42% yn llai i ysgolion dalu i fwrdd arholi CBAC

  • Cyhoeddwyd
Tri myfyriwr wrth eu desgiau arholi yn gwisgo mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bwrdd arholi CBAC wedi cyhoeddi y bydd 'na ostyngiad o 42% mewn ffioedd i ysgolion ar gyfer arholiadau TGAU, AS a Safon Uwch yr haf hwn.

Roedd arweinwyr rhai ysgolion wedi galw am ad-daliadau sylweddol i adlewyrchu'r ffaith bod asesiadau wedi'u marcio a'u graddio gan athrawon eleni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd ei bod yn darparu £1.6m ychwanegol o gymorth i ganolfannau.

Yn ôl CBAC mi fydd hyn yn ostyngiad o 50% drwyddi draw, ac ad-daliad o £8m i ysgolion a cholegau.

Yn flynyddol mae miliynau o bunnau'n cael eu talu bob blwyddyn gan ysgolion am wasanaethau CBAC a llynedd mi gafodd gostyngiad o 23% ei gynnig ar ôl i arholiadau gael eu canslo.

Mae rhai penaethiaid wedi cwyno bod staff yn gwneud gwaith arholwyr ac wedi gorfod ymdopi â'r baich gwaith sylweddol sydd fel arfer yn cael ei gwblhau gan y bwrdd arholi.

Disgrifiad o’r llun,

Ian Morgan yw prif weithredwr CBAC

Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr CBAC ei fod wedi bod yn "flwyddyn digynsail i bob un ohonom yn y sector addysg".

"Mae ein ffioedd nid yn unig yn talu'r costau sy'n gysylltiedig â rhedeg a chyflwyno arholiadau'r haf, mae eu hangen hefyd i ariannu'r gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd."

Roedd hyn yn cynnwys cymwysterau galwedigaethol dwyieithog newydd, meddai, a gwaith sylweddol ar gefnogi'r cwricwlwm newydd.

Yn ôl CBAC mae'r gwaith o gefnogi ysgolion a cholegau wedi cynnwys darparu tua 3,000 o bapurau wedi'u haddasu a chynlluniau marcio, dros 900 o gyflwyniadau hyfforddiant pynciau penodol ac 16 sesiwn hyfforddi.

Fe gafodd arholiadau TGAU a Safon Uwch traddodiadol eu canslo yr haf yma am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd y pandemig.

'Ad-daliad ar unwaith'

Wrth ymateb, dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru: "Mae ein haelodau wedi ysgwyddo mwyafrif y gwaith a'r cyfrifoldeb o roi graddau, a dyw'r broses apelio heb ddechrau. Rydym yn falch o glywed am ad-daliad o 50%, ac mae'n iawn bo ysgolion yn cael eu digolledu am y gwaith ychwanegol.

"Pan rydym yn clywed y gallai ad-daliadau yn Lloegr fod yn 20-25%, rydym yn falch fod CBAC a Llywodraeth Cymru'n cydnabod gwaith yr ysgolion.

"Fe fyddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru fodd bynnag i sicrhau ein bod yn cael yr ad-daliad ar unwaith, nid mewn adolwg, pan mae blaenoriaethau pwysig i'r arian yna nawr i gefnogi pobl ifanc yn academaidd ac yn fugeiliol."

Pynciau cysylltiedig