Achos gwrthdrawiad a laddodd mam a merch yn 'aneglur'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod hi'n dal yn aneglur pam y gwyrodd cerbyd ar draws ffordd yng Ngwynedd haf diwethaf gan wrthdaro gyda lori a lladd mam a merch o Borthmadog.
Bu farw Anwen Mitchelmore, 59, a'i mam 84 oed, Nancy Roberts wedi i VW Polo Mrs Mitchelmore groesi i lôn anghywir yr A547 yn ardal Garndolbenmaen tua 15:30 ar 15 Gorffennaf y llynedd.
Cofnododd y crwner gasgliad bod y ddwy wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.
Clywodd y gwrandawiad bod y ddwy'n teithio tua'r de ar ôl ymweld â pherthnasau yn Nyffryn Nantlle a bod lori nwyddau DAF, oedd yn teithio i gyfeiriad Caernarfon, newydd yrru heibio tractor gyda threlar cyn y gwrthdrawiad.
Dangosodd luniau dash cam cerbyd arall bod y symudiad hwnnw heb chwarae unrhyw ran yn y gwrthdrawiad.
'Modd osgoi'r gwrthdrawiad yma'
Dywedodd yr archwiliwr gwrthdrawiadau Gordon Saynor wrth y cwest: "Ni allaf egluro pam y croesodd Ms Mitchelmore i'r lôn wrthwynebol.
"Fy marn ar ôl ystyried yw bod modd osgoi'r gwrthdrawiad yma."
Dywedodd ei fod yn diystyru ffactorau amgylcheddol neu namau cerbyd blaenorol fel rhesymau posib.
Er bod y lori'n teithio fymryn yn gyflymach nag y dylai ar ffordd A yn ôl data'r tacograff, dywedodd Mr Saynor na allai "ystyried hynny'n berthnasol".
Cadarnhawyd yn y fan a'r lle bod Ms Roberts a Ms Mitchelmore yn farw, ac fe glywodd y cwest bod "dim tystiolaeth o lewyg meddygol" allai fod wedi achosi i Ms Mitchelmore golli rheolaeth ar ei char.
Bu farw o anafiadau niferus a bu farw Ms Roberts o ganlyniad trawma i'r bron a'r abdomen.
'Gyrrwr diogel'
Mewn datganiad i'r gwrandawiad, dywedodd merch Ms Mitchelmore, Kiri Ann Mitchelmore, bod ei mam wedi dysgu gyrru wedi ei phen-blwydd yn 50, gan gael gwersi heb yn wybod i'r teulu.
Dywedodd bod ei mam yn yrrwr "diogel" gyda thrwydded yrru lan, a'i bod yn glynu'n gyson i gyfyngiadau cyflymder.
Dywedodd Uwch Grwner Dros Dro Gogledd Orllewin Cymru, Katie Sutherland, na allai diystyru'r posibilrwydd bod y gwrthdrawiad yn ganlyniad gweithred fwriadol gan Mrs Mitchelmore.
Ond dywedodd bod "dim tystiolaeth o gwbl taw dyna'r achos ac rwy'n cael hynny'n annhebygol iawn".
Cydymdeimlodd gyda'r teulu am golli dau berthynas yn y fath fodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020