Cymru v Denmarc: Page yn barod wrth i'r gic gyntaf agosáu

  • Cyhoeddwyd
cymru yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth McAuley roddodd y bêl i'w rwyd ei hun i roi buddugoliaeth i Gymru yn rownd yr 16 olaf yn Euro 2016

Bum mlynedd yn ôl roedd tîm Cymru'n deffro wedi iddyn nhw sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Euro 2016.

Roedd hi'n gêm dynn yn erbyn Gogledd Iwerddon, gyda gôl i'w rwyd ei hun gan Gareth Macaulay yr unig un i wahanu'r ddau... ond Cymru oedd y ffefrynnau y tro yna.

Tasg bur wahanol sy'n eu hwynebu ddydd Sadwrn yn yr Johan Cruijff Arena yn Amsterdam.

Mae'r bwcis yn dweud mai Denmarc yw'r ffefrynnau clir, gan gynnig pris o 2/5 ar y Llychlynwyr i fynd ymlaen i'r rownd nesaf.

Ystadegyn arall yw nad yw Cymru erioed wedi ennill gêm yn Yr Iseldiroedd. Tybed yw hynny ar feddyliau'r chwaraewyr?

Ffynhonnell y llun, UEFA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bale mewn hwyliau da yn y gynhadledd

Dyna ofynnwyd i Gareth Bale mewn cynhadledd newyddion ddydd Gwener, ac roedd ei ateb yn glir.

"Dydw i erioed wedi chwarae yma, a dwi ddim yn meddwl bod gweddill y bois wedi chwaith, felly na... dyw e'n poeni dim arnan ni."

Mae digon o bethau eraill i beri pryder wrth gwrs. Mae Denmarc wedi cyrraedd y rownd yma er gwaethaf gêm agoriadol ddramatig a thrawmatig yn y gystadleuaeth.

Pan gafodd Christian Eriksen ataliad ar y galon yn ystod y gêm yn erbyn Y Ffindir, roedd ei gyd-chwaraewyr a gweddill y byd pêl-droed yn gweddïo.

Mae'r digwyddiad wedi dod â'r byd chwaraeon at ei gilydd, ac wedi dod â thîm Denmarc yn agosach at ei gilydd hefyd. Yn y gynhadledd newyddion, fe awgrymwyd fod pawb 'niwtral' bellach yn cefnogi Denmarc.

Fe wnaeth rheolwr Cymru, Robert Page, feddwl cyn ateb...

"Ein blaenoriaeth ni yw Christian [Eriksen]," meddai. "Y peth pwysicaf oll yw ei fod e'n gallu mynd yn ôl at ei deulu, a bod yn iach.

"Ond wedi dweud hynny, mae gyda ni dasg i'w chyflawni, sef ennill gêm bêl-droed.

"Dyma binacl fy ngyrfa fel rheolwr... mae'r gwaith paratoi i gyd wedi ei wneud, mae pawb yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw wneud, ac fe wna i gysgu'n dawel heno gan wybod hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Fydd prin ddim cefnogwyr o Gymru yn Arena Johan Cruijff ddydd Sadwrn

Roedd rhaid sôn hefyd am y diffyg cefnogwyr o Gymru fydd yn Amsterdam ar gyfer y gêm, ond mae'r negeseuon o adre wedi bod yn bwysig.

Ychwanegodd Page: "Mae gweld yr holl negeseuon wedi bod yn wir ysbrydoliaeth. Ry'n ni wedi bod yn gwylio llwyth o fideos o blant mewn ysgolion ar draws y wlad yn canu'r anthem, ac mae'r tîm i gyd wedi eu gwylio nhw.

"Ry'n ni'n ymwybodol iawn fod Cymru gyfan y tu ôl i ni, ac mae hynny mor bwysig."

Gyda'r gemau grŵp ar ben, fydd dim mwy o gemau cyfartal. O hyn ymlaen, mae'n amser ychwanegol os fydd hi'n gyfartal wedi 90 munud, ac os yw'n dal yn gyfartal wedyn... ciciau o'r smotyn.

Methu fu hanes Gareth Bale o'r smotyn yn erbyn Twrci wrth gwrs, ond mae'r tîm i gyd wedi paratoi'n drylwyr ers hynny.

"Ry'n ni wedi bod yn ymarfer ciciau o'r smotyn, gan gynnwys gorfodi'r chwaraewyr i gerdded o'r llinell hanner i'r cwrt i'w cymryd nhw.

"Fyddwn ni ddim yn penderfynu tan yr adeg hynny pwy yn union fydd yn eu cymryd nhw, ond mae pawb yn barod."

Y gobaith - er lles iechyd pawb yng Nghymru - yw na fydd eu hangen nhw o gwbl.