phryder y gallai rhai fod "mewn limbo" am wythnosau cyn i'r canlyniadau gael eu cadarnhau.
Mae canlyniadau dros dro'n cael eu rhannu gan ysgolion a cholegau gydol mis Mehefin ar ôl i athrawon bennu'r graddau ar gyfer eu myfyrwyr.
Ni fydd llefydd prifysgol yn cael eu cadarnhau tan y diwrnod canlyniadau Safon Uwch swyddogol ar 10 Awst.
Gall disgyblion apelio i'w hysgol neu goleg os ydynt yn anhapus gyda'u graddau.
Mae'r trefniadau ar gyfer rhannu canlyniadau'n wahanol yn dibynnu ar yr ysgol neu goleg, gyda rhai disgyblion yn derbyn e-bost tra bod eraill yn derbyn graddau wyneb yn wyneb mewn ffordd debyg i ddiwrnod canlyniadau traddodiadol.
Mae rhai'n pryderu na fydd disgyblion Safon Uwch, yn enwedig y rhai sy'n siomedig gyda graddau, yn cael sicrwydd am y camau nesaf tan fis Awst.
Fe fydd disgyblion sydd wedi cymryd cymwysterau galwedigaethol hefyd yn gorfod aros am rai o'u canlyniadau.
'Angen arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth'
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ysgrifennu at Universities UK, y corff sy'n cynrychioli prifysgolion, yn eu hannog i gynnig "arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth" i ddisgyblion sy'n ansicr a fydd eu graddau'n ddigon da i sicrhau lle prifysgol.
Yn y llythyr dywedodd Sally Holland ei bod yn ofni y gallai'r ddau fis tan i ganlyniadau gael eu cadarnhau deimlo fel "cyfnod ansicr o limbo".
"Rwy'n pryderu'n benodol am effaith bosibl hyn ar les rhai pobl ifanc, a allai fod â lles bregus eisoes yn dilyn y cyfnod anodd iawn hwn," meddai'r llythyr.
Dywedodd Universities UK eu bod yn cydnabod yr heriau i fyfyrwyr eleni ac yn "barod i gefnogi myfyrwyr yng Nghymru dros yr haf yn y cyfnod cyn diwrnod y canlyniadau ym mis Awst a thu hwnt.
"Mae Universities UK yn gweithio gyda chyrff addysg uwch eraill i sicrhau bod myfyrwyr a rhieni yn deall beth fydd canlyniadau dros dro yn ei olygu i'r myfyrwyr ac y byddant yn teilwra eu cefnogaeth i fyfyrwyr yn unol â hynny."
'Lot o bwysau yn barod eleni'
Fe wnaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst wahodd disgyblion i'r ysgol i gasglu eu canlyniadau dros dro. ac i roi cyfle iddynt drafod unrhyw bryderon gyda staff ynglŷn â'u graddau a'u ceisiadau prifysgol.
Dywedodd y pennaeth, Owain Gethin Davies, bod y system yn wahanol iawn i beth mae pobl wedi arfer ag ef.
"Y ffaith maen nhw'n cael eu canlyniadau lot cynt, mae 'na yn amlwg lot o waith aros rŵan i'r rai sydd yn ansicr bod nhw'n mynd i gael y lle yn y brifysgol," meddai.
"Fel arfer ar ddiwrnod canlyniadau maen nhw'n mynd i ddechrau gwybod yn syth be' sydd yn digwydd o ran cael lle yn y brifysgol.
"Ac yn amlwg mae 'na rhai unigolion yn mynd i fod yn siomedig efo'r graddau sydd wedi cael eu pennu gan y ganolfan ac wedyn mae 'na broses iddyn nhw ddilyn os ydyn nhw'n dymuno apelio i'r ysgol am hynny.
"Yn sicr mae 'na effaith mawr yn mynd i allu bod ar iechyd meddwl ein bobl ifanc ni. Maen nhw 'di bod o dan lot o bwysau yn barod eleni, mae 'na gyfnod clo 'di bod tan mis Mawrth.
"Maen nhw 'di bod yn derbyn eu haddysg ar-lein, a wedyn wedi bod yn derbyn addysg o dan gyfyngiadau penodol iawn yn ystod yr hanner tymor ola' 'ma.
"Felly 'di o ddim 'di bod yn flwyddyn arferol a maen nhw 'di gorfod arfer efo'r newid mawr 'ma mewn cyfnod mor fyr."
Mae Mali Evans, sy'n 18 ac yn fyfyriwr yn Ysgol Dyffryn Conwy, wedi derbyn y graddau anghenrheidiol i astudio Cemeg yn y brifysgol, ond bydd rhaid aros tan fis Awst am gadarnhad ei bod wedi ei derbyn ar y cwrs.
"Dwi'n falch bod ni'n cael y graddau dros dro i gychwyn efo fo, er mwyn bod ni'n gallu apelio yn erbyn nhw os tydan ni ddim yn cytuno," meddai. "Ond yn amlwg mae gynnon ni dal ddisgwyl tan 'da ni'n clywed gan y prifysgolion.
"Dwi'n teimlo bod o'n anodd gwybod ydw i fod i ddathlu, ydw i fod i jyst gymeryd o a gobeithio na dyna ga' i ym mis Awst.
"Ond o ran bod ni'n cael rhywfaint o dawelwch meddwl o ran be 'da ni'n mynd i gael ym mis Awst, a 'da ni ddim yn mynd i fod mewn anghyfiawnder o gwbl, mae hynny di helpu rhywfaint."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021