Ymddiheuro wedi camdriniaeth mewn coleg Catholig

  • Cyhoeddwyd
St Peter Claver College, MirfieldFfynhonnell y llun, Bede Mullen
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gamdriniaeth yng ngholeg St Peter Claver ym Mirfield yn y 1960 a'r 70au

Mae esgob Catholig wedi "ymddiheuro o waelod calon" i ddynion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan yn fechgyn mewn coleg hyfforddi - ymhlith y rhai a ddioddefodd mae dyn o Lanelwy.

Digwyddodd y cam-drin yng Ngholeg Sant Peter Claver ym Mirfield, Sir Gorllewin Efrog yn y 1960au a'r 70au.

Dywedodd Esgob Leeds bod y dynion wedi cael eu cam-drin gan bobl y dylent fod wedi gallu ymddiried ynddynt.

Roedd y coleg yn cael ei redeg gan genhadaeth Gatholig, Y Tadau Verona, a elwir bellach yn Urdd y Comboni.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Urdd y Comboni eu bod wedi eu tristáu o glywed yr honiadau o gam-drin yn y gorffennol a'u bod yn cydnabod y niwed sy'n cael ei achosi gan gam-drin plant. Dywedodd hefyd bod yr Urdd yn ymddiheuro am unrhyw gamdriniaeth a ddioddefodd y cyn-ddisgyblion.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi gweithio'n galed i ymateb yn ddifrifol ac yn sensitf i'r cwynion ac wedi cefnogi a chydweithredu'n llawn gyda'r Ymchwiliad Annibynnol i Gamdrin Plant yn rhywiol

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Murray o Lanelwy mai dyma'r tro cyntaf i'r eglwys gydnabod yr hyn ddigwyddodd

Roedd Mark Murray o Lanelwy ymysg y rhai a fu'n cwrdd â'r esgob ddydd Gwener.

Dywedodd fod yr ymddiheuriad yn "gam eithriadol o bwysig" ac yn dangos bod yr eglwys yn newid ei hagwedd gan wrando ar ddioddefwyr.

Dywedodd y Gwir Barchedig Marcus Stock ei fod wedi treulio llawer o amser yn "gweddïo a myfyrio" ar sut i fynegi'r cywilydd a deimlai am y gamdriniaeth yr oeddent wedi'i dioddef.

Dywedodd bod y Pab yn ymwybodol nad oedd y dynion wedi "derbyn ateb bugeiliol digonol" gan arweinwyr Urdd y Comboni a dyna pam ei fod ef fel esgob wedi penderfynu ymddiheuro'n bersonol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Esgob Leeds, y Gwir Barchedig Marcus Stock, ymddiheuro o waelod calon

"Mae nifer wedi parhau i ddioddef," meddai, "gan iddynt gael eu hanwybyddu a doedd neb yn gwrando arnynt - mae hynny hefyd yn ffurf o gamdriniaeth."

Ychwanegodd ei fod yn sylweddoli bod yr ymddiheuriad yn cael ei ystyried yn "rhy bitw ac yn rhy hwyr".

Dywedodd Bede Mullen, un o'r dioddefwyr, o Sir Gorllewin Efrog, fod y cam-drin a'r ffordd roedden nhw wedi cael eu trin gan yr eglwys wedi cael effaith fawr ar eu bywydau a mai neges yr eglwys tan heddiw oedd "cewch bant ac anghofiwch beth ddigwyddodd".

"Mae dau o'n haelodau wedi marw cyn yr ymddiheuriad hwn, mae llawer wedi cael bywydau anodd oherwydd eu profiadau fel plant," ychwanegodd.

'Ymddiheuriad yn werthfawr'

Dywedodd Mark Murray fod yr ymddiheuriad "yn hynod o werthfawr".

"Dydyn ni erioed wedi cael un. Rydym bob amser wedi cael ein hanwybyddu mewn gwirionedd."

Dywedodd mai'r unig adeg yr oedd yr eglwys wedi cysylltu â'r dioddefwyr o'r blaen oedd drwy'r llysoedd.

"Rwy'n credu ei fod yn dangos newid yn yr Eglwys Gatholig wrth i fwy o bobl ddechrau gwrando ar ddioddefwyr a'r rhai sydd wedi goroesi," meddai.

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod (drwy gyswllt fideo) roedd y Cardinal Vincent Nichols, Archesgob San Steffan, a'r Archesgob Charles Scicluna o Malta, sy'n ysgrifennydd y corff sy'n delio ag achosion o gam-drin rhyw o fewn yr eglwys Gatholig.

Yn 2014 cytunodd Urdd y Comboni dalu iawndal i 11 o ddynion, a ddywedodd eu bod wedi cael eu cam-drin yn y coleg, ond dyw'r Urdd erioed wedi cydnabod y gamdriniaeth na chwaith eu cyfrifoldeb.

Dywedodd Mr Murray nad yw'n credu y byddai'n ymddiried mewn unrhyw ymddiheuriad gan Urdd y Comboni.

"Efallai y bydd ymddiheuriad y Combonis yn un gorfodol ac ni fyddwn am gael hynny - mae'n rhaid iddo ddod o'r galon."

"Allwch chi ddim aros am dros ddegawd am ymddiheuriad a'i gredu," meddai Mr Mullen.

Yn ystod y cyfarfod fe wnaeth yr esgob gydnabod nad oedd wedi llwyddo i drefnu cyfarfod rhwng y dioddefwyr ag Urdd y Comboni.

Fe wnaeth Heddlu Sir Gorllewin Efrog ymchwilio i adroddiadau o gam-drin rhyw yn yr athrofa ond gan fod dau o'r rhai sy'n cael eu hamau wedi marw dywedont nad oedd modd iddynt barhau â'r ymchwiliad.

Mae trydydd person sy'n cael ei amau dal yn fyw ond oherwydd salwch dyw hi ddim yn bosib i'w estraddodi o'r Eidal.

Pynciau cysylltiedig