Y sialens o bortreadu Grav ar y sgrîn

  • Cyhoeddwyd
Ffilmio golygfa o GravFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yr actorion Gareth John Bale a Rhys ap William, a’r cyfarwyddwr Marc Evans yn sgwrsio ar set Grav, yng Nghlwb Rygbi Aberafan

Wrth iddo orffen ffilmio Grav, mae'r actor sy'n portreadu'r arwr o Fynydd-y-Garreg wedi egluro sut wnaeth rygbi effeithio ar y ffordd roedd Ray Gravel yn siarad.

Gareth John Bale, wnaeth chwarae'r rhan yn y ddrama lwyfan un dyn, sydd nawr yn yr un rôl ar gyfer addasiad teledu i S4C.

Ond cyn dechrau ffilmio fe wnaeth arbenigwr llais ddangos iddo sut roedd rygbi wedi effeithio ar leferydd cyn ganolwr Llanelli, Cymru a'r Llewod - a sut roedd y ffordd roedd o'n siarad yn newid rhwng Cymraeg a Saesneg.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gareth John Bale yn portreadu Ray Gravell. Bydd y ddrama Grav yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Medi

"Nes i weithio gydag Emma Stevens-Johnson ar cwpl o bethau, fel rhythm," eglurodd Gareth. "Roedd hi'n gwybod yn syth i ffwrdd bod Grav wedi torri ei drwyn, ac wrth gwrs roedd wedi torri ei drwyn wrth chwarae rygbi.

"Roedd hynny'n golygu doedd e methu anadlu'n iawn trwy ei drwyn ac felly weithiau fyddai e ddim yn cyrraedd diwedd brawddegau heb anadlu ac roedd rhythm ei siarad yn wahanol.

"Dyw hynny ddim yn naturiol i actor ond o wybod hynny, yn sydyn reit, jest o wneud yr addasiad hynny roedd yn newid y rhythm a ro'n i'n dechrau swnion fwy fel Grav."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai golygfeydd o’r ddrama Grav eu ffilmio yng Nghlwb Rygbi Aberafan

Yn Saesneg oedd y ddrama, gafodd ei llwyfannu ar draws Cymru ac yng Nghaeredin, Washington ac Efrog Newydd, felly roedd rhaid i'r actor ddod i ddeall sut roedd Ray Gravell yn newid yn dibynnu ar ba iaith oedd o'n siarad.

"Mae'r ffilm yn Gymraeg, ac mae Grav yn hollol wahanol pan mae'n siarad Cymraeg o'i gymharu gyda Saesneg - ni gyd yn wahanol," meddai. "Pan oedd e'n siarad Saesneg roedd e ychydig bach mwy over the top ac fel petai'n nodio a dweud 'I am speaking sense'.

"Yn y Gymraeg roedd lot mwy relaxed, roedd y pen yn mynd nôl, yr ysgwyddau yn mynd lawr, doedd e ddim yn symud ei geg cymaint - roedd yn ymlacio fwy gan mai dyna ei fam iaith.

"Dywedodd Emma, yn Saesneg mae fel petai'n siarad fel y mynyddoedd - gyda lot o peaks and troughs. Yn Gymraeg mae fwy fel bryniau bach, sy'n wir amdanom ni'r Cymry efo'r lilt pan ni'n siarad."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y cyfarwyddwr Marc Evans tu ôl i’r camera, wrth i Gareth John Bale a Rhys ap William ffilmio golygfa. Fe wnaeth y ffilmio ddod i ben ganol Gorffennaf

Dywedodd yr actor ei fod yn teimlo cyfrifoldeb wrth bortreadu rhywun oedd mor boblogaidd yng Nghymru.

Ond ychwanegodd ei fod o a'r criw wedi cael hyder yn yr ymateb cadarnhaol i'r ddrama gan weddw Grav, Mari, a'u dwy o ferched Manon a Gwenan.

Roedd rhan o'r ffilm, sy'n cael ei chyfarwyddo gan Marc Evans, yn cael ei ffilmio yn Mynydd-y-Garreg, cartref Grav.

"Roedd yn brofiad emosiynol iawn i ffilmio yn ei filltir sgwâr," meddai Gareth. "Yn ffodus doedd gen i ddim llawer o linellau i'w dweud neu byddwn i wedi gweld hi'n anodd cael y geiriau allan.

"Wy'n cofio ni'n gwneud perfformiad o'r ddrama yn Mynydd-y-Garreg yn y neuadd ac roedd hwnnw'n rili emosiynol ac roedd pobl yn dweud wrtha' i 'you do realise that every single person has a connection to Grav' a ro'n i'n teimlo'r pwysau."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r cyn-chwaraewr rygbi a'r darlledwr, Ray Gravell, yn 2007

Ac roedd yr emosiwn i'w deimlo gan Gareth gan ei fod yntau hefyd efo cysylltiad gyda Ray Gravell, ac wedi dod i'w adnabod wrth ffilmio A470 yn 2004.

"Gyda Grav roedd popeth amdanat ti, nid fe," meddai Gareth. "Er ei fod wedi chwarae cymaint o weithiau dros Lanelli, Cymru a'r Llewod roedd e bob tro'n holi amdanat ti. Gyda actio bydde'n dweud 'ti ydi'r un profiadol, ti sydd wedi bod yn y coleg' - er bod ei CV actio fe'n enfawr, ac wedi gweithio gyda phobl fel Louis Malle, Peter O'Toole, Jeremy Irons.

"Roedd yn gwneud i bawb arall deimlo'n bwysig - ac amser i bawb, ac mae hynny'n sgil arbennig iawn."

Bydd ffilm S4C yn cael ei darlledu ar ddyddiad pen-blwydd Grav a 12 o Fedi, pan fyddai wedi bod yn 70.

Ac mae'r actor yn edrych ymlaen - er yn nerfus o wybod beth fydd ar y sgrin fawr yn y diwedd.

Meddai: "Mae'n wahanol gyda'r theatr. Pan fi lan ar y llwyfan fi'n berchen y rhan ond nawr fi ddim mewn control - unwaith fi'n gorffen y ffilmio nid fi sy'n penderfynu beth sy'n mynd allan, efallai fydd golygfeydd neu rannau wedi eu tynnu allan.

"Ond fi mewn dwylo saff gyda Marc Evans."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig