Gorchymyn Esgob Tyddewi i fod bant o'r gwaith am fis

  • Cyhoeddwyd
Bishop Joanna PenberthyFfynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Esgob wedi ei beirniadu'n hallt gan rai wedi ei sylwadau am y Ceidwadwyr

Mae Esgob Tyddewi, sy'n wynebu beirniadaeth wedi ei sylwadau am y Ceidwadwyr, wedi cael gorchymyn i gymryd mis i ffwrdd o'r gwaith ar sail cyngor meddygol.

Wedi ei sylwadau ar ei chyfrif Twitter am beidio ymddiried mewn Ceidwadwr, mae'r Esgob Joanna Penberthy wedi cael ei beirniadu gan Archesgob Caergaint, yr Eglwys yng Nghymru a gwleidyddion Ceidwadol.

Dywed offeiriaid ym mhlwyf Tyddewi, sy'n ymestyn ar draws y rhan fwyaf o orllewin a chanolbarth Cymru, eu bod wedi cael gwybod "nad yw ei hiechyd yn dda" ac "na fydd hi yn y gwaith am y mis nesaf".

Mae'r Eglwys yng Nghymru, sydd eisoes wedi ymddiheuro am ei sylwadau, wedi gwrthod gwneud sylw am ei habsenoldeb.

Mae'r Esgob Penberthy hefyd wedi ymddiheuro ac wedi dileu ei chyfrif Twitter wedi iddi ddod i'r amlwg ei bod wedi anfon neges yn dweud "Peidiwch byth bythoedd ag ymddiried mewn Ceidwadwr".

Yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth i'r amlwg fod Archesgob Caergaint, Justin Welby, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart i fynegi ei "gywilydd" am y sylwadau.

Roedd yr Archesgob yn ymateb wedi i Mr Hart ysgrifennu ato yn dweud "er bod hawl gan ddinasyddion, gan gynnwys offeiriaid, gyfathrebu â gwleidyddion mae sylwadau Dr Penberthy wedi mynd yn bellach na'r disgwyl".

Mae Aelod Seneddol Gorllewin Dorset, Chris Loder, hefyd wedi galw arni i ymddiswyddo.

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Dr Penberthy oedd yr olaf o'r esgobion i gael ei chysegru gan y cyn-Archesgob Dr Barry Morgan

Yn ystod y penwythnos fe wnaeth archddiaconiaid ysgrifennu at yr offeiriaid i'w hysbysu na fydd yr Esgob Penberthy yn y gwaith am gyfnod.

Mae'r llythyr a welir yma , dolen allanol yn dweud bod Mainc yr Esgobion yn "cyfathrebu gyda Llywodraethau Cymru a'r DU er mwyn sicrhau bod ymddiheuriad yr Esgob Joanna yn cael ei glywed". Dywed y llythyr hefyd bod "camau yn cael eu cymryd er mwyn adfer y berthynas sydd wedi'i niweidio [gan y sylwadau]".

Bydd ei swyddfa yn parhau ar agor yn ystod ei habsenoldeb ond mae offeiriaid wedi cael cais i gysylltu ag archddiaconiaid yn gyntaf.

Mae'r llythyr yn nodi ymhellach: "Gweddïwch am y Fainc, y rhai sy'n eu cynghori, eich Archddiaconiaid ac yn arbennig yr Esgob Joanna. Rydych i gyd yn ein gweddïau".

Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth yr Esgob Penberthy ymddiheuro am ei negeseuon ar ei chyfrif Twitter ac fe wnaeth yr Eglwys yng Nghymru hefyd ymddiheuro ei bod wedi tramgwyddo.

Dywedodd Joanna Penberthy, esgob benywaidd cyntaf yr eglwys, nad oedd hi wedi gwirio ei ffeithiau cyn trydar ar gam mai polisi y Ceidwadwyr oedd diddymu'r Senedd.

Dywedodd: "Wrth gwrs, rwy'n ymddiried ac wedi ymddiried mewn nifer o Geidwadwyr ac rwy'n gwybod bod nifer o bobl anrhydeddus yn y blaid."

Dywedodd hefyd: "Rwy'n ymddiheuro hefyd am negeseuon eraill o fy nghyfrif sydd wedi peri loes. Er bod gennyf ddaliadau gwleidyddol cryf, rwyf wedi eu mynegi ar Twitter mewn ffordd anghyfrifol ac amharchus ac mae'n ddrwg iawn gen i am hyn."

Pynciau cysylltiedig